Skip to main content

Diagnosis, triniaethau a llesIechyd meddwl oedolion

Iachâd Alzheimer’s neu gyhoeddusrwydd di-sail?

29 Gorffennaf 2016

Cafwyd honiad mewn nifer o bapurau newydd ddoe fod y driniaeth ar gyfer dementia wedi cymryd cam mawr ymlaen: “Gwyddonwyr yn creu’r cyffur cyntaf i atal Alzheimer’s” (The Times); “Gwyddonwyr yn darganfod y cyffur cyntaf i atal dirywiad yr ymennydd yn Alzheimer’s” (The Sun). Ai’r gwirionedd yw hyn, neu achos arall o godi gobeithion gleifion a’u teuluoedd yn ddiangen?

Drwy edrych ar y manylion, daw i’r amlwg nad oes unrhyw dystiolaeth glir sy’n dangos bod y cyffur yn gweithio gweithio o gwbl. Nwl oedd prif ganlyniad y treial ymysg pobl: dim tystiolaeth o ganlyniadau gwell i’r cleifion sy’n cymryd y cyffur hwn (ochr yn ochr ag unrhyw feddyginiaeth arall y maent yn eu cymryd) o’i gymharu â’r plasebo (ochr yn ochr ag unrhyw feddyginiaeth arall y maent yn eu cymryd). Felly, pam mae canlyniad nwl wedi arwain at benawdau newyddion amlwg sy’n honni’r gwrthwyneb?

Daw’r llygedyn o obaith – ymadrodd a ddefnyddiwyd gan The Sun,er tegwch iddynt – o’r 15% o gleifion nad oedd yn cymryd unrhyw driniaethau eraill ar yr u pryd. Gwelwyd canlyniadau gwell ymysg y cleifion hyn, ond roedd hyn o’i gymharu â’r rheolaethau cyffredinol, nid o’i gymharu â sampl. Gall y canlyniad hwn wedi digwydd ar hap, gan fod sawl ffordd bosibl o ddadansoddi’r data ar ôl ei rannu’n is-grwpiau. Mewn geiriau eraill, mae problem sy’n gysylltiedig â chymariaethau lluosog, fel yr eglurir mewn blog gan Tom Chivers.

Gall y llygedyn hwn o obaith ar gyfer is-set o gleifion fod yn ddigon i gyfiawnhau’r buddsoddiad enfawr sydd ei angen i gynnal prawf arall, yn benodol i a yw’r canlyniad yn wir neu’n annilys. Yn wir, mae’n bosib bod y treial hwn eisoes wedi dechrau, yn ôl dyfyniad yng nghylchgrawn Forbes.

Fodd bynnag, nid yw’n sicr yn cyfiawnhau’r penawdau a gafwyd heddiw. Nid oes unrhyw reswm hysbys pam y byddai’r cyffur yn gweithio ar ei ben ei hun yn unig, ac nid ochr yn ochr â chyffuriau eraill. Mae’r stori yn seiliedig ar gyhoeddiad am sgwrs mewn cynhadledd a gynhaliwyd ddoe, yn hytrach na phapur a adolygwyd gan gymheiriaid.

Felly, ai newyddiadurwyr, academyddion neu’r cwmni cyffuriau sy’n gyfrifol am y penawdau hyn? Prif ffynhonnell y straeon – a’r cyhoeddusrwydd – yw datganiad i’r wasg a gyflwynwyd ar newswire.

Dyma ffordd hynod gyffredin o greu newyddion am wyddoniaeth ac iechyd, ac mae hefyd yn ffordd gyffredin o greu cyhoeddusrwydd. Yn ôl ein hymchwil, mae llawer o’r hyn sy’n cael ei or-ddweud yn y newyddion eisoes yn y datganiadau i’r wasg sy’n bwydo’r newyddion. 

Y cwmni sy’n rhyddhau’r datganiad i’r wasg, ond mae’r cwmni’n gymharol fach ac mae wedi’i sefydlu gan wyddonwyr ac cael ei gynghori ganddynt. Nid yw’n gwmni amlwladol enfawr. A cheir dyfyniadau cryf iawn gan y gwyddonwyr hyn. Felly, nid achos syml a geir yma o wyddonydd pwyllog a swyddfa’r wasg mewn corfforaethol yn mynd dros ben llestri.

Wrth gwrs, mae gwyddonwyr yn aml yn ceisio dod o hyd i bethau cadarnhaol i’w dweud am astudiaethau sydd wedi ‘methu’, heb feddwl am y goblygiadau ystadegol. Mae’r gwyddonwyr wedi buddsoddi rhoi misoedd o’u hamser a channoedd neu filoedd o bunnoedd o arian rhywun arall, felly nid yw’n syndod eu bod yn gwneud hyn.

Mae treialon cyffuriau Cam 3 yn faes cwbl wahanol – drwy gael cipolwg cyflym ar eu gwefan, fe gostiodd hwn tua $135m yn ôl pob golwg.

Fodd bynnag, nid y gwyddonwyr a’r datganiad i’r wasg sydd ar fai yma – dylai newyddiadurwyr wybod yn well na llyncu’r math yma o gyhoeddusrwydd, felly dydw i ddim yn siŵr pam eu bod hwb wneud hynny yn yr achos hwn. Yn ddiddorol, mae’r straeon newyddion yn yr Unol Daleithiau yn rhoi darlun gwahanol i’r rhai yn y DU, fel y dywed Ben Goldacre.

Felly beth yw’r neges? Mae canlyniadau’r treial hwn yn fwy tebygol o olygu bod y math hwn o gyffuriau yn ddi-werth, yn hytrach na chynnig gwellhad newydd a wnaiff atal dilyniant dementia.

Edrychwch ar y manylion bob tro.

Mae’r Athro Petroc Sumner yn cael arian gan ESRC, Sefydiad BIAL, Ymchwil Alcohol y DU (ARUK), Cymdeithas Seicoleg Prydain, Ymddiriedolaeth Wellcome, BBSRC, WICN, Nuffield a’r Gymdeithas Frenhinol.