Skip to main content

Iechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd!

14 Tachwedd 2018
People profile heads. Vector background pattern.
People profile heads. Vector background pattern.

Roedd yn bleser mawr cadeirio sesiwn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ym Mhrifysgol Caerdydd ar 10 Hydref 2018.

Cawson ni gyfraniad anhygoel gan y staff a myfyrwyr gyda grŵp amrywiol o dros 60 o gyfranogwyr. Llofnododd Caerdydd adduned ‘Amser i Newid’ sy’n ceisio herio sut rydym yn meddwl ac yn gweithredu ynghylch iechyd meddwl, ac yn torri’r stigma a’r gwahaniaethu y gall pobl â phroblemau iechyd meddwl eu hwynebu.

Dywedir y bydd un o bob pedwar yn profi problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywyd. Gofynnwyd i’r gynulleidfa sefyll i fyny’n wirfoddol os oeddent erioed wedi profi problemau iechyd meddwl, a gwnaeth y mwyafrif llethol – ymhell y tu hwnt i’r un o bob pedwar a adroddwyd. Roedd yn foment ryfeddol a ddangosodd sut rydym dim ond yn gweld yr hyn sydd o’n blaenau yn aml, ac nad yw’r un ohonom yn gwybod beth mae’r bobl o’n cwmpas wedi’i brofi neu’r hyn y maen nhw’n ei brofi ynddyn nhw eu hunain.

Siaradodd Diana De am ein dealltwriaeth o ddiwylliant ac amrywiaeth a’r rôl y mae hynny’n ei chwarae mewn anghenion unigolyn ynghylch iechyd meddwl. Tynnodd Josh Lewis sylw at sut mae dioddef o broblemau iechyd meddwl yn broblem fawr yn y gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol +, a sut mae darparu gofal iechyd yn chwarae rhan bwysig gyda chymorth annigonol yn aml yn ychwanegu at eu baich iechyd meddwl.

Gan ymestyn o’r ymgyrch #LetsShare, rhannodd dau aelod o staff a a dau fyfyriwr eu profiadau personol ynghylch iechyd meddwl. Yr oedd yn hynod o deimladwy clywed eu hanesion gwirioneddol agored a gonest am yr hyn a fu’n gyfnod heriol iawn yn ystod eu hoes.

Dysgais rywfaint o negeseuon allweddol:

  • Mae’n rhaid i ni helpu ein gilydd Gwrando heb farnu.
  • Gall yr arwydd leiaf wneud y gwahaniaethau mwyaf.
  • Bydd yn gwella.
  • Weithiau ni allwch dynnu’ch hunan drwyddo. Hyd yn oed pan fydd yn ymddangos bod popeth ar y tu allan yn ddelfrydol, os nad yw y tu mewn, mae angen gofod ac amser i chi.
  • Gall meddyginiaeth helpu i wrthwneud y newidiadau cemegol sy’n digwydd yn eich ymennydd.
  • Gall peidio â chysgu a’r nosweithiau diddiwedd fod yn un o’r rhwystrau anoddaf i’w goresgyn.
  • Gall clywed eich hun yn chwerthin eto godi eich galon.
  • Bod â hiwmor pan fyddwch yn edrych yn ôl. Gall fod yn fecanwaith ymdopi i ddod i delerau â rhai o’ch adegau mwyaf anodd.
  • Cydnabod pwysigrwydd eich amgylchedd. Os ydych yn rhoi’r bobl fwyaf cydnerth mewn amgylchedd anodd, bydd yn anodd iddynt ffynnu. I’r gwrthwyneb, os oes gennych rywun sy’n teimlo’n fregus mewn amgylchedd meithringar, gall dyfu a ffynnu.
  • Hunan-gariad, hunan-ofal, amser a gofod. Dewch o hyd i’r pethau sy’n eich helpu.
  • Byddwch yn garedig i chi eich hun.

Hoffwn ddweud diolch yn fawr wrth y gynulleidfa, wrth y siaradwyr ac wrth Julie Bugden a drefnodd y digwyddiad hwn. Roedd hwn yn ofod cefnogol a diogel bendigedig. Ni theimlwyd bod unrhyw feirniadu ac unrhyw stigma.

Roedd bod yn rhan o’r sesiwn hon yn teimlo fel cam mawr ymlaen o ran mynd i’r afael â stigma iechyd meddwl a sefyll i fyny a siarad yn blaen fel y gallwn i gyd fod yno i’n cefnogi ein gilydd.