Skip to main content

Iechyd meddwl oedolionschizophrenia

Dewch i gwrdd â’r Ymchwilydd – Yr Athro Syr Michael Owen

5 Gorffennaf 2019

Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl?

Digwyddodd dri pheth i mi pan oeddwn yn fyfyriwr Meddygaeth a ddylanwadodd ar fy newis gyrfa.  Yn gyntaf, sylwais yn ystod fy nghwrs BSc Ymsang fy mod i’n hoffi gwneud gwaith ymchwil; roeddwn yn mwynhau gwneud arbrofion a dadansoddi’r canlyniadau.  Yn ail, dechreuais ymddiddori mewn niwrowyddoniaeth a gweithiais ar radd PhD yng nghanol fy astudiaethau meddygol. Yn drydydd, cefais fy nghyfareddu gan sgitsoffrenia yn ystod fy mloc seiciatreg, a chefais fy nghythruddo gan ein diffyg dealltwriaeth o’r cyflwr a’r diffyg triniaethau gwirioneddol effeithiol o ganlyniad i hynny.    

Pwy sydd wedi/yn eich ysbrydoli?

Un o’r manteision o fod yn academydd clinigol sy’n gweithio ym maes ymchwil feddygol yw bod eich cleifion a’u teuluoedd yn ffynhonnell gyson a chynaledig o ysbrydoliaeth. Maen nhw’n eich atgoffa pam eich bod wedi dewis gwneud hyn, ac yn rhoi rhwystredigaethau anochel bywyd academaidd mewn persbectif. 

Ar beth ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd?

Y prif beth rwyf yn ei wneud yw gweithio ar eneteg sgitsoffrenia, rhywbeth rwyf wedi bod yn ei wneud ers bron i 30 mlynedd, erbyn hyn. Mae diddordeb arbennig gennyf yn yr hyn y mae canfyddiadau geneteg yn ei ddweud wrthym am fioleg y cyflwr ac a oes modd i hynny daflu golau ar well triniaethau. At hynny, rwy’n ymddiddori yn yr elfennau geneteg hynny sy’n gyffredin rhwng gwahanol gyflyrau seiciatrig, ac yn ceisio deall sut allai hynny ein helpu i ddiffinio gwahanol anhwylderau’n well, a chyplu triniaethau newydd â’r cleifion cywir.

Sut mae eich ymchwil yn llywio eich ymarfer clinigol, ac i’r gwrthwyneb?

Rhoddais y gorau i ymarfer clinigol ychydig flynyddoedd yn ôl.Serch hynny, rwy’n falch ein bod, erbyn hyn, yn gweld y potensial ar gyfer cymhwyso canfyddiadau ym maes geneteg mewn modd clinigol er mwyn helpu i fireinio’r broses ddiagnosio, yn ogystal â datblygu triniaethau newydd. Mae’r meysydd hynny’n debygol o fod yn ganolbwynt ymchwil o bwys ym Mhrifysgol Caerdydd dros y 15 mlynedd nesaf. 

Pa newidiadau ydych wedi’u gweld mewn agweddau tuag at iechyd meddwl yn ystod eich gyrfa?

Er bod gennym ffordd bell i’w theithio er mwyn dileu’r stigma ynghylch cyflyrau seiciatryddol, mae yna arwyddion bod pethau’n symud. Yn bendant, mae mwy o ymwybyddiaeth bod y cyflyrau hynny’n effeithio ar lawer o bobl. Maen nhw’n effeithio arnom ni, nid y nhw. At hynny, mae’n help bod pobl yn llygad y cyhoedd yn gynyddol barod i siarad am eu hafiechydon meddwl. 

Yn eich barn chi, beth yw’r prif heriau ar gyfer iechyd meddwl?

Mae nifer fawr o’r rheini. Efallai mai’r un mwyaf yn eu plith yw nad yw’n ennyn yr un parch ag anhwylderau corfforol. Er bod cyflyrau seiciatrig yn dra chyffredin a chymhleth a’u bod yn effeithio’n negyddol ar gynifer o bobl, mae gwasanaethau a gwaith ymchwil yn cael eu hariannu’n gymharol wael. Rwy’n ffodus i fod wedi derbyn arian hael gan y Cyngor Ymchwil Feddygol ac Ymddiriedolaeth Wellcome dros lawer o flynyddoedd, ond prin iawn yw’r elusennau sy’n canolbwyntio ar ymchwil iechyd meddwl, ac mae rhoddion cyhoeddus a rhai eraill ar gyfer gwaith ymchwil iechyd meddwl yn rhai pitw. Dyma pam y dylai pob un ohonom fod yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth ynghylch heriau ymchwil iechyd meddwl, a’r hyn y mae’n ei addo.

Yr her arall o bwys yw bod y rhain yn gyflyrau cymhleth sy’n adlewyrchu llu o achosion (geneteg, seicolegol a chymdeithasol) hyd yn oed mewn un unigolyn yn unig. Mae hynny’n golygu bod angen cynnal ymchwil ar raddfa eang. Mae ein hymchwil ym maes geneteg yn aml yn cynnwys miloedd ar filoedd o bynciau, ac rwyf o’r farn y bydd yn rhaid i’r un peth fod yn wir am fathau eraill o ymchwil. Golyga hynny ein bod yn sôn am yr angen i ffurfio timoedd ag ymchwilwyr â sgiliau gwahanol, ac angen cynyddol i gydweithio. Mae’r model tîm gwyddoniaeth hwn yn un a ddatblygwyd gennym dros y blynyddoedd yn y Ganolfan MRC a Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, ac rwy’n rhagweld y bydd yn lledaenu ar draws maes ymchwil iechyd meddwl. Mae angen atebion mawr i broblemau mawr. 

Pa gyngor fyddech yn ei gynnig i’r rheini sy’n dechrau ar yrfa ym maes ymchwil iechyd meddwl?

Yr un cyngor ag y byddwn yn ei roi i unrhyw un sy’n ystyried dechrau ar yrfa ymchwil. Yn gyntaf oll, mae’n rhaid eich bod yn dwlu ar sawr y paent iro. Mae’n rhaid i chi fwynhau’r broses, yr amgylchedd a bod yng nghwmni cydweithwyr ecsentrig o’r un anian â chi. Yn ail, mae angen i chi gael nod mewn meddwl, a bod wedi eich ysbrydoli i geisio ei gyrraedd. Gallai hynny fod ar lefel eithaf uchel. Yn fy achos i, roeddwn eisiau deall beth sy’n achosi sgitsoffrenia ac fe wnes i hyfforddi ym maes geneteg er mwyn cyflawni hynny. Yn naturiol, byddwch yn newid cyfeiriad fwy nag unwaith ac yn mentro i lawr sawl llwybr cudd, ond mae angen cyrchfan ar y rhan fwyaf o siwrneiau, hyd yn oed os fyddwch chi fyth yn ei chyrraedd! Yn drydydd, mae angen i chi fod yn lwcus. Nid yw lwc yn digwydd ar hap, fodd bynnag! Yr hyn a glywaf yn aml am ymchwilwyr llwyddiannus yw eu bod yn digwydd bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Mae hynny’n diystyru’r ffaith eu bod, yn ôl pob tebyg, wedi rhoi eu hunain yn y sefyllfa honno drwy ddewis astudio yn un o’r labordai gorau, a thrwy ddewis y dulliau gorau o fynd i’r afael â pha bynnag broblem y maent yn ceisio ei datrys.  Mae gwyddonwyr yn hoffi meddwl ein bod yn llwyddo drwy ofyn y cwestiynau cywir. Mae hynny’n wir, i raddau. Fodd bynnag, technoleg sy’n llywio’r rhan fwyaf o gynnydd gwyddonol. Felly, edrychwch o’ch cwmpas a nodi pa dechnoleg newydd sy’n dod i’r amlwg ac yn debygol o fod yn flaenllaw dros y degawd nesaf. Er enghraifft, ym maes iechyd meddwl, yn ogystal â genomeg rydym wedi gwneud cynnydd ym meysydd Data Mawr, Deallusrwydd Artiffisial, technolegau digidol, delweddu’r ymennydd, modelau bôn-gelloedd, genomeg ymarferol a golygu genom, a bydd y rheini’n ein galluogi i ateb cyfres newydd sbon o gwestiynau diddorol a gyda lwc, dod o hyd i atebion defnyddiol a thrawsnewidiol. Felly, er gwaethaf yr heriau y soniais amdanynt uchod, mae hon yn adeg sy’n cynnig cyfle enfawr ym maes ymchwil iechyd meddwl.