Skip to main content

Iechyd meddwl oedolionIechyd meddwl plant a'r glasoed

Dewch i gwrdd â’r Ymchwilydd – Myfyriwr PhD

18 Ionawr 2019

Mae Sinéad Morrison yn fyfyriwr PhD sy’n gweithio’n rhan o astudiaeth ECHO, Profiadau Plant gydag Amrywiolion Rhifau Copi (Copy Number Variants)

Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl?

Mae iechyd meddwl wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ers oeddwn yn ifanc, a gallaf gofio i’r funud y foment pan esboniwyd i mi bod yr ymdeimlad o gorddi a brofais wrth ofidio am rywbeth yn deillio o fy ymennydd, mewn gwirionedd, nid fy stumog. Allwn i ddim yn credu bod rhywbeth oedd yn teimlo mor gorfforol yn gallu cael ei achosi gan y ffordd roeddwn yn meddwl, a’r emosiynau roeddwn yn eu teimlo. Gwnaeth hynny gynnau angerdd go iawn ar gyfer deall yr ymennydd ac iechyd meddwl.

Roedd fy mam, a hithau’n nyrs seiciatrig, yn berchen ar ychydig o werslyfrau am anhwylderau seiciatrig, a byddwn yn sleifio i’w hystafell a myfyrio yn eu cylch cyn hired ag y gallwn, er nad oeddwn yn deall rhyw lawer (gweithgaredd eithaf difflach i blentyn 12 oed). Penderfynais astudio Seicoleg yn y Brifysgol, a chefais fy ngwerslyfrau fy hun (nid yw’n deimlad mor gyffrous os ydych chi’n gorfod sefyll prawf ar y cynnwys). Fodd bynnag, roeddwn wrth fy modd yn cynnal gwaith ymchwil, felly gwnes i gais ar gyfer PhD mewn ymchwil iechyd meddwl.

Pwy wnaeth, neu pwy sy’n eich ysbrydoli?

Fy mam, sy’n nyrs seiciatrig, fu’n adrodd y straeon mwyaf diddorol i mi am ei hamser ar y wardiau, ac a gafodd argraff arnaf i hefyd o ran y diffyg adnoddau a thriniaethau sydd ar gael i bobl sy’n profi problemau iechyd meddwl.

Mae’r rhwydwaith o ymgyrchwyr ar gyfer cydnabod a thrin y syndrom geneteg rwy’n ei astudio (Syndrom Dileu 22q11.2) yn wirioneddol ysbrydoledig o ran eu gwaith diflino i wneud yn siŵr bod eu teuluoedd yn cael y gofal gorau posibl, mewn byd lle nad yw’r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am y syndrom. Maen nhw, a’r teuluoedd eu hunain yn fy atgoffa’n gyson pa mor bwysig yw’r gwaith ymchwil.

 Ar beth ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd?

Rydym yn ffodus iawn i gael carfan ardderchog o blant a phobl ifanc sydd â syndrom geneteg o’r enw Syndrom Dileu 22q11.2; yr astudiaeth ECHO. Rydym wedi bod yn olrhain sefyllfa’r teuluoedd hynny bob rhyw ddwy flynedd. Yn y gorffennol, mae ein grŵp wedi canfod lefelau uchel o broblemau iechyd meddwl, fel ADHD, gorbryder a phrofiadau anarferol fel rhithwelediadau yn y plant hynny, ac rwy’n ystyried sut allai’r rheiny newid dros amser, a chael eu cysylltu, o bosibl, â galluoedd dysgu fel talu sylw a chofio.

Sut mae eich ymchwil yn llywio eich ymarfer (clinigol), ac i’r gwrthwyneb?

Yn aml, nid yw teuluoedd na chlinigwyr yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth i blant â Syndrom Dileu 22q11.2 dyfu’n hŷn, ac felly mae’r ymchwil hon yn hanfodol er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth iddyn nhw ynghylch hynny, a gosod pethau yn eu lle’n gynnar i wneud yn siŵr bod cymorth ar gael.

Pa newidiadau ydych chi wedi’u gweld mewn agweddau tuag at iechyd meddwl yn ystod eich gyrfa?

Mae agweddau tuag at iechyd meddwl yn newid er gwell. Mae stigma yn gostwng o ran siarad am iechyd meddwl, ac mae llawer iawn mwy o bobl yn siarad yn agored am eu brwydrau personol ag iechyd meddwl, sy’n beth ardderchog. Fodd bynnag, mae cryn dipyn o le i wella o hyd cyn bod rhagfarn ar sail iechyd meddwl yn cael ei dileu’n llwyr. Gall ymchwil i iechyd meddwl helpu chwalu mythau niweidiol; er enghraifft, y gallai pobl â phroblemau iechyd meddwl fod yn beryglus neu’n dreisgar, pan fod ganddynt, mewn gwirionedd, fwy o risg o brofi trais. Mae hyn yn helpu i ostwng yr arfer o feirniadu’r rheini â phroblemau iechyd meddwl, ac felly’n annog pobl i ddatgelu’r problemau hynny, ac eraill i fod yn fwy parod i dderbyn.

 Yn eich barn chi, beth yw’r heriau allweddol ar gyfer iechyd meddwl?

Rydw i o’r farn mai un o’r heriau allweddol yw cymhlethdod y problemau rydym yn eu hastudio ym maes ymchwil iechyd meddwl, a’r anhawster o ran integreiddio’r ffactorau biolegol a chymdeithasol sy’n rhyngweithio mewn cymaint o ffyrdd gwahanol. Fodd bynnag, allech chi byth, fel ymchwilydd unigol, edrych ar bob ffactor sy’n cyfrannu at iechyd meddwl. Dyna pam mae cydweithredu mor hanfodol, oherwydd drwy gydweithio, gallwn ddechrau gosod darnau’r jig-so mawr hwn at ei gilydd!

Rydym wedi gweld enghreifftiau gwych o hyn yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gyda grwpiau ymchwil gwahanol, o wledydd gwahanol, hyd yn oed, yn cyfuno eu samplau er mwyn cael y cyfle gorau posibl o ddatguddio pethau sydd, o bosibl, yn cyfrannu at iechyd meddwl.

  Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i’r rheini sy’n dechrau ar yrfa ym maes ymchwil iechyd meddwl?

Dylech gynnwys barn y bobl rydych yn gobeithio fydd yn elwa, am mai nhw sy’n deall eu problemau’n well nag unrhyw un, ac yn cynnig syniadau gwych ar gyfer meysydd ymchwil.

At hynny, ceisiwch siarad â chymaint o bobl ag y gallwch am eich ymchwil – mae’n anodd ei grynhoi mewn fformat syml ar adegau, ond mae hynny wir yn helpu i ddygymod â phrif amcanion eich gwaith ymchwil, ac i beidio manylu gormod ar eich prosiect personol heb ystyried ei le o fewn y maes yn fwy eang.