Skip to main content

Adult mental healthIechyd meddwl oedolion

Deng Mlynedd o Gymdeithas Niwrowyddoniaeth Ôl-raddedig Caerdydd

6 Mawrth 2019

Ysgrifennwyd gan Bwyllgor PCNS

Arweinir Cymdeithas Niwrowyddoniaeth Ôl-raddedig Caerdydd (PCNS) gan fyfyrwyr a chaiff ei ariannu gan y Sefydliad Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHRI). Ein nod yw dod ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd sydd ar ddechrau eu gyrfa ac sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth at ei gilydd, i gynnig cyfleoedd iddynt ddysgu, cymdeithasu a rhwydweithio.

Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth o themâu sy’n gysylltiedig â niwrowyddoniaeth i gynnig cyfle i ymchwilwyr gwrdd â phobl newydd gyda diddordebau tebyg, a dysgu am y datblygiadau anhygoel sy’n digwydd ar hyn o bryd ym myd niwrowyddoniaeth.

“Mae’r PCNS yn cynnig lleoliad anffurfiol da i ymgysylltu â phobl o feddwl tebyg ac yn cynnig llwyfan i ddarganfod meysydd ymchwil diddorol newydd na fyddwn i wedi dod o hyd iddynt fel arall.” – aelod PCNS

Yn ddiweddar, buom yn dathlu deng mlynedd ers i ni ddechrau cynnal digwyddiadau niwrowyddoniaeth, sydd fel arfer yn dod mewn un o dri math, Caffis Gwyddoniaeth, Dan y Chwyddwydr… digwyddiadau a chymdeithasu!

Caffis Gwyddoniaeth

Yn ein Caffis Gwyddoniaeth, rydym yn cynnal cyflwyniadau gan ymchwilwyr niwrowyddoniaeth difyr, uchel eu parch o ystod eang o gefndiroedd. Ar ôl y cyflwyniad cynhelir ffilm sy’n ymwneud â’r testun, ynghyd â phitsa a gwin! Mae’r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i drafod pynciau presennol, poblogaidd neu ddadleuol mewn niwrowyddoniaeth.

Yn ein 10fed blwyddyn, gwnaethom groesawu’r siaradwr gwadd Alan Winfield, Athro Moeseg Roboteg ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, i drafod byd deallusrwydd artiffisial, wedi’i ddilyn gan ddangosiad o Ex-Machina. Yn 2017, gwnaethom gynnal ein Caffi mwyaf poblogaidd gyda’r Athro Chris French – darlith ar y thema Seicoleg Paranormal, wedi’i ddilyn gan y ffilm boblogaidd, Ghostbusters!

Dan y chwyddwydr…

Mae ein hail fath o ddigwyddiad yn sgyrsiau ‘dan y chwyddwydr’ sy’n rhoi’r cyfle i’r bobl sy’n bresennol glywed myfyrdodau ymarferol am sut beth yw byw gydag anhwylder seiciatrig neu niwrolegol gan glaf, neu rywun o’r tu allan i’r maes ymchwil sy’n gweithio gyda’r cyflwr. Yn aml, i ddilyn y siaradwyr hyn, cawn gyflwyniad gan glinigwr neu ymchwiliwr sydd â diddordeb penodol yn yr anhwylder, i esbonio sut y mae eu gwaith yn ymwneud â’r cyflwr a chyflwyno mwy o gefndir gwyddonol.

Mae digwyddiadau dan y chwyddwyr blaenorol wedi croesawu amrywiaeth o ymchwilwyr a chlinigwyr sy’n arbenigo mewn anhwylderau megis epilepsi, anhwylder obsesiynol cymhellol, clefyd Huntington ac Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth. Mae’r rhain yn cynnig cipolwg amgen ar yr anhwylderau nad ydynt fel arfer yn cael sylw mewn seminarau arferol mewn prifysgolion, ac ystyried y pwnc o safbwynt gwahanol.

Digwyddiadau Cymdeithasol

Yn olaf, mae’n hysbys i bawb bod ymchwilwyr ôl-raddedig yn aml yn teimlo’n unig, yn profi straen, ac â risg uchel o ddioddef problemau iechyd meddwl, felly mae’n bwysig cynnig amgylchedd anffurfiol i niwrowyddonwyr gymdeithasu a chael hwyl. Dyna pam mae rhai o’n digwyddiadau yn gymdeithasol yn unig, gan alluogi pawb i ymlacio a chael gwared ar straen yr ymchwil, a pharhau i fwynhau niwrowyddoniaeth. I rai, mae hyd yn oed yn gyfle i ailddarganfod mwynhad yn y pwnc ymhell oddi wrth bwysau yr ymchwil ei hun.

Rydym yn dechrau’r flwyddyn academaidd gyda’n digwyddiadau cwrdd a chyfarch, sef rhai o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd. Mae digwyddiadau cymdeithasol yn galluogi myfyrwyr newydd i ddod i adnabod y gymuned niwrowyddoniaeth, ac mewn blynyddoedd blaenorol rydym wedi cynnal nosweithiau cwis, gemau ymennydd a pharti Nadolig hyd yn oed!

Os ydych yn fyfyriwr neu’n aelod o staff Prifysgol Caerdydd a hoffech ymuno â ni, neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â phwyllgor PCNS ar: cardiffneurosciencesociety@gmail.com