Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Canolfan Adferiad Gellinudd Hafal: y cyntaf yng Nghymru

10 Chwefror 2017

Fis diwethaf, agorwyd Canolfan Adferiad Gellinudd yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething. Dyma wasanaeth newydd i gleifion mewnol sy’n dioddef salwch iechyd meddwl yn Hafal ym Mhontardawe. Dyma’r Ganolfan gyntaf o’i math a ddarperir gan gorff yn y Trydydd Sector: gwasanaeth nid-er-elw, i gleifion mewnol dan arweiniad ei defnyddwyr, gyda phwyslais amlwg ar adfer.

Datblygwyd y Ganolfan drwy gydweithio’n agos â’r GIG yng Nghymru er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n cynnig gwasanaeth sy’n cyd-fynd â gwasanaethau presennol GIG ac sy’n cyrraedd y safonau uchaf o ran llywodraethu clinigol. Mae ei dull gweithredu yn unol â chyfraith a pholisi Cymru gan gynnwys Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) a strategaethau “Law yn Llaw at Iechyd” a “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” Llywodraeth Cymru. Caiff y Ganolfan ei staffio gan nyrsys iechyd meddwl cofrestredig a nyrsys cyffredinol cofrestredig, ac fe’i cefnogir gan wasanaethau ffisiotherapi, therapi seicolegol a gwasanaethau eraill, yn ogystal â seiciatrydd.

Mae Canolfan Adferiad Gellinudd wedi cael nawdd gan y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru – ac mae staff Gellinudd hefyd wedi teithio i’r Unol Daleithiau a Chanada er mwyn dod o hyd i’r arferion gorau ac enghreifftiau arloesol o gyflwyno gwasanaethau. Mae academyddion o wledydd mor bell â Siapan a Thaiwan wedi ymweld â’r Ganolfan yn barod! Ein nod yw cynnig cyfleuster o’r radd flaenaf ac rydym wrth ein bodd bod gennym fyfyrwyr ar brofiad gwaith o Brifysgol Caerdydd er mwyn cefnogi a datblygu’r gwasanaeth.

Mae Canolfan Adferiad Gellinudd yn gwireddu hen ddyhead Aelodau Hafal i gael gwasanaeth blaengar i gleifion mewnol. Daeth y syniad ar gyfer y Ganolfan yn wreiddiol gan aelodau Hafal – pobl sydd wedi dioddef salwch iechyd meddwl – dros ddegawd yn ôl. Mae llawer o’n haelodau wedi bod mewn ysbytai iechyd meddwl eu hunain, ond eu bod heb gael profiad gwbl bleserus ynddynt. Soniodd un aelod o Hafal a oedd ynghlwm wrth y broses o ddatblygu’r Ganolfan am ei chyfnod yn yr ysbyty. Dywedodd ei bod hi’n gweld seiciatrydd unwaith yr wythnos am bum munud, ac roedd amser yn ofer rhwng y cyfarfodydd hynny.

Nod Gellinudd yw cynnig gwasanaeth mwy uchelgeisiol ar gyfer ei gwestai. Gallant gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys cerddoriaeth a chelf, NVQ ac astudiaethau wedi’u hachredu gan Agored Cymru, beicio a cherdded ym Mhenrhyn Gŵyr, Bannau Brycheiniog, Parc Coedwig Afan a’r Mwmbwls.  Hefyd, gwahoddir gwesteion i fynd i siopa bwyd ac i drefnu prydau eu hunain.

Bwysicaf oll, gwesteion Gellinudd sy’n arwain y gwasanaeth. Adeiladwyd y Ganolfan Adferiad ar fodel Hafal o alluogi cleientiaid sy’n golygu bod gwesteion yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn llywio’r wasanaeth, ei werthuso a phenderfynu ar sut y dylai ddatblygu.

Fel ein holl wasanaethau, mae Gellinudd yn cael ei chynnal ar sail ein Rhaglen Adferiad unigryw sy’n hyrwyddo hunan-reoli a dull cyfannol o wella. Mae amcanion adfer y gwesteion wedi’u nodi  mewn Cynllun Gofal a Thriniaeth sy’n mynd i’r afael â’r holl feysydd canlynol o fywyd:-

Yn ystod y broses, mae gwesteion yn cael eu hannog i fyw’n annibynnol ac i osgoi sefyllfa pan mae cleifion yn mynd yn ôl ac ymlaen i unedau seiciatrig am gyfnodau byr.

Er mwyn cefnogi eu cynnydd, mae Hafal yn darparu llety “camu ymlaen” a nifer o wasanaethau cymunedol fel y gall westeion symud ymlaen gam wrth gam tuag at fyw’n annibynnol. Mae ein gwasanaeth yn canolbwyntio ar wella sy’n gwneud yn siŵr bod gwesteion yn gallu symud ymlaen o’r gwasanaeth cyn gynted a’u bod yn barod, a’u bod wedi eu paratoi ac yn cael eu cefnogi er mwyn gwella.

Rydym yn defnyddio dull Gofal Iechyd Darbodus wrth ddatblygu ein gwasanaethau. Mae Gellinudd yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod y gwesteion mewn lleoliad therapiwtig, blaengar ac ysbrydoledig a fydd yn eu gwella. Bydd gwesteion yn cael eu cefnogi wrth wella a symud ymlaen yn hytrach nag aros yn eu cyflwr presennol, er mwyn sicrhau bod cost y gofal – yn nhermau dynol ac ariannol – yn lleihau dros amser.

Canlyniad hyn yw gwasanaeth sy’n gosod safonau newydd ar gyfer gofal cleifion mewnol. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu a rhannu ein model o arferion gorau ledled Cymru, y DU a’r byd. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf gennym am eich cynnydd!