Skip to main content

Diagnosis, triniaethau a llesIechyd meddwl oedolionIechyd meddwl plant a'r glasoed

Beth mae niwrowyddoniaeth wedi ei wneud dros seiciatreg erioed?

14 Gorffennaf 2016
Modern examination in the hospital
Modern examination in the hospital

Mae gan seiciatreg broblem.
Rydw i wrth fy modd gyda fy mhroffesiwn, sef Seiciatreg, ond un o’r rhesymau pam wnes i ymuno â’r gangen hynod ddiddorol hon o feddygaeth oedd oherwydd ei bod yn ymddangos yn amlwg i mi fod ganddi broblemau a fyddai’n newid yn ystod fy oes. Beth, felly, yw’r broblem gyda Seiciatreg? Wel, yn fy marn i, gellir deall y mater fel hyn. Os byddwch chi’n mynd at feddyg yn pesychu a gyda’ch anadl yn brin, bydd y meddyg yn ymchwilio i’r symptomau hyn ar eich rhan. Yn nodweddiadol, bydd y meddyg yn trafod eich symptomau gyda chi, yn gwrando ar eich brest, ac os ydi eich achos chi’n ddigon drwg, yn trefnu pelydr-x, prawf gwaed a diwylliannau gwaed. Yn y pen draw, bydd diagnosis penodol yn cael ei gyrraedd. Gallai’r diagnosis, o bosibl, fod yn un o niwmonia heintus, er enghraifft. Ar sail y diagnosis, bydd triniaeth wedi ei theilwra yn cael ei rhoi i chi, ac fe fyddwch chi’n gwella, yn ôl pob tebyg.

Gadewch i ni gyferbynnu hyn â sefyllfa Seiciatreg. Os byddwch chi’n mynd at feddyg gyda symptom fel iselder, bydd meddyg unwaith eto’n siarad gyda chi ac yn nodi hanes manwl eich cyflwr. Fodd bynnag, mae’n annhebygol iawn y gellir cynnal unrhyw brawf penodol sy’n llawn gwybodaeth, ac ar ddiwedd y broses bydd y meddyg yn dweud wrthych chi eich bod chi wedi cael diagnosis o iselder – sef, wedi’r cyfan, eich symptom cyn dod at y meddyg. Efallai y cynigir triniaeth, naill ai drwy therapi seicolegol neu driniaeth â chyffuriau, ond ni all y meddyg fod yn sicr y bydd yn trin eich iselder penodol, yn bennaf am nad yw ef neu hi’n gwybod beth yw union achosion eich salwch. A dyma’r pwynt allweddol. Seiciatreg yw’r gangen olaf o feddygaeth i symud o ddisgrifio pethau i ddeall eu hachosion, a nes byddwn ni’n deall achosion y cyflyrau hyn, ni fyddwn yn gallu trin pobl yn well.

Y newyddion da, fodd bynnag, yw bod y newid hwn yn digwydd yn awr. Rydym yn dechrau deall llawer mwy am yr hyn sy’n achosi problemau iechyd meddwl, a gallwn ddechrau meddwl am sut y gallwn eu trin yn well. Credaf fod gan Niwrowyddoniaeth rôl bwysig i’w chwarae wrth i’r newid hwn ddigwydd. Fodd bynnag, cyn symud ymlaen i feddwl am yr hyn y gall Niwrowyddoniaeth ei wneud yn y dyfodol, efallai ei bod yn werth meddwl am yr hyn mae Niwrowyddoniaeth wedi ei wneud yn barod dros Seiciatreg.

Beth mae niwrowyddoniaeth wedi ei wneud dros seiciatreg?
Efallai mai un o’r pethau pwysicaf a’m denodd i at Seiciatreg yw’r ffaith fod gennym rai triniaethau ar gyfer y prif gyflyrau a welwn, fel iselder neu seicosis neu orbryder. Cafodd llawer o’r triniaethau hyn eu darganfod ar hap – weithiau mewn ffyrdd rhyfedd a dirgel – fodd bynnag, mae Niwrowyddoniaeth wedi ein galluogi i ddeall y ffyrdd mae’r triniaethau gwahanol hyn yn gweithio. Mae hyn, yn ei dro, wedi dweud rhywbeth wrthym am achosion posibl cyflyrau fel iselder a sgitsoffrenia. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o’r meddyginiaethau gwrth-iselder mawr rydym yn eu defnyddio yn gweithio drwy effeithio ar system gemegol yn yr ymennydd sy’n ymwneud â serotonin niwrodrosglwyddydd. Yn yr un modd, mae cyffuriau trin sgitsoffrenia a symptomau seicotig yn tueddu i weithredu ar system yn ymwneud â dopamin yn yr ymennydd. Mae deall y systemau cemegol y mae’r meddyginiaethau hyn yn gweithredu arnyn nhw wedi ein galluogi ni i ddylunio rhai fersiynau o’r cyffuriau sy’n cael eu goddef yn well ac, yn bwysig, i ragfynegi a monitro sgil effeithiau gwell. Fodd bynnag, mae’n siomedig nad yw Niwrowyddoniaeth wedi nodi llawer o driniaethau newydd ar gyfer y cyflyrau mawr a welwn mewn cleifion eto.

Mae Niwrowyddoniaeth hefyd wedi dangos i ni, yn gwbl glir yn fy marn i, bod sail cyflyrau seiciatrig yn yr ymennydd. Er na ellir gweld y rhan fwyaf o anhwylderau seiciatrig drwy ficrosgop, ac eithrio cyflyrau fel clefyd Alzheimer, mae sganio’r ymennydd wedi ein galluogi ni i weld bod gwahaniaethau cynnil yn ymennydd rhai sy’n dioddef o gyflyrau fel sgitsoffrenia o’u cymharu â rhai nad ydyn nhw’n dioddef o’r cyflyrau hynny. Er bod hyn yn cael ei gymryd yn ganiataol yn aml yn awr, pan wnaed datblygiadau o’r fath am y tro cyntaf 40 mlynedd yn ôl, fe wnaethon nhw newid canfyddiadau, o feddwl bod sgitsoffrenia wedi ei achosi gan fagu plant yn wael i sylweddoli ei fod yn gyflwr go iawn ar yr ymennydd. Ers hynny, bu datblygiadau enfawr o ran sganio’r ymennydd, ond yn anffodus nid ydyn nhw wedi cael llawer o effaith ar ein hymarfer clinigol eto.

Efallai mai’r un datblygiad mawr arall, pe bai’n rhaid i mi ddewis dim ond un arall, fyddai ym maes geneteg seiciatryddol. Rydym wedi gwybod ers tro bod llawer o gyflyrau seiciatrig yn tueddu i redeg mewn teuluoedd. Fodd bynnag, er gwaethaf degawdau o waith ymchwil, bu’n anodd iawn nodi genynnau penodol sy’n ymwneud â chadarnhau hyn ar gyfer cyflyrau fel clefyd Alzheimer neu sgitsoffrenia. Fodd bynnag, yn ddiweddar, mewn enghraifft galonogol o wyddonwyr yn gweithio gyda’i gilydd ac yn cydweithio o gwmpas y byd, mae astudiaethau mawr wedi cael eu rhoi at ei gilydd sydd wedi cynnwys digon o bŵer, wedi ei gyfuno â thechnoleg newydd, i ddechrau dangos y ffactorau risg genetig sy’n cyfrannu at y risg o’r cyflyrau hyn. Mae hyn yn bwysig dros ben, gan fod geneteg yn ffordd benodol o gael rhywfaint o fewnwelediad i’r systemau biolegol lle gall newidiadau arwain at fod yn agored i niwed o ran problemau iechyd meddwl.

Beth allai niwrowyddoniaeth ei wneud eto dros seiciatreg?

Efallai mai’r cyffro mwyaf yw yr hyn y gall Niwrowyddoniaeth ei gyfrannu at Seiciatreg eto. Mae Technoleg wedi datblygu’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae astudiaethau yn bosibl yn awr nad oeddem byth yn meddwl y byddem yn gallu eu cynnal. Ynghyd â’n dealltwriaeth o risg genetig ac, wrth gwrs, y risg a ddaw i ganlyn ffactorau amgylcheddol amrywiol fel straen, mae gennym yn awr yr arfau i ddeall lawer yn well beth sy’n digwydd yn yr ymennydd, a beth sy’n achosi symptomau anhwylder meddyliol. Er bod gormod o wahanol ddatblygiadau mewn Niwrowyddoniaeth i mi eu rhestru i gyd, gellid cyfeirio at un fel enghraifft. Un o’r anawsterau mawr wrth astudio anhwylderau’r ymennydd fel sgitsoffrenia, iselder neu glefyd Alzheimer yw nad oes gennym fynediad at feinwe’r ymennydd gan bobl sy’n byw gyda’r cyflwr. Mae hyn yn cyferbynnu â sefyllfa rhywbeth fel canser y croen neu anhwylder yr afu, lle gellir cymryd biopsi. Drwy ddatblygiadau rhyfeddol mewn technoleg celloedd bonyn, fodd bynnag, rydym yn awr yn gallu cymryd samplau syml o groen neu wallt cleifion sydd â chyflwr seiciatrig, a gallwn dyfu’r rhain mewn dysgl mewn ffordd sy’n caniatáu i’r celloedd droi’n niwronau neu gelloedd yr ymennydd. Mae hyn yn golygu ein bod ni, am y tro cyntaf, yn gallu astudio celloedd ymennydd byw gan gleifion sydd â chyflyrau seiciatrig. Er mai dim ond yn ddiweddar mae’r dechnoleg hon wedi dod ar gael, wrth iddi gael ei datblygu mae’n ymddangos yn debygol yn barod y bydd yn gwneud cyfraniad mawr at ein gallu i ddeall y cyflyrau hyn. O’u cyfuno â meysydd eraill o gynnydd technolegol, fel datblygiadau enfawr yn ein gallu i sganio ymennydd byw mewn bodau dynol i ddeall y ffordd mae gwahanol rannau’r ymennydd yn rhyngweithio mewn iechyd ac afiechyd, rydw i’n wirioneddol obeithiol y byddwn ni’n gweld ton newydd o ddealltwriaeth a thriniaethau ar gyfer cyflyrau seiciatrig yn y degawdau i ddod.

Beth all niwrowyddoniaeth ei wneud dros hyfforddiant mewn seiciatreg?
Mae’r datblygiadau cyffrous hyn ym maes Niwrowyddoniaeth hefyd yn cynnig ffordd o ddenu pobl ifanc sydd â diddordeb mewn Gwyddoniaeth at Seiciatreg a disgyblaethau cysylltiedig. Yn America, Niwrowyddoniaeth yw un o’r meysydd mwyaf poblogaidd ar gyfer ymchwil ymysg y graddedigion meddygol disgleiriaf erbyn hyn, ac yn sicr yma yng Nghaerdydd mae ein rhaglenni PhD Niwrowyddoniaeth yn hynod boblogaidd a mwy o lawer wedi ymgeisio am y cyrsiau na’r llefydd sydd ar gael gennym ar eu cyfer. Mae hyn yn golygu y gallwn ddod â rhai o’r bobl ddisgleiriaf a gorau i faes Niwrowyddoniaeth, a rhai ohonyn nhw hefyd i faes Seiciatreg ac iechyd meddwl. Mae’r arbenigedd meddygol hwn wedi cael ei ystyried yn y gorffennol fel arbenigedd ‘Sinderela’, ond mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn. Fel y dywedodd Tom Insel, sydd newydd ymddeol fel Cyfarwyddwr NIMH yn America, hwn yw’r arbenigedd mae’r hyfforddeion gorau yn mynd amdano. Er bod y newid hwn wedi digwydd yn America, mae angen i ni gyfathrebu ar frys gymaint o gyffro sydd dros Niwrowyddoniaeth a’r posibiliadau ar gyfer deall a thrin anhwylderau’r ymennydd yn well i hyfforddeion yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â chyfrannu at sbarduno hyfforddiant seiciatrig yn y Deyrnas Unedig unwaith eto. Un datblygiad cadarnhaol iawn fu’r gefnogaeth yn ddiweddar gan Ymddiriedolaeth Wellcome a Sefydliad Gatsby i edrych ar sut gellir dod â Niwrowyddoniaeth i mewn i hyfforddiant ar gyfer arbenigeddau meddygol a chysylltiedig.

Sut beth fydd seiciatreg yn y dyfodol?
Yn y cyfnod cyffrous hwn, mae’n werth oedi am funud i feddwl sut byddem yn dymuno i arfer seiciatrig edrych yn y dyfodol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai conglfaen ein harfer fydd rhyngweithio rhwng meddygon a gweithwyr proffesiynol eraill y gwasanaeth iechyd a’u cleifion o hyd, yn seiliedig ar ymagwedd ofalgar ac empathig. Hyn sy’n gwneud Seiciatreg yn arbenigedd gwerth chweil, a gall greu perthynas mor arbennig rhwng gofalwyr a’u cleifion. Rwy’n gwbl sicr hefyd y byddwn yn parhau i fod angen ystyried pobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl mewn ffordd wirioneddol gyfannol, gan feddwl nid yn unig am eu sefyllfa gorfforol ond hefyd eu lleoliadau cymdeithasol ac amgylcheddol. Fodd bynnag, rwy’n gobeithio y byddwn ni hefyd yn gallu defnyddio dulliau Niwrowyddoniaeth yn y dyfodol i ddeall yn well yr hyn sy’n achosi i unigolion fod yn agored i niwed ac mewn perygl o salwch drwy sganio’r ymennydd neu brofion moleciwlaidd i’n galluogi ni i dargedu ein triniaethau presennol a datblygu triniaethau newydd lawer yn well, o safbwynt seicolegol a ffarmacolegol. Pan fydd ein triniaethau yn seiliedig ar yr hyn sy’n achosi gwir symptomau seiciatrig, ac yn cael eu targedu yn erbyn hynny, byddwn wedi dechrau datrys problemau Seiciatreg.

Mae’r Athro Jeremy Hall yn cael arian gan Ymddiriedolaeth Wellcome, y Cyngor Ymchwil Feddygol, yr UE, NRN, Astra Zeneca, Sefydliad Jane Hodge a Sefydliad Waterloo.