Skip to main content

anhwylder straen wedi trawmaIechyd meddwl oedolion

Anhwylder straen wedi trawma, gwaith, lludded ac argyfyngau ysbrydol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

13 Hydref 2016

Mae anhwylder straen wedi trawma (PTSD) bellach yn gyflwr adnabyddus sy’n cael ei adnabod wrth nifer o ffactorau allweddol gan gynnwys: presenoldeb un neu ragor o ddigwyddiadau a achosodd straen neu rai trawmatig; ôl-fflachiau i’r digwyddiad; meddyliau ymwthiol, yn aml gyda delweddau neu seiniau; gofid a gorbryder; datgysylltu neu ymddygiad osgoi arall.

Gall y cyflwr hwn o gynnwrf mawr arwain at symptomau anallu, megis ymosodiadau panig; ymddygiad ymosodol neu or-sensitif; tarfu ar batrymau cysgu oherwydd myfyrio a/neu hunllefau, a, heb fod yn syndod, diffyg canolbwyntio.

Mae gan ddarlun mor gymhleth effaith bellgyrhaeddol ar allu’r unigolyn i weithredu mewn gweithgareddau bob dydd; mae strategaethau i gynorthwyo hyn yn cynnwys amrywiaeth gynhwysfawr o ddulliau sy’n rhoi’r person yn y canol, gan gynnwys therapïau ymddygiadol gwybyddol, hypnosis, meithrin gwytnwch personol a chryfhau rhwydweithiau perthnasoedd.

Yn ddiddorol, er bod llawer o’r ymchwil sy’n ymwneud â PTSD yn tynnu sylw at ddigwyddiadau trawmatig penodol fel y ffactor achosol, mae astudiaeth gan Mealer et al yn nodi sut gall PTSD mewn gweithwyr iechyd ddod i’r amlwg o ganlyniad i ddigwyddiadau beunyddiol dro ar ôl tro, fel ymdrin â marwolaeth a marw, gormod o ofynion seicolegol a theimladau o ddiymadferthedd. Yn hollbwysig, nododd yr astudiaeth hefyd yn y cyd-destun hwn, fod diagnosis o PTSD bob amser yn digwydd yr un pryd â lludded, wedi’i amlygu gan flinder seicolegol llwyr a dadbersonoli. Pan oedd y rhain i’w cael ar yr un pryd, amlygodd y ddau ddiagnosis hwn lefelau sylweddol is o ymddiriedaeth mewn cydweithwyr a chleifion/cleientiaid, a lefelau uwch o symptomau seicolegol a nam ar allu swyddogaethol o ran perfformiad yn y gwaith a gartref o’i gymharu â’r unigolion hynny sy’n dioddef o ludded yn unig.

Wrth gwrs, mae’r ffactorau hyn yn effeithio nid yn unig ar iechyd a lles y gweithiwr unigol ac effeithiolrwydd y canlyniadau ar gyfer y sefydliad sy’n cyflogi, ond hefyd y gallu i weithio’n effeithiol gydag eraill ac i gynnal yr egni ymarferol ac emosiynol sydd ei angen i ofalu am gleifion/cleientiaid yn effeithiol. Daw hyn i’r amlwg yn benodol yn yr anallu i ddangos tosturi ac i roi o’r hunan yn ystyrlon. Mae hyn oherwydd nad dimensiynau corfforol, emosiynol a seicolegol lles yr unigolyn yn unig yr amherir arnynt, ond hefyd yr ochr ysbrydol, gan adlewyrchu methiant yn elfennau craidd hanfod dirfodol y person, neu ei ‘fodolaeth’ ac felly ei allu i gysylltu’n ystyrlon â’i hun neu ag eraill.

O ran gweithwyr gofal iechyd, mae hon yn golled nodedig mewn amgylchedd sy’n awr yn gofyn am y gallu i fod yn ofalgar ac yn dosturiol fel sgiliau cyn gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ac sy’n hyrwyddo defnydd emosiynol o’r hunan yn rhan o’r ymwneud therapiwtig.

Mae mynd i’r afael â hyn yn gofyn am ymagwedd bragmatig sydd nid yn unig yn ei gwneud hi’n ofynnol i sefydliad gefnogi gweithiwr unigol yn seicolegol, yn emosiynol ac yn gorfforol, ond hefyd yn ysbrydol; dim ond drwy weithio gyda’r dimensiwn hwn ar y natur ddynol sy’n aml yn cael ei anwybyddu y gall sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol obeithio cefnogi eu staff i ymarfer gofal iach a thosturiol am eraill.

Wrth gwrs, nid yw hyn yn hawdd ac mae’n ei gwneud hi’n ofynnol i’r sefydliadau hyn fynd i’r afael â gwraidd y broblem, sy’n cynnwys ‘model salwch’ sy’n eu galluogi’n anuniongyrchol i roi’r bai am y PTSD (a’r lludded) yn gadarn yng nghôl y cyflogai, yn hytrach na’i fod yn ganlyniad pwysau a chyd-destun diwylliannol y gweithle. Mae mynd i’r afael â hyn yn golygu bod angen ailgyfeirio gwerthoedd, systemau ac arferion y sefydliad ar y lefel fwyaf sylfaenol er mwyn symud o gyfeiriadedd at berfformiad i un mwy gofalgar a tosturiol; mae hyn, yn ei dro, yn gofyn am strwythur cymdeithasol a gwleidyddol, a chyhoedd a fydd yn ei gefnogi. Wedyn yn unig y gallwn roi sylw i broblem gynyddol straen, lludded a PSTD yn y gweithle iechyd a gofal cymdeithasol.