Skip to main content

Peirianneg

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Seyed Amir Tafrishi

18 Hydref 2023

Mae Dr Seyed Amir Tafrishi yn arbenigo mewn roboteg a systemau ymreolaethol yn yr Ysgol Peirianneg. Fe wnaethom ofyn cyfres o gwestiynau iddo i ddarganfod mwy am y person y tu ôl i’r ymchwil a sut mae’n helpu i wneud gwahaniaeth i’r gymdeithas:

1) Beth yw eich prif faes ymchwil?

“Rwy’n robotegydd, sy’n golygu fy mod yn ymwneud â byd robotiaid! Fy mhrif ffocws yw creu mathau newydd o robotiaid trwy gymysgu syniadau theori rheoli cŵl. Er enghraifft, rwy’n gweithio ar wneud robotiaid sy’n gallu newid eu siapiau! Mae fy ymchwil hefyd yn rhychwantu gwahanol broblemau mewn roboteg a rheolaeth, o drin gwrthrychau a rheoli symudiadau robotiaid symudol i fecanweithiau robotig datblygedig ar gyfer cymorth dynol.”

2) Pam y daethoch yn ymchwilydd?

“Wel, roedd dod yn ymchwilydd fwy neu lai yn yrfa anochel i mi ers fy mhlentyndod. Roedd gen i ddawn am ofyn ‘pam’ a ‘sut’ am bopeth o’m cwmpas. Doedd teganau ddim yn cael cyfle – byddwn i’n torri’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddarnau wrth i mi geisio creu rhywbeth newydd ohonyn nhw. Efallai nad oedd fy nheulu wrth eu boddau gyda fy ‘arbrofion,’ ond roedden nhw’n gadael i mi ddilyn fy chwilfrydedd.

“Felly, arhosai’r sbardun chwilfrydedd hwnnw gyda mi wrth i mi dyfu’n oedolyn. Nid fi oedd y person disgleiriaf yn y dosbarth bob amser, ond ni adawodd y rhyfeddod plentynnaidd hwnnw fi. Pan gyrhaeddais fy nhrydedd flwyddyn o astudiaethau BSc, dechreuais weld fy llwybr yn glir. Roeddwn yn gwirioni ar roboteg a theori rheolaeth – roedden nhw fel meysydd chwarae posibilrwydd enfawr.”

3) A oes unrhyw agwedd benodol ar eich ymchwil yr hoffech dynnu sylw ati?

“Rydw i wedi mentro i wahanol gorneli ymchwil, ond un peth sydd wir yn fy nghyffroi yw turio i fyd mathemateg a dod o hyd i ffyrdd o wneud iddo chwarae’n neis gyda phethau’r byd go iawn. Ystyriwch fy nhaith PhD, er enghraifft – llwyddais i adeiladu pont rhwng mecaneg geometrig a roboteg. Swnio’n ffansi, iawn? Wel, mae’n ymwneud â chreu strategaethau newydd i robotiaid symud mewn ffyrdd cŵl, a’r rhan orau yw bod y strategaethau hyn yn gweithio’n ymarferol yn y byd go iawn. Roedd peth o’m gwaith hyd yn oed yn cael ei gynnwys mewn rhai cyfnodolion mathemateg a roboteg nodedig.

“Mae mwy! Rwyf hefyd wedi bod yn rhan o brosiect diddorol a gefnogwyd gan Lywodraeth Japan o’r enw ‘Moonshot R & D.’ Fe wnaethom baratoi cysyniad yn cynnwys nifer o robotiaid yn ymuno i ddarparu cymorth a gofal i bobl. Dychmygwch hynny – carfan o robotiaid yn gwella bywyd!”

4) Beth yw’r camau nesaf ar gyfer eich prosiectau ymchwil?

“Mae’r llwybr o’ch blaen yn anhygoel o wefreiddiol! Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, rydw i yng nghanol rhywbeth gwirioneddol ryfeddol – ffurfio tîm Mecaneg Geometrig a Mecatroneg mewn Roboteg (gm2R).

“Ein cenhadaeth? Ymchwilio’n ddwfn i ddatblygu a rheoli systemau robotig anghonfensiynol. Llunio robotiaid sy’n gallu ystumio, troi a chyflawni tasgau mewn ffyrdd a allai eich synnu. Mae gan y rhyfeddodau dyfeisgar hyn y potensial i ailddiffinio diwydiannau fel trin, archwilio a hyd yn oed darparu cymorth amhrisiadwy i fodau dynol. Ein strategaeth yw uno egwyddorion geometrig â mecatroneg flaengar i ddylunio robotiaid rhyfeddol.

“Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn ymdrech ar y cyd â grŵp Roboteg a Pheiriannau Deallus Ymreolaethol (RAIM) ym Mhrifysgol Caerdydd, yr wyf yn aelod academaidd ohono.”

5) A yw eich ymchwil yn cael effaith fyd-eang?

“Yn bendant, mae ffrwyth ein hymchwil yn addawol i’r byd. Mae’n debyg i blannu hadau arloesi sydd ar fin ffynnu ar raddfa ryngwladol. Ystyriwch weledigaeth sero-net uchelgeisiol y DU – dyfodol lle mae peiriannau (neu ‘robotiaid’) ymreolaethol, deallus yn bartneriaid annatod wrth gyflawni tasgau gydag effeithlonrwydd heb ei ail. Nid yw’r weledigaeth hon bellach wedi’i chyfyngu i ffuglen wyddonol; mae’n gynllun pendant ar waith.

“Hefyd, mae gwledydd datblygedig fel y DU, Ewrop a Japan yn mynd i’r afael â her benodol. Mae argaeledd adnoddau dynol, yn enwedig mewn meysydd hanfodol fel rhoi gofal a lles, yn prinhau. Dyma’n union lle mae ein hymchwil yn dod i’r adwy. Dychmygwch robotiaid yn estyn help llaw, yn trin gwrthrychau yn fedrus, yn darparu cymorth, a hyd yn oed yn cynnig gofal i unigolion. Mae’n gyfuniad o dechnoleg a thosturi ar fin creu yfory mwy disglair. Felly, fe allech chi ddweud yn gwbl gywir bod ein gwaith yn mynd y tu hwnt i ffiniau lleol, gyda’r potensial i effeithio ar fywydau’n fyd-eang.”

6) A oes gennych unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n ystyried dod yn academydd/ymchwilydd?

“Mae ymwneud ag ymchwil yn ymrwymiad, heb os nac oni bai. Ond gallaf ddweud wrthych fod y teimlad o gyfrannu at y gymuned wyddonol yn rhywbeth gwirioneddol arbennig. Dychmygwch wybod bod eich gwaith yn siapio’r dyfodol, yn newid bywydau, ac yn ehangu ffiniau gwybodaeth ddynol – mae’n rhoi boddhad heb ei ail mewn bywyd.

“Dyma fy narn personol o ddoethineb. Peidiwch byth ag ofni mynd ar ôl yr hyn sy’n ennyn eich brwdfrydedd, boed hynny’n ymchwil neu’n unrhyw lwybr gyrfa arall. Ond, a dyma’r cyngor annisgwyl – byddwch yn barod i faglu ar hyd y ffordd. Yn enwedig ym myd ymchwil, mae methiant yn fath o westai rheolaidd wrth y bwrdd. Byddwch chi’n methu, yn anghofio sawl gwaith rydych chi wedi methu, ac yna’n methu eto. Ond peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro.

“Yn wir, rydym mewn cyfnod lle nad bod y ‘mwyaf clyfar’ yw’r unig ffordd i lwyddiant. Yr hyn sy’n hanfodol yw bod yn chwilfrydig, cwestiynu pethau’n gyson a pheidio â rhoi’r gorau iddi – dyna’r gyfrinach.”