Y Flwyddyn a Fu: 2025 ym Medicentre Caerdydd
9 December 2025
Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, rydyn ni’n cymryd eiliad i edrych yn ôl ar 2025 anhygoel ym Medicentre Caerdydd. O groesawu arloeswyr newydd i ddathlu llwyddiannau tenantiaid hirdymor, mae’r flwyddyn wedi cael ei diffinio gan gydweithio, cynydd, a chymuned gwyddorau bywyd sy’n tyfu.
Croesawu arloeswyr newydd
Roedden ni’n falch o groesawu pum tenant newydd (ac mae mwy i ddod!) i gymuned Medicentre eleni. O waith sy’n torri tir newydd ar gyfansoddion organig anweddol i waith arloesol yn therapi celloedd a thu hwnt, mae cwmnïau newydd yn helpu i ddod â syniadau newydd a phosibiliadau cyffrous i gampws Parc y Mynydd Bychan.
Mae pob dyfodiad newydd yn cryfhau’r rhwydwaith o entrepreneuriaid, ymchwilwyr a chlinigwyr sy’n galw Medicentre yn gartref, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth maen nhw’n ei gyflawni nesaf.
Cefnogi Entrepreneuriaeth yng Nghymru
Yn 2025, gwnaethon ni gyd-noddi cyfranogwyr o Gymru ar Raglen Entrepreneuriaid Clinigol y GIG, gan helpu i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr ym maes gofal iechyd i wireddu eu syniadau. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i feithrin talent a chysylltu ecosystem gwyddorau bywyd Cymru â chyfleoedd ledled y DU.
Cysylltu drwy ddigwyddiadau
Mae ein cymuned wedi dod ynghyd ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau gwych eleni. O ddigwyddiad Iechyd Digidol yng Nghymru gan Rwydwaith Arloesi Prifysgol Caerdydd i ddigwyddiad “Chwalu’r hud sy’n ymwneud â deallusrwydd artiffisial (DA)” gan MediWales a Chanolfan Hartree, rydyn ni wedi bod yn falch o gynnal a chefnogi trafodaethau sy’n sbarduno arloesedd mewn technoleg feddygol a gofal iechyd.
Y tu hwnt i sesiynau sy’n canolbwyntio ar arloesi, rydyn ni wedi mwynhau digwyddiadau sy’n dod â’n cymuned ynghyd ar gyfer achosion pwysig – gan gynnwys digwyddiad codi arian Bore Coffi Macmillan yn ogystal â sesiwn ynglŷn â chynnwys y gymuned LHDTC+ yn y gweithle gyda’r nod o hyrwyddo dealltwriaeth a chydraddoldeb ar draws y sector.
“Rydyn wedi cael blwyddyn anhygoel o ddigwyddiadau, o’n digwyddiad codi arian Macmillan i’n digwyddiad cynnwys y gymuned LHDTC+ yn y gweithle. Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o’n tenantiaid yn dod ynghyd, yn ymgysylltu ac yn cefnogi achosion mor ystyrlon. Mae’r cyfranogiad a’r brwdfrydedd yn adlewyrchu cryfder ein cymuned.” Sammy, Goruchwyliwr y Ganolfan
Rhannu straeon a dathlu llwyddiant
Eleni buon ni’n diweddaru ein gwefan, gwella ein presenoldeb ar LinkedIn a lansio’r blog hwn i rannu straeon y bobl a’r cwmnïau sy’n helpu i lunio gofal iechyd arloesol yng Nghymru.
Ymysg ein cyfryngau ar-lein, rydyn ni wedi bod yn tynnu sylw at lwyddiannau ein tenantiaid, rhannu uchafbwyntiau digwyddiadau a rhoi llwyfan i arloeswyr sy’n gweithio ym mhob rhan o gymuned Medicentre.
Mae digonedd o bethau i’w dathlu:
- Mae ImmunoServ wedi ennill Gwobr Dewi Sant am Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Mae CEDAR wedi gwella ymchwil glinigol drwy dreialon technoleg clyfar
- Mae Frontier Medical Group wedi datblygu ar gyfnod llewyrchus o ran gwerthu a thyfu
- Mae gwŷl Everywoman wedi parhau i dyfu ac ysbrydoli
- Mae You Can Clinic wedi ehangu ei wasanaethau i gyrraedd mwy o bobl
- Llwyddodd Alesi Surgical i gael ardystiad UE am y system Ultravision 2
Mae llawer mwy o gwmnïau gwych yn gweithio yn Medicentre a dim ond blas o’r gwaith anhygoel sy’n digwydd yma yw hyn. Mae’r llwyddiannau hyn, ynghyd â llwyddiannau’n tenantiaid i gyd yn dangos brwdfrydedd a chymhelliant y bobl sy’n gweithio yma a’r effaith y maen nhw’n ei gael ym mhob rhan o Gymru a thu hwnt iddi.
Edrych ymlaen at 2026
Mae 2025 wedi bod yn flwyddyn o dwf a momentwm i Medicentre Caerdydd ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb yr arloeswyr, yr ymchwilwyr, y clinigwyr a’r partneriaid talentog sy’n rhan o’r gymuned.
Wrth i ni edrych ymlaen at 2026, rydyn ni’n llawn cyffro i ychwanegu at hynny: croesawu rhagor o arloeswyr, cefnogi eu profiadau a pharhau i dyfu yn Ganolfan er gofal iechyd, technoleg feddygol ac arloesi ym maes y biowyddorau.
Yn y cyfamser, rydyn ni eisiau dymuno’n dda i’n cymuned o arloeswyr, partneriaid a chefnogwyr dros y Nadolig a gobeithio y cewch gyfnod orffwys, ysbrydoliaeth a llawenydd – fel eich bod yn barod am flwyddyn arall o arloesi yn 2026🎄✨