{"id":236,"date":"2025-11-04T09:00:06","date_gmt":"2025-11-04T09:00:06","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/?p=236"},"modified":"2025-10-14T11:32:32","modified_gmt":"2025-10-14T10:32:32","slug":"cyflwyno-mcba-consulting-troi-gwyddoniaeth-cyfansoddion-organig-anweddol-yn-arloesedd-gofal-iechyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/cyflwyno-mcba-consulting-troi-gwyddoniaeth-cyfansoddion-organig-anweddol-yn-arloesedd-gofal-iechyd\/","title":{"rendered":"Cyflwyno MCBA Consulting: Troi Gwyddoniaeth Cyfansoddion Organig anweddol yn Arloesedd Gofal Iechyd"},"content":{"rendered":"<p>Wrth i&#8217;r hydref agos\u00e1u, rydyn ni\u2019n myfyrio ar haf prysur yn croesawu sawl tenant newydd i Medicentre Caerdydd. Heddiw rydyn ni\u2019n falch iawn o gyflwyno un ohonyn nhw: MCBA Consulting, sy\u2019n dod \u00e2\u2019u gwaith arloesol ar gyfansoddion organig anweddol i Uned Hybu Busnes Prifysgol Caerdydd. Fe wnaethon ni sgwrsio \u00e2 Matt Bates, prif ymgynghorydd y cwmni, i ddysgu rhagor.<\/p>\n<p>\ud83d\udcac <strong>Felly, beth yn union mae MCBA yn ei wneud?<br \/>\n<\/strong>\ud83d\udde8\ufe0f <em>\u201cYn gryno: popeth sy&#8217;n ymwneud \u00e2 chyfansoddion organig anweddol. Mae&#8217;r cyfansoddion hyn yn bodoli&#8217;n bennaf ar ffurf nwy ar dymheredd ystafell. I&#8217;r rhan fwyaf o bobl, rhain yw&#8217;r moleciwlau sy&#8217;n rhoi arogl i bethau bob dydd \u2013 boed yn ddymunol neu fel arall. I ni, maen nhw hefyd yn ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth am iechyd.<\/em> <em>Rydyn ni\u2019n canolbwyntio ar gyfansoddion anweddol dynol \u2013 sef yr holl gyfansoddion organig anweddol sy&#8217;n cael eu rhyddhau gan y corff. Gall y cyfansoddion hyn ddweud llawer wrthon ni. Er enghraifft, gall newidiadau nodi haint neu ddangos sut mae&#8217;r corff yn ymdopi \u00e2 salwch. Mewn rhai achosion, gallai presenoldeb un moleciwl hyd yn oed ddangos clefyd cronig.\u201d<\/em><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-content\/uploads\/sites\/675\/2025\/10\/Image-for-header.png\" width=\"527\" height=\"352\" \/><\/p>\n<p>\ud83d\udcac <strong>Mae hynny&#8217;n swnio&#8217;n bwerus. Sut ydych chi&#8217;n dychmygu y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio ym maes gofal iechyd?<br \/>\n<\/strong>\ud83d\udde8\ufe0f <em>\u201cEin nod hirdymor yw sgrinio a monitro anymwthiol. Yn lle cymryd gwaed neu swabiau, gallai clinigwyr ddefnyddio &#8216;\u00f4l bysedd&#8217; cemegol yn yr awyr o amgylch clwyf, o sampl anadl, neu o&#8217;r croen. Mae&#8217;n gyflymach, yn haws, ac yn fwy cyfforddus i gleifion.<\/em> <em>Rydyn ni hefyd yn parhau i gydweithio \u00e2 gr\u0175p Dr Sarah Hooper ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Gyda&#8217;n gilydd, rydyn ni wedi bod yn nodi cyfansoddion organig anweddol sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 haint bacteriol, a&#8217;r cynhwysion gweithredol mewn olewau naws sy&#8217;n atal neu&#8217;n lladd bacteria.\u201d<\/em><\/p>\n<p>\ud83d\udcac <strong>A pham dewis Medicentre Caerdydd?<br \/>\n<\/strong>\ud83d\udde8\ufe0f <em>\u201cMae&#8217;n addas iawn ar ein cyfer ni. Mae&#8217;r Medicentre yn ymwneud \u00e2 dod ag entrepreneuriaid ac ymchwilwyr gwyddor iechyd at ei gilydd, a&#8217;r ysbryd cydweithredol hwnnw yw&#8217;r union beth sydd ei angen arnon ni ar gyfer cam nesaf ein gwaith.<\/em> <em>Mae bod yn agos at Ysbyty Prifysgol Cymru hefyd yn helpu. Mae&#8217;n rhoi cyfle inni gryfhau partneriaethau sy\u2019n bodoli ar hyn o bryd a datblygu rhai newydd. I ni, mae symud yn ymwneud \u00e2 mwy na chael labordy yn unig &#8211;\u00a0 mae&#8217;n ymwneud \u00e2 rhoi ein hunain mewn sefyllfa dda i drawsnewid monitro iechyd sy&#8217;n seiliedig ar gyfansoddion organig anweddol yn offer ymarferol i glinigwyr.\u201d<\/em><\/p>\n<p>\ud83d\udcac <strong>Diolch Matt \u2013 mae wedi bod yn wych cael clywed gennyt ti.<\/strong><br \/>\nMae MCBA Consulting yn gweddu&#8217;n berffaith i gymuned Medicentre. Mae cynlluniau\u2019r cwmni\u2019n adlewyrchu&#8217;n union yr hyn y mae ein huned wedi&#8217;i chynllunio ar ei gyfer: cysylltu entrepreneuriaid, ymchwilwyr a chlinigwyr i ysgogi arloesi ym maes gofal iechyd.<\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at weld sut mae eu hymchwil a&#8217;u cydweithrediadau&#8217;n datblygu yma. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu gwaith, dilynwch MCBA Consulting ar <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/consultmcba\/\">LinkedIn<\/a>.<\/p>\n<p>Croeso i&#8217;r adeilad, MCBA Consulting!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Wrth i'r hydref agos\u00e1u, rydyn ni\u2019n myfyrio ar haf prysur yn croesawu sawl tenant newydd i Medicentre Caerdydd. Heddiw rydyn ni\u2019n falch iawn o gyflwyno un ohonyn nhw: MCBA Consulting, [&hellip;]","protected":false},"author":7154,"featured_media":234,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[19,33],"tags":[39,46,41,32,40],"class_list":["post-236","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymraeg","category-tenant_news","tag-arloesedd-technoleg-feddygol","tag-cydweithio","tag-dechrau-busnesau-gymraeg","tag-medicentre-caerdydd","tag-prifysgol-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-content\/uploads\/sites\/675\/2025\/10\/MCBA-heading-image-1.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/236","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7154"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=236"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/236\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":241,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/236\/revisions\/241"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/media\/234"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=236"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=236"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=236"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}