{"id":224,"date":"2025-09-26T15:30:40","date_gmt":"2025-09-26T14:30:40","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/?p=224"},"modified":"2025-09-26T15:30:40","modified_gmt":"2025-09-26T14:30:40","slug":"diwrnod-diogelwch-cleifion-y-byd-rhoi-pobl-yn-gyntaf-gyda-frontier-medical-group","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/diwrnod-diogelwch-cleifion-y-byd-rhoi-pobl-yn-gyntaf-gyda-frontier-medical-group\/","title":{"rendered":"Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd: Rhoi Pobl yn Gyntaf gyda Frontier Medical Group"},"content":{"rendered":"<p>Bob blwyddyn ar 17 Medi, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dathlu Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, sef galwad fyd-eang i gymryd camau er mwyn gwneud gofal iechyd yn fwy diogel i bawb. Mae diogelwch cleifion wrth galon gofal o safon, ond serch hynny mae&#8217;n faes sy\u2019n gofyn am arloesi, cydweithio a gwyliadwriaeth gyson.<\/p>\n<p>Ym Medicentre Caerdydd, rydyn ni\u2019n falch o gefnogi cwmn\u00efau technoleg feddygol sy&#8217;n gweithio ar atebion sy&#8217;n rhoi lles cleifion yn gyntaf. Un o&#8217;r cwmn\u00efau hynny yw Frontier Medical Group, a diben eu cynnyrch a&#8217;u gwasanaethau yw lleihau risg a gwella deilliannau mewn lleoliadau gofal iechyd.<\/p>\n<p>I ddathlu&#8217;r diwrnod pwysig hwn, buon ni\u2019n siarad \u00e2 Chris a Lisa yn Frontier am yr hyn y mae diogelwch cleifion yn ei olygu iddyn nhw, sut mae&#8217;n dylanwadu ar eu gwaith, a&#8217;u gweledigaeth ar sut i sicrhau gofal iechyd mwy diogel yn y dyfodol.<\/p>\n<p>\ud83d\udcac <strong>Beth mae diogelwch cleifion yn ei olygu i Frontier Medical Group?<\/strong><\/p>\n<p>\ud83d\udde8\ufe0f &#8220;<em>Yn Frontier Medical Group, mae diogelwch cleifion yn golygu diogelu unigolion rhag niwed y gellir ei atal, gan ganolbwyntio\u2019n benodol ar atal briwiau oherwydd gwasgu<\/em>.<em> Mae briwiau gwasgu yn ddangosydd ansawdd cydnabyddedig o ofal cleifion, a phan fydd cleifion yn eu cael, bydd hwyrach yn achosi poen sylweddol, trallod emosiynol ac yn effeithio&#8217;n negyddol ar ddeilliannau iechyd. Rhennir ein hymrwymiad i ddiogelwch cleifion yn ddau: atal yr anafiadau hyn pan fo modd a gofalu eu bod yn cael eu rheoli\u2019n effeithiol ac yn amserol pan fyddan nhw\u2019n digwydd.&#8221;<\/em><\/p>\n<p>\ud83d\udcac <strong>Sut mae cynnyrch a gwasanaethau Frontier Medical Group yn gwella diogelwch cleifion yn uniongyrchol<\/strong>?<\/p>\n<p>\ud83d\udde8\ufe0f &#8220;<em>Diben stoc Repose\u00ae yw amddiffyn cleifion o bob oedran ac ym mhob lleoliad gofal. Mae sawl astudiaeth, gan gynnwys hapdreialon rheoledig (RCT), wedi dangos bod cleifion sy&#8217;n defnyddio Repose yn llawer llai tebygol o gael briwiau gwasgu o\u2019u cymharu ag ymyraethau eraill. Mewn gwirionedd, dangosodd ein hapdreial diweddaraf i\u2019r achosion gael eu haneru o&#8217;u cymharu \u00e2 matresi eraill, sef yr hyn a ystyrir yn eang yn safon aur gofal ardaloedd gwasgu.<\/em><\/p>\n<p><em>Gyda&#8217;n system droi ochrol awtomataidd Toto\u00ae, rydyn ni\u2019n clywed yn rheolaidd gan gleifion a gofalwyr am y gwahaniaeth mae&#8217;n ei wneud &#8211; nid yn unig wrth gefnogi gwella briwiau gwasgu, ond hefyd wrth alluogi pobl i aros yn eu lle gofal dewisol lle mae mwy o annibyniaeth, urddas a safon bywyd.&#8221;<\/em><\/p>\n<p>\ud83d\udcac <strong>Allwch chi rannu stori lle cafodd effaith Frontier Medical Group ar ddiogelwch cleifion ei brofi\u2019n uniongyrchol?<\/strong><\/p>\n<p>\ud83d\udde8\ufe0f &#8220;<em>Daw un enghraifft bwerus o\u2019n t\u00eem ni ein hunain. Defnyddiodd un o gydweithiwr Frontier y Toto\u00ae gyda\u2019i chwaer i ofalu am eu tad 99 mlwydd oed gartref tua diwedd ei oes. Heb Toto, byddai wedi bod yn rhaid iddo fynd i ysbyty neu gael gofal preswyl. Yn lle hynny, caniataodd y system iddo barhau gartref gyda\u2019i deulu, gan ofalu bod cyflwr ei groen yn cael ei reoli&#8217;n effeithiol. Mae&#8217;r stori hon yn tynnu sylw at y r\u00f4l bwysig y gall ein cynnyrch eu chwarae o ran diogelwch cleifion a safon bywyd.&#8221;<\/em><\/p>\n<p>\ud83d\udcac <strong>Sut y bydd technoleg ac arloesi yn llunio diogelwch cleifion yn ystod y 5 neu 10 mlynedd nesaf<\/strong>?<\/p>\n<p>\ud83d\udde8\ufe0f &#8220;<em>Mae gofal iechyd yn symud tuag at atebion mwy clyfar a chydgysylltiedig sy&#8217;n cynnal gofal diogel ac effeithiol yn y cartref. Yn Frontier, rydyn ni eisoes yn cyfrannu at y dyfodol hwn drwy arloesi, er enghraifft Toto\u00ae, ein system droi ochrol awtomataidd, sy&#8217;n amddiffyn cleifion sydd mewn perygl o anaf gwasgu ac yn lleihau&#8217;r baich ar ofalwyr.<\/em><\/p>\n<p><em>Wrth edrych ymlaen, rydyn ni\u2019n rhagweld bod systemau yn dod yn fwyfwy deallus ac integredig ac yn fwy dibynnol ar ddata &#8211; gan arwain at fonitro amser real a galluoedd gofal o bell. Bydd y datblygiadau hyn yn gwella diogelwch cleifion ond ar ben hynny yn cefnogi nod ehangach gofal iechyd, sef symud gofal i&#8217;r cartref.&#8221;<\/em><\/p>\n<p>\ud83d\udcac <strong>Sut mae aelodau t\u00eem Gr\u0175p Meddygol Frontier yn teimlo am weithio ar gynnyrch sy&#8217;n effeithio&#8217;n uniongyrchol ar ddiogelwch cleifion?<\/strong><\/p>\n<p>\ud83d\udde8\ufe0f &#8220;<em>Mae<\/em> <em>aelodau\u2019r t\u00eem yn cael eu symbylu&#8217;n gryf ac yn gwybod bod eu gwaith yn cael effaith uniongyrchol ar les cleifion. Er nad ydyn nhw&#8217;n cynnig gofal ymarferol hwyrach, maen nhw\u2019n chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi&#8217;r rheini sy&#8217;n gwneud hynny. Mae hyfforddiant ac addysg yn ganolog i&#8217;n ffordd o weithio, ac mae gan bob aelod o staff ddealltwriaeth glinigol o iechyd y croen, atal gwasgedd ar friwiau, a&#8217;r goblygiadau i gleifion pan fydd briwiau&#8217;n datblygu.<\/em><\/p>\n<p><em>Mae&#8217;r ddealltwriaeth gyffredin hon yn atgyfnerthu pwysigrwydd yr hyn rydyn ni\u2019n ei wneud yn Frontier: rhoi&#8217;r offer a&#8217;r wybodaeth gywir i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i amddiffyn cleifion, atal niwed a hyrwyddo diogelwch bob dydd.&#8221;<\/em><\/p>\n<p>Mae Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd yn ein hatgoffa bod gofal iechyd mwy diogel yn dibynnu ar ymdrechion cyfunol arloeswyr, clinigwyr a\u2019r cleifion eu hunain. Mae ymrwymiad Frontier Medical Group i gynnwys diogelwch ym mhob agwedd ar eu gwaith yn dangos sut y gall cwmn\u00efau technoleg feddygol chwarae rhan hollbwysig yn y genhadaeth hon.<\/p>\n<p>Ym Medicentre Caerdydd, rydyn ni\u2019n falch o gynnig cartref i fusnesau megis Frontier ac mae eu syniadau&#8217;n helpu i wneud gofal iechyd yn fwy diogel ac yn fwy effeithiol i bawb.<\/p>\n<p>Dysgwch fwy am y gwaith a&#8217;r cynhyrchion gwych gan Frontier yma: <a href=\"https:\/\/www.frontier-group.co.uk\/\">https:\/\/www.frontier-group.co.uk\/<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Bob blwyddyn ar 17 Medi, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dathlu Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, sef galwad fyd-eang i gymryd camau er mwyn gwneud gofal iechyd yn fwy [&hellip;]","protected":false},"author":7154,"featured_media":223,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[19,33],"tags":[39,46,41,44,32,42,40],"class_list":["post-224","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymraeg","category-tenant_news","tag-arloesedd-technoleg-feddygol","tag-cydweithio","tag-dechrau-busnesau-gymraeg","tag-hwb-arloesi","tag-medicentre-caerdydd","tag-newyddion-technoleg-iechyd","tag-prifysgol-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-content\/uploads\/sites\/675\/2025\/09\/World-Patient-Safety-Day-interview-wFrontier.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/224","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7154"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=224"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/224\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":226,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/224\/revisions\/226"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/media\/223"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=224"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=224"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=224"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}