{"id":218,"date":"2025-08-29T10:35:52","date_gmt":"2025-08-29T09:35:52","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/?p=218"},"modified":"2025-08-29T10:34:56","modified_gmt":"2025-08-29T09:34:56","slug":"pam-mae-busnesau-newydd-yn-cael-modd-i-fyw-yn-medicentre-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/pam-mae-busnesau-newydd-yn-cael-modd-i-fyw-yn-medicentre-caerdydd\/","title":{"rendered":"Pam mae busnesau newydd yn cael modd i fyw yn Medicentre Caerdydd"},"content":{"rendered":"<p>Nid yw dechrau ac ehangu busnes ym maes gofal iechyd neu fiowyddoniaeth yn beth hawdd. Mae angen syniadau beiddgar, y gefnogaeth gywir a chymuned sy&#8217;n deall heriau arloesi. Dyna ddiben Medicentre Caerdydd.<\/p>\n<p>Ers mwy na 30 mlynedd, rydyn ni wedi bod yn gartref i gwmn\u00efau uchelgeisiol newydd, cwmn\u00efau deillio a chwmn\u00efau sy\u2019n ehangu, gan sbarduno newid yn y gwyddorau bywyd. Ond pam mae bod yn y Medicentre yn ffactor mor wahanol? Dyma bum rheswm pam mae ein tenantiaid yn cael modd i fyw yma:<\/p>\n<p><strong>\u2728<\/strong><strong> Cymuned o Arloeswyr<\/strong><\/p>\n<p>Nid yw tenantiaid Medicentre yn gweithio ar eu pennau eu hunain \u2013 mae gweithio yma yn golygu y cewch rannu syniadau gydag entrepreneuriaid, ymchwilwyr a gwyddonwyr o&#8217;r un anian \u00e2 chi. Gallai&#8217;r cyfle i rannu profiadau a chyfnewid syniadau eich helpu i sbarduno eich datblygiad nesaf.<\/p>\n<p><strong>\u2728<\/strong><strong> Cysylltiadau Uniongyrchol \u00e2 Phrifysgol Caerdydd<\/strong><\/p>\n<p>Mae&#8217;r Ganolfan, sy\u2019n rhan o Brifysgol Caerdydd, yn cysylltu busnesau ag arbenigedd, cyfleusterau a thalent o safon fyd-eang. Boed yn brosiectau ymchwil ar y cyd neu\u2019n lleoliadau myfyrwyr, mae\u2019r cwmn\u00efau sy&#8217;n gweithio yma yn elwa ar yr arbenigedd ffres a\u2019r cymorth ymarferol sy&#8217;n helpu i droi eu syniadau&#8217;n realiti.<\/p>\n<p><strong>\u2728<\/strong><strong> Lle sy\u2019n gweddu i fyd Gwyddoniaeth<\/strong><\/p>\n<p>Boed yn labordy \u00e2 chyfarpar llawn neu&#8217;n swyddfa hyblyg, mae ein t\u00eem yn gweithio gyda thenantiaid i ddiwallu anghenion penodol eu busnes. Y nod? Rhoi\u2019r lle a\u2019r adnoddau i bob cwmni dyfu \u2013 a\u2019r ffocws i wneud yr hyn sydd bwysicaf.<\/p>\n<p><strong>\u2728<\/strong><strong> Cyrchu Rhwydweithiau a\u2019r Dull a\u2019r Modd<\/strong><\/p>\n<p>Boed yn gyngor ar gyllid neu\u2019n gyflwyniadau yn ecosystem ehangach y gwyddorau bywyd yng Nghymru a thu hwnt, mae staff a phartneriaid y Medicentre yn sicrhau nad dim ond meddiannu lle mae\u2019r busnesau. Drwy weithio yma, caiff tenantiaid gysylltu\u2019n syth \u00e2&#8217;r rhwydweithiau cywir, gan gymryd rhan mewn digwyddiadau, cwrdd \u00e2 phobl newydd a sbarduno twf.<\/p>\n<p><strong>\u2728<\/strong><strong> Cychwyn Llwyddiant<\/strong><\/p>\n<p>Dros y blynyddoedd, mae\u2019r busnesau wedi tyfu ac wedi symud i gyfleusterau mwy eu maint. Rydyn ni&#8217;n gwybod eu bod nhw&#8217;n mynd \u00e2&#8217;r sgiliau, y cysylltiadau a&#8217;r hyder a ddatblygwyd yma, ac inni, gweld tenant sy\u2019n &#8216;graddio&#8217; fel hyn yw&#8217;r arwydd pennaf o lwyddiant.<\/p>\n<p style=\"text-align: center\"><strong><em>Yn Medicentre Caerdydd, nid rhentu\u2019n unig y bydd tenant. Mae&#8217;n golygu ymuno ag ecosystem sy\u2019n helpu syniadau beiddgar i dorri tir newydd.<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Hoffech chi ymuno \u00e2&#8217;n cymuned o arloeswyr? Darllenwch ragor ar ein <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/medicentre\">gwefan<\/a> neu e-bostiwch <a href=\"mailto:medicentre@cardiff.ac.uk\">medicentre@caerdydd.ac.uk<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Nid yw dechrau ac ehangu busnes ym maes gofal iechyd neu fiowyddoniaeth yn beth hawdd. Mae angen syniadau beiddgar, y gefnogaeth gywir a chymuned sy'n deall heriau arloesi. Dyna ddiben [&hellip;]","protected":false},"author":7154,"featured_media":215,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[65,19],"tags":[46,41,43,44,32,40],"class_list":["post-218","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-community","category-cymraeg","tag-cydweithio","tag-dechrau-busnesau-gymraeg","tag-deori-dechrau-busnesau-yn-y-du","tag-hwb-arloesi","tag-medicentre-caerdydd","tag-prifysgol-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-content\/uploads\/sites\/675\/2025\/08\/Medicentre-as-a-workspace-for-blog.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/218","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7154"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=218"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/218\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":219,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/218\/revisions\/219"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/media\/215"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=218"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=218"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=218"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}