{"id":166,"date":"2025-07-16T14:46:41","date_gmt":"2025-07-16T13:46:41","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/?p=166"},"modified":"2025-07-16T14:46:41","modified_gmt":"2025-07-16T13:46:41","slug":"gwyl-syn-addas-i-bob-menyw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/gwyl-syn-addas-i-bob-menyw\/","title":{"rendered":"G\u0175yl sy&#8217;n addas i bob menyw"},"content":{"rendered":"<p>Yn Medicentre Caerdydd, rydyn ni\u2019n falch o gefnogi a dathlu&#8217;r bobl sy&#8217;n gweithio yn ein hadeilad, yn enwedig pan fydd eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae G\u0175yl Everywoman yn enghraifft berffaith; y mis hwn, fe wnaethon nhw ddathlu eu trydedd flwyddyn gyda diwrnod ysbrydoledig o ddysgu, cyfeillgarwch a hwyl.<\/p>\n<p>Cafodd G\u0175yl Everywoman ei sefydlu gan Julie Cornish mewn ymateb i&#8217;w rhwystredigaeth gyda pha mor aml y mae pryderon iechyd menywod yn cael eu diystyru neu eu bychanu. Mae&#8217;r digwyddiad wedi&#8217;i gynllunio i addysgu, grymuso a chefnogi menywod a merched drwy fynd i&#8217;r afael \u00e2 meysydd gofal iechyd sy&#8217;n cael eu stigmateiddio neu eu camddeall yn rhy aml.<\/p>\n<p>Eleni, daeth cannoedd o bobl i gymryd rhan yn yr \u0175yl fywiog a chynhwysol hon ar 7 Mehefin yn yr hyfryd Cwrt Insole yng Nghaerdydd, yn awyddus i ddysgu a dweud wrth eraill amdano.<\/p>\n<p>Roedd y diwrnod yn cynnwys cymysgedd ysbrydoledig o siaradwyr, arweinwyr gweithdai ac ymarferwyr lles. Ymhlith y cyfoeth o wybodaeth a phynciau a drafodwyd, cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i ddysgu am feysydd megis:<\/p>\n<ul>\n<li>Genedigaeth a magu plant<\/li>\n<li>Menopos a pherimenopos<\/li>\n<li>Goroesi canser<\/li>\n<li>Iechyd atgenhedlu a meddyliol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ochr yn ochr \u00e2&#8217;r cyflwyniadau a&#8217;r trafodaethau panel, roedd yna hefyd amrywiaeth o grwpiau cymorth galw heibio, perfformiadau a stondinau elusennol.<\/p>\n<p>Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys rhaglen amrywiol o weithgareddau: o ioga a Pilates i folddawnsio, arddangosiadau ar sut i godi pwysau, digwyddiad llofnodi llyfrau, a hyd yn oed sba dros dro gan LUSH. Gyda bwyd a diod, a nwyddau am ddim ar gael hefyd, roedd yr \u0175yl yn arddangos dull gwirioneddol gyfannol o ymdrin ag iechyd menywod &#8211; gan gyfuno addysg, cymuned a hunanofal.<\/p>\n<p>Ymhlith y rhai a fynychodd yr \u0175yl roedd rhai o staff Medicentre ein hunain, a oedd yn meddwl ei fod yn gyfle gwych i ddysgu rhywbeth newydd, cysylltu ag eraill yn yr adeilad, a chymryd rhan mewn digwyddiadau i denantiaid.<\/p>\n<p>Esboniodd <strong>Sammy, goruchwyliwr ein canolfan<\/strong>:<\/p>\n<p><em>&#8220;O sgwrsio \u00e2&#8217;r mynychwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau, roedd yn ffordd hwyliog a diddorol i&#8217;n staff gefnogi a bod yn rhan o&#8217;r hyn sy&#8217;n digwydd yn Medicentre.&#8221;<\/em><\/p>\n<p>Ac nid dim ond yr unigolion a gymerodd ran yn yr \u0175yl wnaeth elwa o\u2019r profiad. Dywedodd <strong>Natalia, Cydlynydd Digwyddiadau G\u0175yl Everywoman<\/strong>:<\/p>\n<p><em>\u201cRoedd yn hyfryd bod mewn awyrgylch a oedd yn dathlu ein hiechyd a&#8217;n lles heb unrhyw stigma, ac fe wnes i adael yr \u0175yl yn teimlo&#8217;n gryf ac yn hyderus yn fy iechyd.\u201d \u00a0<\/em><\/p>\n<p>Mae llwyddiant cynyddol G\u0175yl Everywoman yn dangos sut y gall arloesedd sy&#8217;n cael ei ysgogi gan y gymuned arwain at newid go iawn. Mae&#8217;r t\u00eem yn gwella ymwybyddiaeth ac addysg ynghylch iechyd menywod drwy greu gofod cefnogol a chydweithredol. Mae&#8217;r teimlad hwn yn cael ei ategu gan <strong>Gyfarwyddwr Gwerthu a Digwyddiadau&#8217;r cwmni, Arwen<\/strong>:<\/p>\n<p><em>\u201cY rhan fwyaf gwerth chweil ohono i mi yw gweithio gyda\u2019r t\u00eem digwyddiadau a\u2019r menywod mwyaf anhygoel, a chwrdd \u00e2 chymaint o fenywod ysbrydoledig ym maes iechyd menywod.\u201d<\/em><\/p>\n<p>Yn Medicentre Caerdydd, rydyn ni\u2019n cefnogi arloeswyr uchelgeisiol ar draws meysydd gwyddorau bywyd a gofal iechyd, ac mae G\u0175yl Everywoman yn enghraifft wych o sut y gall yr arloesi hwnnw sefydlu ei hun a ffynnu mewn ffyrdd arwyddocaol. Rydyn ni\u2019n falch o gefnogi eu hymdrechion ac yn awyddus i weld sut mae\u2019r w\u0177l yn parhau i dyfu.<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am \u0174yl Everywoman, ewch i <a href=\"https:\/\/www.everywomanfest.com\/\">https:\/\/www.everywomanfest.com\/<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn Medicentre Caerdydd, rydyn ni\u2019n falch o gefnogi a dathlu'r bobl sy'n gweithio yn ein hadeilad, yn enwedig pan fydd eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae [&hellip;]","protected":false},"author":7154,"featured_media":163,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[19,34,33],"tags":[41,43,37,44,61,32,60,40],"class_list":["post-166","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymraeg","category-events","category-tenant_news","tag-dechrau-busnesau-gymraeg","tag-deori-dechrau-busnesau-yn-y-du","tag-gwyddorau-bywyd-cymru","tag-hwb-arloesi","tag-iechyd-menywod","tag-medicentre-caerdydd","tag-menywod-ym-maes-gwyddoniaeth","tag-prifysgol-caerdydd"],"jetpack_sharing_enabled":true,"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-content\/uploads\/sites\/675\/2025\/07\/mariepalbomphotography-516-Everywoman-team-photo-smaller-scaled.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/166","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7154"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=166"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/166\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":167,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/166\/revisions\/167"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/media\/163"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=166"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=166"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/medicentre\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=166"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}