Skip to main content

CommunityCymraeg

Pam mae busnesau newydd yn cael modd i fyw yn Medicentre Caerdydd

29 August 2025

Nid yw dechrau ac ehangu busnes ym maes gofal iechyd neu fiowyddoniaeth yn beth hawdd. Mae angen syniadau beiddgar, y gefnogaeth gywir a chymuned sy’n deall heriau arloesi. Dyna ddiben Medicentre Caerdydd.

Ers mwy na 30 mlynedd, rydyn ni wedi bod yn gartref i gwmnïau uchelgeisiol newydd, cwmnïau deillio a chwmnïau sy’n ehangu, gan sbarduno newid yn y gwyddorau bywyd. Ond pam mae bod yn y Medicentre yn ffactor mor wahanol? Dyma bum rheswm pam mae ein tenantiaid yn cael modd i fyw yma:

Cymuned o Arloeswyr

Nid yw tenantiaid Medicentre yn gweithio ar eu pennau eu hunain – mae gweithio yma yn golygu y cewch rannu syniadau gydag entrepreneuriaid, ymchwilwyr a gwyddonwyr o’r un anian â chi. Gallai’r cyfle i rannu profiadau a chyfnewid syniadau eich helpu i sbarduno eich datblygiad nesaf.

Cysylltiadau Uniongyrchol â Phrifysgol Caerdydd

Mae’r Ganolfan, sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd, yn cysylltu busnesau ag arbenigedd, cyfleusterau a thalent o safon fyd-eang. Boed yn brosiectau ymchwil ar y cyd neu’n lleoliadau myfyrwyr, mae’r cwmnïau sy’n gweithio yma yn elwa ar yr arbenigedd ffres a’r cymorth ymarferol sy’n helpu i droi eu syniadau’n realiti.

Lle sy’n gweddu i fyd Gwyddoniaeth

Boed yn labordy â chyfarpar llawn neu’n swyddfa hyblyg, mae ein tîm yn gweithio gyda thenantiaid i ddiwallu anghenion penodol eu busnes. Y nod? Rhoi’r lle a’r adnoddau i bob cwmni dyfu – a’r ffocws i wneud yr hyn sydd bwysicaf.

Cyrchu Rhwydweithiau a’r Dull a’r Modd

Boed yn gyngor ar gyllid neu’n gyflwyniadau yn ecosystem ehangach y gwyddorau bywyd yng Nghymru a thu hwnt, mae staff a phartneriaid y Medicentre yn sicrhau nad dim ond meddiannu lle mae’r busnesau. Drwy weithio yma, caiff tenantiaid gysylltu’n syth â’r rhwydweithiau cywir, gan gymryd rhan mewn digwyddiadau, cwrdd â phobl newydd a sbarduno twf.

Cychwyn Llwyddiant

Dros y blynyddoedd, mae’r busnesau wedi tyfu ac wedi symud i gyfleusterau mwy eu maint. Rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n mynd â’r sgiliau, y cysylltiadau a’r hyder a ddatblygwyd yma, ac inni, gweld tenant sy’n ‘graddio’ fel hyn yw’r arwydd pennaf o lwyddiant.

Yn Medicentre Caerdydd, nid rhentu’n unig y bydd tenant. Mae’n golygu ymuno ag ecosystem sy’n helpu syniadau beiddgar i dorri tir newydd.

Hoffech chi ymuno â’n cymuned o arloeswyr? Darllenwch ragor ar ein gwefan neu e-bostiwch medicentre@caerdydd.ac.uk.