O Ysbrydoliaeth i Arloesedd: Anrhydeddu Menywod mewn STEM
20 October 2025
Bob mis Hydref, bydd Diwrnod Ada Lovelace yn dathlu cyfraniadau menywod ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM). Mae’r diwrnod a enwyd ar ôl Ada Lovelace a gydnabyddir yn aml yn rhaglennydd cyfrifiadurol cyntaf y byd – yn talu teyrnged i’r arloeswyr a dorrodd dir newydd ac i’r menywod sy’n ein hysbrydoli o hyd heddiw.
Mae Diwrnod Ada Lovelace yn fwy na hanes; mae’n gyfle i rannu straeon, rhoi’r cyfle i bobl gael dweud eu dweud ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Mae gan fodelau rôl ddylanwadol o bwys yn hanes STEM, a hynny yn aml mewn ffyrdd cynnil ond grymus.
Yn Medicentre Caerdydd, rydyn ni’n gweithio gydag arloeswyr, ymchwilwyr ac entrepreneuriaid sy’n gwthio’r ffiniau ym maes gofal iechyd a’r biowyddorau. Ysbrydolwyd llawer o’r rhain gan fenywod sy’n gweithio ym maes STEM, felly eleni, gwahoddon ni ein cymuned i sôn am y menywod sydd wedi’i ysbrydoli fwyaf.
Myfyriodd un cydweithiwr ar waddol Jane Goodall, y mae ei hymchwil a’i heirioli arloesol yn dylanwadu o hyd ar drafodaethau byd eang:
“Dangosodd Jane Goodall, a fu farw’n ddiweddar, imi sut y gall llais un fenyw sbarduno mudiad dros newid ym maes STEM.”
I rywun arall, daeth yr ysbrydoliaeth o rywle llawer yn agosach:
“Athrawes Mathemateg yw mam. Er yn fach, bu’n dysgu imi i adnabod patrymau – mewn niferoedd, mewn problemau a’r ffordd mae pethau’n gweithio. “Mae’n rhywbeth sydd wedi dylanwadu ar bopeth rwy’n ei wneud.”
Soniodd un arall am sut mae ysbrydoliaeth yn dod o amrywiaeth o leoedd:
“Wrth i Ddiwrnod Ada Lovelace gael ei ddathlu, rydym yn edrych ymlaen at gydnabyddiaeth ehangach o gyfraniadau a mewnwelediadau unigryw menywod a merched mewn STEM ar gyfer gwella iechyd, lles a ffyniant economaidd ar bob lefel o gymdeithas.
Rwy’n ffodus i fod wedi gweithio gyda rhai menywod anhygoel dros y 30 mlynedd diwethaf sydd wedi fy ysbrydoli ac sydd wedi fy nysgu gwerth cydnabod safbwyntiau amgen.”
Mae’r myfyrdodau hyn yn ymgorffori hanfod Diwrnod Ada Lovelace: effaith barhaol ac araf gynyddol menywod ysbrydoledig, boed y rhain yn enwogion byd eang neu’n bobl sy’n dylanwadu ar ein bywydau bob dydd.
Yn Medicentre, rydyn ni’n dathlu arloesi o bob math. Boed yn ymchwil arloesol ar ddiagnosteg a thriniaethau newydd neu’n ddatblygiad entrepreneuraidd sy’n troi syniadau yn effaith, rydyn ni’n falch o gefnogi cymuned lle bydd lleisiau amrywiol, gan gynnwys menywod STEM, yn arwain y ffordd.
Diwrnod Ada Lovelace Hapus gan bawb yn Medicentre Caerdydd.