Skip to main content

CymraegTenant News

Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd: Rhoi Pobl yn Gyntaf gyda Frontier Medical Group

26 September 2025

Bob blwyddyn ar 17 Medi, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dathlu Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, sef galwad fyd-eang i gymryd camau er mwyn gwneud gofal iechyd yn fwy diogel i bawb. Mae diogelwch cleifion wrth galon gofal o safon, ond serch hynny mae’n faes sy’n gofyn am arloesi, cydweithio a gwyliadwriaeth gyson.

Ym Medicentre Caerdydd, rydyn ni’n falch o gefnogi cwmnïau technoleg feddygol sy’n gweithio ar atebion sy’n rhoi lles cleifion yn gyntaf. Un o’r cwmnïau hynny yw Frontier Medical Group, a diben eu cynnyrch a’u gwasanaethau yw lleihau risg a gwella deilliannau mewn lleoliadau gofal iechyd.

I ddathlu’r diwrnod pwysig hwn, buon ni’n siarad â Chris a Lisa yn Frontier am yr hyn y mae diogelwch cleifion yn ei olygu iddyn nhw, sut mae’n dylanwadu ar eu gwaith, a’u gweledigaeth ar sut i sicrhau gofal iechyd mwy diogel yn y dyfodol.

💬 Beth mae diogelwch cleifion yn ei olygu i Frontier Medical Group?

🗨️ “Yn Frontier Medical Group, mae diogelwch cleifion yn golygu diogelu unigolion rhag niwed y gellir ei atal, gan ganolbwyntio’n benodol ar atal briwiau oherwydd gwasgu. Mae briwiau gwasgu yn ddangosydd ansawdd cydnabyddedig o ofal cleifion, a phan fydd cleifion yn eu cael, bydd hwyrach yn achosi poen sylweddol, trallod emosiynol ac yn effeithio’n negyddol ar ddeilliannau iechyd. Rhennir ein hymrwymiad i ddiogelwch cleifion yn ddau: atal yr anafiadau hyn pan fo modd a gofalu eu bod yn cael eu rheoli’n effeithiol ac yn amserol pan fyddan nhw’n digwydd.”

💬 Sut mae cynnyrch a gwasanaethau Frontier Medical Group yn gwella diogelwch cleifion yn uniongyrchol?

🗨️ “Diben stoc Repose® yw amddiffyn cleifion o bob oedran ac ym mhob lleoliad gofal. Mae sawl astudiaeth, gan gynnwys hapdreialon rheoledig (RCT), wedi dangos bod cleifion sy’n defnyddio Repose yn llawer llai tebygol o gael briwiau gwasgu o’u cymharu ag ymyraethau eraill. Mewn gwirionedd, dangosodd ein hapdreial diweddaraf i’r achosion gael eu haneru o’u cymharu â matresi eraill, sef yr hyn a ystyrir yn eang yn safon aur gofal ardaloedd gwasgu.

Gyda’n system droi ochrol awtomataidd Toto®, rydyn ni’n clywed yn rheolaidd gan gleifion a gofalwyr am y gwahaniaeth mae’n ei wneud – nid yn unig wrth gefnogi gwella briwiau gwasgu, ond hefyd wrth alluogi pobl i aros yn eu lle gofal dewisol lle mae mwy o annibyniaeth, urddas a safon bywyd.”

💬 Allwch chi rannu stori lle cafodd effaith Frontier Medical Group ar ddiogelwch cleifion ei brofi’n uniongyrchol?

🗨️ “Daw un enghraifft bwerus o’n tîm ni ein hunain. Defnyddiodd un o gydweithiwr Frontier y Toto® gyda’i chwaer i ofalu am eu tad 99 mlwydd oed gartref tua diwedd ei oes. Heb Toto, byddai wedi bod yn rhaid iddo fynd i ysbyty neu gael gofal preswyl. Yn lle hynny, caniataodd y system iddo barhau gartref gyda’i deulu, gan ofalu bod cyflwr ei groen yn cael ei reoli’n effeithiol. Mae’r stori hon yn tynnu sylw at y rôl bwysig y gall ein cynnyrch eu chwarae o ran diogelwch cleifion a safon bywyd.”

💬 Sut y bydd technoleg ac arloesi yn llunio diogelwch cleifion yn ystod y 5 neu 10 mlynedd nesaf?

🗨️ “Mae gofal iechyd yn symud tuag at atebion mwy clyfar a chydgysylltiedig sy’n cynnal gofal diogel ac effeithiol yn y cartref. Yn Frontier, rydyn ni eisoes yn cyfrannu at y dyfodol hwn drwy arloesi, er enghraifft Toto®, ein system droi ochrol awtomataidd, sy’n amddiffyn cleifion sydd mewn perygl o anaf gwasgu ac yn lleihau’r baich ar ofalwyr.

Wrth edrych ymlaen, rydyn ni’n rhagweld bod systemau yn dod yn fwyfwy deallus ac integredig ac yn fwy dibynnol ar ddata – gan arwain at fonitro amser real a galluoedd gofal o bell. Bydd y datblygiadau hyn yn gwella diogelwch cleifion ond ar ben hynny yn cefnogi nod ehangach gofal iechyd, sef symud gofal i’r cartref.”

💬 Sut mae aelodau tîm Grŵp Meddygol Frontier yn teimlo am weithio ar gynnyrch sy’n effeithio’n uniongyrchol ar ddiogelwch cleifion?

🗨️ “Mae aelodau’r tîm yn cael eu symbylu’n gryf ac yn gwybod bod eu gwaith yn cael effaith uniongyrchol ar les cleifion. Er nad ydyn nhw’n cynnig gofal ymarferol hwyrach, maen nhw’n chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi’r rheini sy’n gwneud hynny. Mae hyfforddiant ac addysg yn ganolog i’n ffordd o weithio, ac mae gan bob aelod o staff ddealltwriaeth glinigol o iechyd y croen, atal gwasgedd ar friwiau, a’r goblygiadau i gleifion pan fydd briwiau’n datblygu.

Mae’r ddealltwriaeth gyffredin hon yn atgyfnerthu pwysigrwydd yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn Frontier: rhoi’r offer a’r wybodaeth gywir i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i amddiffyn cleifion, atal niwed a hyrwyddo diogelwch bob dydd.”

Mae Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd yn ein hatgoffa bod gofal iechyd mwy diogel yn dibynnu ar ymdrechion cyfunol arloeswyr, clinigwyr a’r cleifion eu hunain. Mae ymrwymiad Frontier Medical Group i gynnwys diogelwch ym mhob agwedd ar eu gwaith yn dangos sut y gall cwmnïau technoleg feddygol chwarae rhan hollbwysig yn y genhadaeth hon.

Ym Medicentre Caerdydd, rydyn ni’n falch o gynnig cartref i fusnesau megis Frontier ac mae eu syniadau’n helpu i wneud gofal iechyd yn fwy diogel ac yn fwy effeithiol i bawb.

Dysgwch fwy am y gwaith a’r cynhyrchion gwych gan Frontier yma: https://www.frontier-group.co.uk/