Cyflwyno MCBA Consulting: Troi Gwyddoniaeth Cyfansoddion Organig anweddol yn Arloesedd Gofal Iechyd
4 November 2025
Wrth i’r hydref agosáu, rydyn ni’n myfyrio ar haf prysur yn croesawu sawl tenant newydd i Medicentre Caerdydd. Heddiw rydyn ni’n falch iawn o gyflwyno un ohonyn nhw: MCBA Consulting, sy’n dod â’u gwaith arloesol ar gyfansoddion organig anweddol i Uned Hybu Busnes Prifysgol Caerdydd. Fe wnaethon ni sgwrsio â Matt Bates, prif ymgynghorydd y cwmni, i ddysgu rhagor.
💬 Felly, beth yn union mae MCBA yn ei wneud?
🗨️ “Yn gryno: popeth sy’n ymwneud â chyfansoddion organig anweddol. Mae’r cyfansoddion hyn yn bodoli’n bennaf ar ffurf nwy ar dymheredd ystafell. I’r rhan fwyaf o bobl, rhain yw’r moleciwlau sy’n rhoi arogl i bethau bob dydd – boed yn ddymunol neu fel arall. I ni, maen nhw hefyd yn ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth am iechyd. Rydyn ni’n canolbwyntio ar gyfansoddion anweddol dynol – sef yr holl gyfansoddion organig anweddol sy’n cael eu rhyddhau gan y corff. Gall y cyfansoddion hyn ddweud llawer wrthon ni. Er enghraifft, gall newidiadau nodi haint neu ddangos sut mae’r corff yn ymdopi â salwch. Mewn rhai achosion, gallai presenoldeb un moleciwl hyd yn oed ddangos clefyd cronig.”

💬 Mae hynny’n swnio’n bwerus. Sut ydych chi’n dychmygu y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio ym maes gofal iechyd?
🗨️ “Ein nod hirdymor yw sgrinio a monitro anymwthiol. Yn lle cymryd gwaed neu swabiau, gallai clinigwyr ddefnyddio ‘ôl bysedd’ cemegol yn yr awyr o amgylch clwyf, o sampl anadl, neu o’r croen. Mae’n gyflymach, yn haws, ac yn fwy cyfforddus i gleifion. Rydyn ni hefyd yn parhau i gydweithio â grŵp Dr Sarah Hooper ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi bod yn nodi cyfansoddion organig anweddol sy’n gysylltiedig â haint bacteriol, a’r cynhwysion gweithredol mewn olewau naws sy’n atal neu’n lladd bacteria.”
💬 A pham dewis Medicentre Caerdydd?
🗨️ “Mae’n addas iawn ar ein cyfer ni. Mae’r Medicentre yn ymwneud â dod ag entrepreneuriaid ac ymchwilwyr gwyddor iechyd at ei gilydd, a’r ysbryd cydweithredol hwnnw yw’r union beth sydd ei angen arnon ni ar gyfer cam nesaf ein gwaith. Mae bod yn agos at Ysbyty Prifysgol Cymru hefyd yn helpu. Mae’n rhoi cyfle inni gryfhau partneriaethau sy’n bodoli ar hyn o bryd a datblygu rhai newydd. I ni, mae symud yn ymwneud â mwy na chael labordy yn unig – mae’n ymwneud â rhoi ein hunain mewn sefyllfa dda i drawsnewid monitro iechyd sy’n seiliedig ar gyfansoddion organig anweddol yn offer ymarferol i glinigwyr.”
💬 Diolch Matt – mae wedi bod yn wych cael clywed gennyt ti.
Mae MCBA Consulting yn gweddu’n berffaith i gymuned Medicentre. Mae cynlluniau’r cwmni’n adlewyrchu’n union yr hyn y mae ein huned wedi’i chynllunio ar ei gyfer: cysylltu entrepreneuriaid, ymchwilwyr a chlinigwyr i ysgogi arloesi ym maes gofal iechyd.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut mae eu hymchwil a’u cydweithrediadau’n datblygu yma. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu gwaith, dilynwch MCBA Consulting ar LinkedIn.
Croeso i’r adeilad, MCBA Consulting!