Bys ar y pyls: CEDAR yn treialu technoleg calon clyfrach
8 July 2025
Ym Medicentre Caerdydd, rydyn ni’n falch o gefnogi ein tenantiaid sydd ar flaen y gad o ran arloesi meddygol. Mae un o’r tenantiaid yma, CEDAR, yn cydweithio â Ceryx Medical a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar dreial clinigol arloesol sydd â’r potensial i chwyldroi triniaeth methiant y galon.
Y treial yma, a elwir yn RSA-PACE, yw’r tro cyntaf i fodau dynol ddefnyddio dyfais Cysoni newydd Ceryx Medical. Mae’r ddyfais hon wedi’i chynllunio i efelychu’r amrywiad naturiol yng nghyfradd y galon sy’n gysylltiedig â phatrymau anadlu, a elwir yn arrhythmia sinws resbiradol (RSA). Drwy efelychu’r newidiadau rhythm naturiol hyn, gallai’r dechnoleg rheoli cyflymder newydd hon fod o fudd sylweddol i unigolion â methiant y galon. Bydd y treial yn asesu a oes modd defnyddio dyfais Cysoni i efelychu newidiadau naturiol y galon er mwyn gwella swyddogaeth y galon a deilliannau i gleifion.
Mae CEDAR – canolfan ymchwil ar y cyd rhwng y GIG a Phrifysgol Caerdydd – yn darparu cefnogaeth reolaidd i ddylunio a rheoli treial RSA-PACE er mwyn sicrhau bod y safonau cywir ar gyfer dyfeisiau meddygol rheoleiddiol yn cael eu bodloni. Gan baratoi’r ffordd ar gyfer camau nesaf posibl, mae eu gwaith yn allweddol i sicrhau bod yr astudiaeth yn cael ei chynnal mewn modd cadarn ac ystyrlon.
Mae’r cydweithrediad hwn yn enghraifft o’r gwaith arloesol y mae CEDAR yn ei wneud a’r ffyrdd y mae ein tenantiaid yng nghymuned Medicentre yn cyfrannu at ddatblygiadau ym maes gofal iechyd sydd â’r potensial i gael effaith fyd-eang.
Am ragor o wybodaeth am CEDAR a’r gwaith ynghlwm, ewch i https://cedar.nhs.wales/