Skip to main content

CymraegEventsTenant News

Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid: Grymuso Arloeswyr y Dyfodol ym maes y Gwyddorau Bywyd

12 August 2025

Mae 12 Awst yn nodi dathliad byd-eang o gyfraniadau pobl ifanc i gymdeithas drwy Ddiwrnod Ieuenctid Rhyngwladol. Wedi’i sefydlu gan y Cenhedloedd Unedig yn 2000, mae’r diwrnod yn tynnu sylw at y rôl mae pobl ifanc yn ei chwarae wrth lunio dyfodol gwell, mwy cynaliadwy. Mae hon yn neges sy’n hynod berthnasol i ni ym Medicentre Caerdydd, wrth i fyd busnesau newydd STEM ffynnu ar y safbwyntiau ffres a’r syniadau arloesol y mae pobl ifanc yn eu cynnig.

I nodi’r achlysur, gwnaethon ni siarad â rhai o denantiaid gwych Medicentre sy’n gweithio ar draws y sectorau biodechnoleg a thechnoleg feddygol. O’r hyn a’u hysbrydolodd nhw yn gyntaf i ddilyn gwyddoniaeth, i gyngor ar gyfer y genhedlaeth nesaf, dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud:

💬 “Y peth gorau am weithio i fy nghwmni…”

Oliver, Myfyriwr Blwyddyn mewn Diwydiant, Feed, Food & Future:

“Mae’r cyfle i weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant sydd â degawdau o brofiad yn amhrisiadwy. Dwi wedi dysgu cymaint, nid dim ond o ran sgiliau labordy ond o ran gwneud penderfyniadau a datrys problemau bob dydd. Cefais fynychu cynhadledd hefyd lle wnes i gwrdd â phobl o amrywiaeth enfawr o feysydd — roedd yn wych ar gyfer rhwydweithio ac fe agorodd gymaint o ddrysau.”

Sue, CEDAR:

“Fy nghydweithwyr. Gydag amrywiaeth o gefndiroedd, a nifer o brosiectau, mae gennyn ni wybodaeth a phrofiad sy’n gorgyffwrdd, ond sy’n fuddiol. Gallaf gael atebion synhwyrol a defnyddiol i’m cwestiynau, ac weithiau eu helpu nhw gyda’u problemau. Rydyn ni’n cydweithio ac yn cynorthwyo ein gilydd, gan weithio ar draws gwahanol dimau a thasgau. Mae rhywbeth newydd i’w ddysgu bob amser.”

Aya, Profiad Gwaith, Alesi Surgical:

“Drwy weithio fel Technegydd Electro-Fecanyddol ar interniaeth gyda Alesi Surgical, rydw i wedi cael cyfrifoldebau go iawn sydd wedi fy helpu i deimlo’n rhan gwerthfawr o’r tîm.”

Declan, Neurocrine:

“Y cydweithredu. Mae pawb yn barchus ac yn gynhwysol, sy’n creu amgylchedd llawn cymhelliant a chefnogaeth.”

💬 “Fy nghyngor i bobl ifanc sy’n chwilio am rôl ym meysydd STEM…”

Natalia, CME:

“Peidiwch â bod ofn gofyn am help neu brofiad gan unrhyw un a phawb. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn hapus i rannu cyngor neu gyfleoedd os ydych chi ond yn gofyn.”

Oliver:

“Mae rhwydweithio — boed ar-lein neu wyneb yn wyneb — yn arfer eithriadol o werthfawr. Mae’n ehangu eich mathau o gyfleoedd ac wir yn helpu pan ddaw i ddod o hyd i rolau ym meysydd STEM.”

Sue:

“Mae’n debyg eich bod eisoes yn gwybod beth sydd o ddiddordeb i chi, ond gall gymryd ychydig i weithio allan beth yw eich cryfderau go iawn a beth yw eich hoff ffordd o weithio. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gwybod yn iawn beth i’w wneud, dewch o hyd i rywbeth diddorol a gwnewch hynny. Neu o leiaf dewch o hyd i rywbeth diddorol yn yr hyn rydych chi’n ei wneud. Anaml y caiff profiad ei wastraffu ac mae sgiliau trosglwyddadwy yn wirioneddol allweddol i symud ymlaen.”

💬 “Beth wnaeth eich ysbrydoli i weithio ym maes biowyddoniaeth neu ofal iechyd?”

Agatha, Cedar:

“Mae gofal iechyd yn cwmpasu pob math o bethau o lunio canllawiau’r GIG i ymchwil glinigol hanfodol – mae digonedd o opsiynau ar gyfer datblygu gyrfa ac arbenigo!”

Aya:

“Yn ystod fy mlwyddyn olaf [ym Mhrifysgol Caerdydd], cwblheais brosiect ar drin celloedd canser mewn microdon, a sbardunodd  ddiddordeb mawr mewn cymwysiadau biofeddygol peirianneg. Fe wnaeth y profiad hwnnw fy ysbrydoli i ddeall y maes yn well.”

Sue:

“Ar ôl fy ngradd mewn ffiseg roeddwn i eisiau parhau i ddysgu ac fe wnes i wrthod y syniad o yrfa mewn Ffiseg Feddygol i ddechrau. Ar ôl tair blynedd, roeddwn i eisiau ffordd fwy ystyrlon o ddefnyddio’r wyddoniaeth roeddwn i wedi’i dysgu. Yn raddol, penderfynais y byddwn i efallai’n hoffi gweithio fel Ffisegydd Meddygol y GIG, felly fe wnes i gais am y cynllun hyfforddi.”

Oliver:

“Mae Duw wedi rhoi cymaint o gyfleoedd a chymhelliant i mi weithio ar rywbeth a all wella iechyd ledled y byd. Gall problemau iechyd gael effaith enfawr ar berthnasoedd ac ansawdd bywyd rhywun — dwi eisiau bod yn rhan o ymchwil sy’n lleihau’r effaith honno, fel y gall mwy o bobl fyw’n well ac mewn cymuned gydag eraill.”

💬 “Oes gennych chi syniad am fusnes newydd? Dyma ein cyngor ni…”

James, Immunoserv:

“Yn gyntaf oll i unrhyw gwmni gwyddonol, mae angen i’r wyddoniaeth y tu ôl i’w gynhyrchion neu wasanaethau fod yn gadarn. Casglwch yr holl wybodaeth sy’n cefnogi eich arloesedd, honiadau neu arbenigedd.”

Oliver:

“Credwch yn eich syniad. Os nad ydych chi’n credu yn y syniad, bydd yn llawer anoddach i ddyfalbarhau neu gael eraill i ymuno.”

Aya:

“Mae’r [interniaeth] hon wedi bod yn ffordd wych o gymhwyso’r hyn a ddysgais yn ystod fy ngradd drwy weld sut mae peirianneg yn cael ei defnyddio mewn technolegau meddygol go iawn. Mae’r profiad hwn yn bendant wedi fy helpu i ddysgu am y maes hwn.”

💡Awgrym: Os ydych chi o dan 25 oed ac mae gennych chi syniad busnes arloesol ym maes y biowyddorau neu du hwnt, cymerwch gipolwg ar Syniadau Mawr Cymru am gymorth sy’n amrywio o adnoddau am ddim i gyngor arbenigol a hyd yn oed cyllid grant.💡

Gan bob un ohonon ni’n Medicentre Caerdydd, diolch i’r bobl ifanc sy’n helpu i ysgogi arloesi, tosturi a chynnydd ym meysydd STEM. Mae eich syniadau heddiw yn helpu i lunio datblygiadau arloesol yfory.