Dathlu Arloesedd: ImmunoServ ar flaen y gad ym maes profi imiwnedd yn fyd-eang
24 June 2025
Ym Medicentre Caerdydd, rydyn ni’n falch o gefnogi cwmnïau arloesol ym maes y gwyddorau bywyd sy’n cael effaith go iawn ar y byd. Mae un tenant o’r fath, ImmunoServ, wedi bod yn cipio’r penawdau am eu gwaith arloesol ar brofi imiwnedd.
Eleni, enillodd ImmunoServ y Wobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yng Ngwobrau Dewi Sant. Dyma un o anrhydeddau mwyaf Cymru, ac mae’n cydnabod eu cyfraniad sylweddol at wella ein dealltwriaeth o ymatebion imiwn i heintiau a brechlynnau. Mae’r wobr yn dathlu gwaith y cwmni i ddatblygu gwasanaethau profi celloedd T yn gyflym yn ystod pandemig COVID-19, yn ogystal â’u harloesedd parhaus wrth fynd i’r afael â heriau iechyd byd-eang sy’n amrywio o ffliw tymhorol a ffliw adar i sglerosis ymledol a chanser.
Gan ychwanegu at y llwyddiant hwn, mae ImmunoServ bellach wedi lansio Pecyn Prawf Labordy Immuno-T™ – cynnyrch sy’n caniatáu i labordai ledled y byd fesur ymatebion celloedd T mewn ffordd syml, safonol. Drwy gynnig cipolwg ar imiwnedd hirdymor, mae’r pecyn yn rhoi data hanfodol at ddibenion gwella iechyd y cyhoedd a gwerthuso brechlynnau. Mae eisoes yn cael ei ddefnyddio’n rhyngwladol, gan gynnwys yn y Gambia, ac mae’n helpu i ehangu mynediad at brofion imiwnolegol uwch.

Mae’r datblygiad arloesol hwn wedi cael ei gefnogi gan bartneriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng y byd academaidd a byd diwydiant, sy’n helpu i ddod â’r arbenigedd, y cyllid a’r seilwaith sydd eu hangen ynghyd i symud technoleg o fod yn ymchwil i gael ei defnyddio yn y byd go iawn. Mae’r pecyn yn cynnwys yr holl gydrannau sydd eu hangen i brofi celloedd T mewn labordy, gan gynnwys adweithyddion parod i’w defnyddio, protocolau dilys, a chanllawiau y gellir eu dehongli’n glir.
Tenant ym Medicentre Caerdydd yw ImmunoServ. Cafodd ei sefydlu gan yr ymchwilwyr Dr Martin Scurr a’r Athro Andrew Godkin ym Mhrifysgol Caerdydd. Dod ag imiwnoleg uwch i leoliadau clinigol a lleoliadau ymchwil bob dydd yw eu cenhadaeth.
Fel yr eglura James Hindley, Prif Swyddog Gweithredol Medicentre Caerdydd:
“Trwy ein hamser ym Medicentre Caerdydd hyd yn hyn, rydym wedi meithrin cysylltiadau anhygoel ag ymchwilwyr a chlinigwyr yn Ysbyty’r Mynydd Bychan a Phrifysgol Caerdydd, sydd wedi gwella ansawdd a chyflymder ein gwaith ymchwil a’n datblygiad. Rydym yn gyffrous am barhau i dyfu’r rhwydwaith cydweithredol lleol i gynyddu ein heffaith fyd-eang.”
Rydyn ni’n falch o gefnogi eu datblygiad a gweld eu llwyddiant yn troi’n welliannau ystyrlon ym maes iechyd byd-eang.
Am ragor o wybodaeth am ImmunoServ a’u gwaith, ewch i https://immunoserv.com/