Skip to main content

CymraegWelcome/Croeso

Medicentre Caerdydd: Yn egino syniadau ers 1992

5 June 2025

Croeso i Medicentre Caerdydd– cartref i fusnesau newydd ym maes gofal iechyd biodechnoleg a thechnoleg feddygol. Rydyn ni’n cynnig mwy na dim ond lle i weithio – rydyn ni’n ganolfan cydweithio, darganfod a mentergarwch. Mae’r Medicentre ar Gampws Parc y Mynydd Bychan yng nghanol cymuned iechyd ac ymchwil Caerdydd. Mae’n dwyn ynghyd entrepreneuriaid, clinigwyr, ymchwilwyr ac arloeswyr sy’n ysgogi newid yn y sector gwyddorau bywyd.

Mae’r blog yma’n esbonio beth sy’n digwydd o fewn ein muriau – o ddathlu llwyddiannau tenantiaid a cherrig milltir pwysig, i groesawu cwmnïau newydd i’r adeilad a thynnu sylw at y gwaith cyffrous maen nhw’n ei wneud. Byddwn ni hefyd yn myfyrio ar y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn y Medicentre ac yn rhoi cipolwg i chi ar yr ysbryd cydweithredol sy’n diffinio ein cymuned.

Ymunwch â ni wrth i ni gofnodi’r daith arloesi sy’n datblygu yng Nghanolfan Medicentre Caerdydd – un stori ar y tro.

Dysgwch fwy am Medicentre Caerdydd yma.

Ewch i’n LinkedIn.