{"id":243,"date":"2026-10-20T08:12:59","date_gmt":"2026-10-20T08:12:59","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/?p=243"},"modified":"2026-10-20T08:16:55","modified_gmt":"2026-10-20T08:16:55","slug":"cadwyni-cyflenwi-ai-a-gynhelir-trwy-fenthyciadau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/cy\/cadwyni-cyflenwi-ai-a-gynhelir-trwy-fenthyciadau\/","title":{"rendered":"Cadwyni cyflenwi AI a gynhelir trwy fenthyciadau"},"content":{"rendered":"<p><strong>Pan fydd strwythur ariannu yn dod yn strwythur cadwyn gyflenwi<\/strong><\/p>\n<p>Darn barn | Yr Athrawon Aris Syntetos a Mike Wilson, Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestrau PARC<\/p>\n<p><em><strong>Mae&#8217;r ffyniant seilwaith AI fel arfer yn cael ei gyflwyno fel stori dechnoleg. Yn gynyddol, mae hefyd yn stori ariannu, ac felly&#8217;n stori cadwyn gyflenwi. Bydd y ffordd y mae hyperscalers yn ariannu sglodion, canolfannau data a chapasiti yn dylanwadu ar bwy sy&#8217;n berchen ar asedau, pwy sydd \u00e2 risg, sut mae cyflenwyr yn ymddwyn, a beth sy&#8217;n digwydd os bydd disgwyliadau&#8217;n newid.<\/strong><\/em><\/p>\n<h1>Mae ffyniant technoleg yn dod yn ddigwyddiad marchnad gyfalaf<\/h1>\n<p>Mae&#8217;r raddfa wedi newid yn hynod gyflym. Yn ei Adroddiad Sefydlogrwydd Ariannol ym mis Gorffennaf 2026, nododd Banc Lloegr fod y pum prif <em>hyperscaler<\/em> AI &#8211; Meta, Alphabet, Amazon, Microsoft ac Oracle &#8211; yn cyfrif am tua 3% yn unig o stoc dyled gradd buddsoddi (IG) yr Unol Daleithiau ar ddiwedd 2025, ond mwy na 15% o ddyroddiad blwyddyn hyd yn hyn erbyn dechrau Mai 2026. Yr hyn y mae hyn yn ei olygu yw, er nad yw&#8217;r cwmn\u00efau hyn eto yn rheoli&#8217;r stoc o ddyled sydd eisoes yn weddill, maen nhw\u2019n benthyca ar gyfradd eithriadol o gyflym o&#8217;u cymharu \u00e2 phawb arall. Nododd yr un adroddiad fod amcangyfrifon consensws ar gyfer eu gwariant cyfalaf cyfunol yn 2028 wedi symud o dan $600 biliwn ddiwedd 2025 i uwchlaw $1 triliwn fisoedd yn ddiweddarach yn unig.<a href=\"#_ftn1\" name=\"_ftnref1\"><strong><sup>[1]<\/sup><\/strong><\/a><\/p>\n<p>Nid mater o gwmn\u00efau technoleg yn benthyca mwy yn unig yw hyn. Mae mathau newydd o gyllid prosiect, cerbydau pwrpas arbennig, prydlesu a strwythurau eraill oddi ar y fantolen yn cael eu defnyddio fwyfwy i ariannu&#8217;r seilwaith ffisegol y tu \u00f4l i AI. Mae datblygiad canolfan ddata Hyperion Meta, er enghraifft, wedi cynnwys tua $27 biliwn o ariannu trwy strwythur dull ariannu prosiect. Yn fwy diweddar, adroddwyd bod Amazon wedi ystyried symud tua $8 biliwn o sglodion Nvidia i mewn i gyfrwng pwrpas arbennig a&#8217;u prydlesu yn \u00f4l. Mae&#8217;r ffin rhwng buddsoddiad technoleg, cyllid cadwyn gyflenwi a chyllid asedau yn dod yn llawer llai clir. <a href=\"#_ftn2\" name=\"_ftnref2\"><strong><sup>[2]<\/sup><\/strong><\/a><strong><sup>,<\/sup><\/strong><a href=\"#_ftn3\" name=\"_ftnref3\"><strong><sup>[3]<\/sup><\/strong><\/a><\/p>\n<p>Nid yw&#8217;r risg yn gyfyngedig i ddyled. Mae <em>hyperscalers<\/em> hefyd yn datblygu ymrwymiadau prynu enfawr yn y dyfodol gyda chyflenwyr a darparwyr seilwaith. Mae&#8217;r ymrwymiadau hyn yn ddibynnol ar alw\u2019r dyfodol am sglodion, gweinyddwyr, ynni a chapasiti canolfannau data, gan drosglwyddo disgwyliadau ariannol yn ddwfn i&#8217;r gadwyn gyflenwi ffisegol yn effeithiol. Os bydd y galw disgwyliedig AI yn methu ag ymddangos, mae\u2019n bosib bydd y canlyniadau\u2019n cael eu teimlo nid yn unig gan yr <em>hyperscalers<\/em> eu hunain, ond hefyd gan gyflenwyr, darparwyr logisteg a pherchnogion asedau sydd wedi ehangu capasiti wrth ragweld y galw hwnnw.<a href=\"#_ftn4\" name=\"_ftnref4\"><strong><sup>[4]<\/sup><\/strong><\/a><\/p>\n<p>Mater pellach yw&#8217;r rhyng-ddibyniaeth gynyddol rhwng cwsmeriaid a chyflenwyr y gall y trefniadau hyn ei chreu. Pan fo cwsmer mawr yn buddsoddi mewn cyflenwyr, yn eu hariannu neu&#8217;n eu cefnogi fel arall sydd wedyn yn defnyddio&#8217;r cyfalaf hwnnw i ehangu capasiti a gwerthu&#8217;n \u00f4l i&#8217;r un ecosystem, mae cyllido yn dod yn fwy cylchol a gall cyfle a risg gael eu crynhoi o fewn rhwydwaith cymharol fach o gwmn\u00efau.<\/p>\n<figure id=\"post-236 media-236\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/wp-content\/uploads\/sites\/566\/2026\/10\/A83E23F8-BB4B-400B-8500-529C2CAC9ABD.png\" alt=\"Hyperscalers are becoming much larger marginal borrowers\" width=\"1598\" height=\"632\" \/><\/figure>\n<p>Ffigur 1. \u00d4l troed pum <em>hyperscaler<\/em> AI ym marchnad dyled gradd buddsoddi&#8217;r UD.<a href=\"#_ftn5\" name=\"_ftnref5\"><strong><sup>[5]<\/sup><\/strong><\/a><\/p>\n<h1>Pam mae hyn yn bwysig i gadwyni cyflenwi<\/h1>\n<p>Mae pob strwythur ariannol yn creu strwythur gweithredol y tu \u00f4l iddo. Rhaid i rywun fod yn berchen ar y sglodion a&#8217;r gweinyddwyr; rhaid i rywun ariannu&#8217;r stocrestr eiddo a&#8217;r offer sy&#8217;n symud trwy&#8217;r cadwyni cyflenwi lled-ddargludyddion a chanolfannau data; rhaid i rywun ymrwymo capasiti ymlaen llaw; ac yn y pen draw bydd gan rywun yr anfantais os yw&#8217;r galw, y dechnoleg neu werthoedd yr asedau\u2019n symud yn wahanol i&#8217;r disgwyl. Wrth i fuddsoddiad AI ddod i ddibynnu\u2019n fwy ar fenthyciadau a chael ei ddosbarthu&#8217;n fwy eang ar draws cyfryngau ariannol, gall y cyfrifoldebau hyn ddod yn anoddach eu gweld.<\/p>\n<p>Mae hyn yn bwysig oherwydd bod yr asedau\u2019n anarferol. Mae cyflymyddion AI yn hynod werthfawr ac yn strategol bwysig, tra bod eu hoes economaidd a&#8217;u gwerth gweddilliol yn ansicr mewn marchnad sy&#8217;n cael ei nodweddu gan newid technolegol cyflym. Adroddodd Reuters yn ddiweddar fod benthycwyr yn aml yn gweithio gyda rhagdybiaethau dibrisiant tair i bedair blynedd ar gyfer GPUs datblygedig hyd yn oed wrth i gyflenwyr ddadlau am oesau defnyddiol hirach. Nid yw&#8217;r anghytundeb hwnnw&#8217;n fater cyfrifyddu: mae gwerth gweddilliol yn pennu\u2019r swm y gellir ei fenthyca yn ddiogel yn erbyn ased, sut mae prydlesau&#8217;n cael eu prisio, a phwy sy&#8217;n ysgwyddo&#8217;r golled os yw cenhedlaeth fwy newydd yn gwneud offer presennol yn llai deniadol. <a href=\"#_ftn6\" name=\"_ftnref6\"><strong><sup>[6]<\/sup><\/strong><\/a><strong><sup>,<\/sup><\/strong><a href=\"#_ftn7\" name=\"_ftnref7\"><strong><sup>[7]<\/sup><\/strong><\/a><\/p>\n<h1>Nid yw risg stocrestrau eiddo yn diflannu &#8211; mae&#8217;n symud<\/h1>\n<p>Felly, i reolwyr cadwyni cyflenwi, nid \u201cfaint o stocrestr sydd yno?\u201dyw\u2019r cwestiwn pwysig ond \u201cpwy sy&#8217;n ei hariannu, pwy sy&#8217;n berchen arni, a phwy sydd wedi addo ei chymryd?\u201d Gall ariannu annog ymrwymiadau enfawr i fyny&#8217;r afon: lled-ddargludyddion, cof, offer rhwydweithio, systemau p\u0175er, offer oeri a chapasiti adeiladu. Yna gall amseroedd arweiniol hir a neilltuo capasiti wneud i&#8217;r gadwyn edrych yn ddiogel yn ystod twf, wrth gynyddu amlygrwydd wrth i\u2019r galw newid ar yr un pryd.<\/p>\n<p>Os bydd disgwyliadau&#8217;n gwanhau, gall risg symud yn gyflym o <em>hyperscalers<\/em> i weithredwyr canolfannau data, prydleswyr offer, cyflenwyr, darparwyr logisteg ac, yn y pen draw, fuddsoddwyr. Nid yw hynny&#8217;n golygu y bydd cwymp yn anochel. Mae llawer o&#8217;r cwmn\u00efau technoleg mwyaf yn parhau i gael eu graddio&#8217;n gryf ac aeth i mewn i&#8217;r cylch benthyca hwn gyda chymarebau dyled cymharol isel. Ond mae\u2019n golygu na ellir asesu gwydnwch cadwyni cyflenwi mwyach yn annibynnol ar strwythur cyfalaf a threfniadau ariannu.<a href=\"#_ftn8\" name=\"_ftnref8\"><strong><sup>[8]<\/sup><\/strong><\/a><\/p>\n<h1>Mater y gadwyn gyflenwi gylchol<\/h1>\n<p>Mae dimensiwn economi gylchol hefyd sy&#8217;n haeddu llawer mwy o sylw. Os caiff offer ei ariannu ar y rhagdybiaeth ei fod yn cadw gwerth, yna bydd ailddefnyddio, ail-leoli, adnewyddu, ail-bwrpasu ac adfer cydrannau yn dod yn rhan o&#8217;r cynnig ariannol, nid yn \u00f4l-ystyriaeth amgylcheddol yn unig. Mae ail oes gredadwy yn gallu cefnogi gwerthoedd gweddilliol; mae llwybrau adfer gwan yn gallu eu dinistrio. Yn yr ystyr honno, mae cadwyni cyflenwi cylchol yn gallu dod yn fath o reoli risg ariannol ar gyfer yr economi AI.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r raddfa gorfforol yn atgyfnerthu&#8217;r pwynt. Mae&#8217;r Asiantaeth Ynni Ryngwladol yn disgwyl i ddefnydd canolfannau data byd-eang o drydan godi o tua 485 TWh yn 2025 i tua 950 TWh erbyn 2030. Y tu \u00f4l i&#8217;r twf hwnnw mae rhwydwaith cyflenwi helaeth o offer, deunyddiau, seilwaith ynni a logisteg. Mae cyllido yn pennu pa mor gyflym mae&#8217;r rhwydwaith hwnnw&#8217;n ehangu; mae gweithrediadau\u2019n penderfynu a ellir cynnal y gwerth a gr\u00ebwyd.<a href=\"#_ftn9\" name=\"_ftnref9\"><strong><sup>[9]<\/sup><\/strong><\/a><\/p>\n<figure id=\"post-235 media-235\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/wp-content\/uploads\/sites\/566\/2026\/10\/83A8ECE3-9DD2-4521-A6D1-AF3AA03CE0E9.png\" alt=\"The physical footprint is expanding with the financial one\" width=\"1560\" height=\"634\" \/><\/figure>\n<p>Ffigur 2. Defnydd canolfannau data byd-eang o drydan: Amcangyfrif 2025 ac amcanestyniad canolog 2030.<a href=\"#_ftn10\" name=\"_ftnref10\"><strong><sup>[10]<\/sup><\/strong><\/a><\/p>\n<h1>Agenda ymchwil newydd<\/h1>\n<p>Rydym yn credu bod hyn yn creu agenda amserol ar gyfer ymchwil ac ymarfer cadwyni cyflenwi. Mae angen i ni ddeall sut mae modelau ariannu newydd yn newid perchnogaeth stocrestrau a chymhellion ar draws y gadwyn; sut mae risg ariannol yn cynyddu trwy ddibyniaethau gweithredol; sut y dylid asesu oes ddefnyddiol a gwerth gweddilliol seilwaith AI o dan ddarfodiad cyflym; a sut y gall strategaethau cylchol adennill gwerth pan fydd offer yn cael ei ddisodli.<\/p>\n<p>Yn PARC, mae ein gwaith wedi bod ers amser maith ar ryngwyneb rhagolygon, stocrestrau, risg a chadwyni cyflenwi cylchol. Mae&#8217;r ffyniant seilwaith AI yn dod \u00e2&#8217;r them\u00e2u hynny at ei gilydd mewn ffordd newydd. Nid a oes modd ariannu&#8217;r buddsoddiad yw\u2019r cwestiwn canolog yn unig rhagor. Y cwestiwn yw a yw&#8217;r cadwyni cyflenwi a gr\u00ebwyd gan yr ariannu hwnnw yn wydn \u2014 yn ariannol, yn weithredol ac yn amgylcheddol \u2014 pan brofir y rhagdybiaethau sy&#8217;n sail iddynt.<a href=\"#_ftn11\" name=\"_ftnref11\"><strong><sup>[11]<\/sup><\/strong><\/a><\/p>\n<p><em><strong>\u201cMae ariannu seilwaith AI yn dod yn rhan o saern\u00efaeth y gadwyn gyflenwi ei hun.\u201d<\/strong>\u00a0<\/em><\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref1\" name=\"_ftn1\"><strong><sup>[1]<\/sup><\/strong><\/a>Banc Lloegr, Adroddiad Sefydlogrwydd Ariannol, Gorffennaf 2026: https:\/\/www.bankofengland.co.uk\/financial-stability-report\/2026\/july-2026<\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref2\" name=\"_ftn2\"><strong><sup>[2]<\/sup><\/strong><\/a>Reuters, 2 October 2026: https:\/\/www.reuters.com\/business\/retail-consumer\/amazon-seeks-offload-8-billion-nvidia-chips-investors-ft-reports-2026-10-02\/<\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref3\" name=\"_ftn3\"><strong><sup>[3]<\/sup><\/strong><\/a> Reuters, 29 September 2026: https:\/\/www.reuters.com\/commentary\/reuters-open-interest\/are-ai-credit-cracks-warning-or-buy-signal-2026-09-29\/<\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref4\" name=\"_ftn4\"><sup>[4]<\/sup><\/a> Financial Times, Robin Wigglesworth, &#8216;The hyperscalers\u2019 exploding \u2018purchase commitments\u2019 reach $1.5tn&#8217;, Hydref 2026: https:\/\/giftarticle.ft.com\/giftarticle\/actions\/redeem\/d58cd402-7bc6-4cb9-a057-93b84b345087<\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref5\" name=\"_ftn5\"><strong><sup>[5]<\/sup><\/strong><\/a> Banc Lloegr, Adroddiad Sefydlogrwydd Ariannol, Gorffennaf 2026: https:\/\/www.bankofengland.co.uk\/financial-stability-report\/2026\/july-2026<\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref6\" name=\"_ftn6\"><strong><sup>[6]<\/sup><\/strong><\/a> Reuters, 1 Hydref 2026: https:\/\/www.reuters.com\/legal\/transactional\/nvidias-bet-that-its-chips-can-finance-ai-boom-gets-wall-street-reality-check-2026-10-01\/<\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref7\" name=\"_ftn7\"><strong><sup>[7]<\/sup><\/strong><\/a> Banc Lloegr, Adroddiad Sefydlogrwydd Ariannol, Gorffennaf 2026: https:\/\/www.bankofengland.co.uk\/financial-stability-report\/2026\/july-2026; Asiantaeth Ynni Ryngwladol, Key Questions on Energy and AI, 2026: https:\/\/www.iea.org\/reports\/key-questions-on-energy-and-ai\/executive-summary<\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref8\" name=\"_ftn8\"><strong><sup>[8]<\/sup><\/strong><\/a> Banc Lloegr, Adroddiad Sefydlogrwydd Ariannol, Gorffennaf 2026: https:\/\/www.bankofengland.co.uk\/financial-stability-report\/2026\/july-2026<\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref9\" name=\"_ftn9\"><strong><sup>[9]<\/sup><\/strong><\/a> Asiantaeth Ynni Rhyngwladol, Key Questions on Energy and AI, 2026: https:\/\/www.iea.org\/reports\/key-questions-on-energy-and-ai\/executive-summary<\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref10\" name=\"_ftn10\"><strong><sup>[10]<\/sup><\/strong><\/a> Asiantaeth Ynni Rhyngwladol, Cwestiynau Allweddol ar Ynni ac AI, 2026: https:\/\/www.iea.org\/reports\/key-questions-on-energy-and-ai\/executive-summary<\/p>\n<p><a href=\"#_ftnref11\" name=\"_ftn11\"><strong><sup>[11]<\/sup><\/strong><\/a> Sefydliad PARC, tudalennau Ymchwil a Phrosiectau: https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/parc-institute-manufacturing-logistics-inventory\/research a https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/parc-institute-manufacturing-logistics-inventory\/research\/projects<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae'r ffyniant seilwaith AI fel arfer yn cael ei gyflwyno fel stori dechnoleg. Yn gynyddol, mae hefyd yn stori ariannu, ac felly'n stori cadwyn gyflenwi. Bydd y ffordd y mae hyperscalers yn ariannu sglodion, canolfannau data a chapasiti yn dylanwadu ar bwy sy'n berchen ar asedau, pwy sydd \u00e2 risg, sut mae cyflenwyr yn ymddwyn, a beth sy'n digwydd os bydd disgwyliadau'n newid.","protected":false},"author":42,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[53],"tags":[],"class_list":["post-243","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-ai-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/243","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/wp-json\/wp\/v2\/users\/42"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=243"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/243\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":253,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/243\/revisions\/253"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=243"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=243"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/logistics-manufacturing\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=243"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}