Skip to main content

Centre BlogEventsNewsWales

Islam In Wales / Islam yng Nghymru: Exhibition Launch

10 December 2024
Mynedfa’r arddangosfa
Mynedfa’r arddangosfa

A groundbreaking new exhibition on Islam in Wales is launched at Cardiff. Scroll down for English.

Mae arddangosfa newydd arloesol ar Islam yng Nghymru yn cael ei lansio yng Nghaerdydd. Sgroliwch i lawr ar gyfer Saesneg.

Ddydd Iau 7 Tachwedd 2024, fe wnaeth Canolfan Islam-y DU lansio arddangosfa newydd yn Adeilad Morgannwg Prifysgol Caerdydd, yn seiliedig ar ganfyddiadau’r Prosiect Hanes Islam yng Nghymru. Yn bresennol yn y digwyddiad oedd aelodau o’r Gymuned Fwslimaidd yng Nghymru, arweinwyr dinesig a ffydd, yn ogystal ag aelodau’r Senedd.

Dan arweiniad Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan, sef Dr Abdul-Azim Ahmed, diben y prosiect yw ceisio dogfennu ac adrodd “stori” Islam yng Nghymru a gwneud hanes Mwslimiaid yng Nghymru yn hygyrch i academyddion, y cyhoedd yn ehangach, a Mwslimiaid Cymreig eu hunain, er mwyn ehangu dealltwriaeth y cyhoedd o Gymru amlddiwylliannol ac aml-grefydd.

Ymhlith y siaradwyr ar y noson roedd Jane Hutt CBE, Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol; Yr Athro Damian Walford Davies, Provost a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd; a sylfaenydd Cyngor Mwslemaidd Cymru, yr Athro Saleem Kidwai OBE. Cynhaliwyd y digwyddiad dan gadeiryddiaeth Mariyah Zaman, sef Prif Swyddog Gweithredol Now in a Minute Media, sef cwmni sydd wedi bod yn un o’r prif bartneriaid yn y broses o gyflwyno’r Prosiect Hanes Islam yng Nghymru.

Jane Hutt yn cerdded drwy’r arddangosfa
Jane Hutt walking through the exhibition

Jane Hutt yn cerdded drwy’r arddangosfaBu i Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet, ganmol pwysigrwydd y prosiect, a’r ymchwil a wneir gan Ganolfan Islam-y DU, gan ddweud “rydyn ni mor ffodus eich bod chi yma yng Nghaerdydd, yn ein Prifysgol, ac yn cael cymaint o effaith.” Gwnaeth y Dirprwy Is-ganghellor Damian Walford Davies groesawu’r arddangosfa, gan fynegi “pa mor falch ydw i, o’r hyn sydd allan yna, yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni yma, yr hyn y mae Prifysgol Caerdydd wedi’i gyflawni”, a chan estyn “diolch i’r Sefydliad Jameel a’r Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU”.

Mae’r arddangosfa yn daith weledol gyfareddol i hanes Mwslimiaid yng Nghymru, ac mae’n cynnwys map sydd newydd ei gomisiynu o’r cysylltiadau Mwslemaidd ac Islamaidd â Chymru. Yn ogystal â’r arddangosfa ffisegol, mae e-lyfr digidol o allbynnau’r prosiect wedi’i greu gan Swyddog Datblygu’r Ganolfan, Mark Bryant, sy’n caniatáu mynediad hawdd i ganfyddiadau’r prosiect. Mae’r e-lyfr yn cynnwys posteri’r arddangosfa, dolenni i fideos a darlithoedd esboniadol, a llyfr llawn lluniau, sy’n cynnwys y lluniau hynny a gafodd eu cyflwyno i’r gystadleuaeth ffotograffiaeth yn 2022 ar y thema “Islam yng Nghymru” er mwyn lansio’r prosiect. 

Cynhaliwyd y digwyddiad dan gadeiryddiaeth Mariyah Zaman, sef Prif Swyddog Gweithredol Now in a Minute Media
The event was chaired by Mariyah Zaman, CEO of Now in a Minute Media

Mae’r prosiect yn datgelu hanes cudd Mwslimiaid yng Nghymru, o dröedigion Fictoraidd cynnar, i sefydlu Caerdydd yn un o’r cymunedau Mwslemaidd cynharaf ym Mhrydain. Mae hyn yn adeiladu ar waith ein Cyfarwyddwr, yr Athro Sophie Gilliat-Ray. Fel y mae hi’n ei grybwyll yn ei gwaith arloesol, Mwslimiaid ym Mhrydain, nid yn unig y mae “dylanwad diwylliant ac ysgolheictod Islamaidd ar gymdeithas Saesneg yr Oesoedd Canol… yn aml yn cael ei ddiystyru,” ond mae “natur Islamaidd amlwg” yr wybodaeth hon hefyd yn aml cael ei herio, gan greu bylchau a distawrwydd yn ei chylch. Mae’r un peth yn wir yn achos cysylltiad y gymdeithas yng Nghymru ag Islam, ac mae prosiect Dr Ahmed yn cynnig ateb pwerus.

Caiff yr arddangosfa yn Adeilad Morgannwg ei chynnal tan ddiwedd Ionawr 2025.


On Thursday, 7 November 2024, the Islam-UK Centre launched a new exhibition in Cardiff University’s Glamorgan Building on the findings of the Islam in Wales History Project. Inattendance were members of the Welsh Muslim community, civic and faith leaders, as well as members of Senedd.  

The project led by the Deputy Director of our centre, Dr Abdul-Azim Ahmed, seeks to document and tell the “story” of Islam in Wales and make the history of Muslims in Wales accessible to academics, the wider public, and Welsh Muslims themselves, so as to broaden public understanding of a multicultural and multireligious Wales.

Gwaith celf a gafodd ei ddewis
Selected artwork

Speakers on the evening included Jane Hutt CBE, Welsh Cabinet Secretary for Social Justice; Professor Damian Walford Davies, Provost and Deputy Vice-Chancellor of Cardiff University; and, founder of the Muslim Council of Wales, Professor Saleem Kidwai OBE. The event was chaired by Mariyah Zaman, CEO of Now in a Minute Media, who have been key partners in the delivery of the Islam in Wales History Project.  

Cabinet Secretary Jane Hutt commended the project’s importance, and the research of the Islam-UK Centre, saying “we’re so fortunate that you’re here in Cardiff, in our University, and having such an impact.” Deputy Vice-Chancellor Damian Walford Davies welcomed the exhibition, expressing “how deeply proud I am, of what is out there, what we have achieved here, what Cardiff has achieved”, and “thank you to the Jameel Foundation and thank you to the Centre for the Study of Islam in the UK”.  

Yr Athro Davies yn edrych ar Fap Mwslimiaid yng Nghymru
Professor Davies looking at the Muslim Map of Wales

The exhibition is a captivating visual journey into Muslim history in Wales, and includes a newly commissioned map of Muslim and Islamic connections with Wales. As well as the physical exhibition, a digital e-book of project outputs has been produced by Centre Development Officer, Mark Bryant, allowing easy access to the project findings. The e-book features the exhibition posters, links to videos and explanatory lectures, and a book of entries to a photography competition on theme of “Islam in Wales” in 2022 to launch the project. 

Cynulleidfa ar gyfer y digwyddiad
Audience for the event

The project reveals the hidden Welsh history of Muslims, from early Victorian converts, to the establishment of Cardiff as one of the earliest Muslim communities in Britain. This builds on the work of our Director, Professor Sophie Gilliat-Ray. As she remarks in her seminal work on Muslims in Britain, not only is “The influence of Islamic culture and scholarship on medieval English society … often … underestimated and downplayed,” but the “distinctly ‘Islamic character’” of this knowledge is also often contested, creating gaps and silences. The same is true when it comes to Welsh society’s engagement with Islam, and Dr Ahmed’s project provides a powerful remedy. 

The exhibition at the Glamorgan Building will run until the end of January 2025.