{"id":15433,"date":"2023-02-10T09:11:06","date_gmt":"2023-02-10T09:11:06","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/?p=15433"},"modified":"2023-02-10T09:11:06","modified_gmt":"2023-02-10T09:11:06","slug":"blwyddyn-5-or-cwrs-meddygaeth-cynorthwywyr-myfyriwr-iau-junior-student-assistantship","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/cy\/blwyddyn-5-or-cwrs-meddygaeth-cynorthwywyr-myfyriwr-iau-junior-student-assistantship\/","title":{"rendered":"Blwyddyn 5 o\u2019r Cwrs Meddygaeth: Cynorthwywyr Myfyriwr Iau (Junior Student Assistantship)\u00a0"},"content":{"rendered":"<p>Rwyf eisioes wedi ysgrifennu am fy mhrofiadau o <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/astudio-meddygaeth-mewn-cymraeg\/\">astudio rhan o\u2019r cwrs Meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg<\/a> yn y blynyddoedd cynnar o\u2019r cwrs a\u2019r <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/cy\/myfyrio-ar-ol-blwyddyn-ar-y-llwybr-addysg-wledig\/\">profiadau Cymraeg ges i yn ystod blwyddyn 3 ar y Llwybr Addysg Wledig<\/a>. Yn y blog yma byddaf yn trafod bloc lleoliad cyntaf blwyddyn 5: y Cynorthwywyr Myfyriwr Iau (<i>Junior Student Assistantship<\/i>). Mi wnes i gwblhau\u2019r bloc yma yng Nghaerfyrddin, ardal ble mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg ac felly mi ges i brofiad o weithio gyda staff Cymraeg a gofalu am gleifion yn y Gymraeg.<\/p>\n<p>Mae\u2019r bloc CMI yn cael ei gwblhau mewn arbenigedd penodol mewn ysbyty a pwrpas y lleoliad yw i gysgodi meddyg sylfaen blwyddyn 1 (meddyg newydd-gymhwyso) er mwyn dysgu sut i wneud ei swydd nhw gan mai dyma fydden ni\u2019n ei wneud pan rydym yn cychwyn gweithio ym mis Awst.<\/p>\n<p>Cyn cychwyn ar y lleoliad, roedd mis o ddarlithoedd a sesiynau tiwtorial ar gychwyn blwyddyn 5. Pwrpas y cyfres yma o sesiynau oedd o\u2019n paratoi ni ar gyfer practis clinigol ar felly roedd ffocws ymarferol ar y sesiynau yn cynnwys sgiliau cyfathrebu, cwblhau tystysgrif marwolaeth, gofal lliniarol a rhagnodi meddygyniaethau. Roedd yna hefyd sesiwn anatomi yn y ganolfan anatomi yn ystod y bloc yma o ddysgu, y tro olaf i ni fynd yno fel myfyrwyr meddygol.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Yna i ffwrdd i Gaerfyrddin am wyth wythnos i gwblhau lleoliad cyntaf fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol feddygol. Mae ein lleoliadau ni ar y cwrs Meddygaeth yn gallu bod unrhyw le yng Nghymru a dwi wedi cael profiadau o Fangor a Wrecsam yn y gogledd i Ferthyr a Chaerdydd yn y de. Wrth gwrs mae hi\u2019n wych bod yn y ddinas fawr brysur gyda\u2019n ffrindiau pan rydyn ni ar leoliad yng Nghaerdydd a\u2019r cyffiniau ond mae yna hefyd rhywbeth braf am fynd i ffwrdd ar leoliad a dod i nabod pobl newydd ar ardal newydd o\u2019r wlad. Doedd Caerfyrddin ddim gwahanol, roedd gr\u0175p o ddeg ohonom ni yn cwblhau\u2019r un lleoliad mewn adrannau gwahanol yn yr ysbyty ac i gyd yn byw mewn un fflat gyda\u2019n gilydd. Isod mae lluniau yn dangos rhai o&#8217;n anturiaethau yn yr ardal yn ystod y bloc.<\/p>\n<figure id=\"post-15434 media-15434\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2023\/02\/IMG_1618-scaled.jpeg\" alt=\"\" width=\"330\" height=\"247\" \/><\/p>\n<figure id=\"post-15435 media-15435\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2023\/02\/IMG_9661-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"326\" height=\"245\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n<p>Roeddwn i yn yr adran Cardioleg gydag un myfyriwr arall ac mi ges i brofiad gwych mewn arbenigedd mae gen i ddiddordeb penodol ynddo. Roedd y rhan fwyaf o\u2019n amser yn cael ei dreulio ar y wardiau, roedd taith ward yn y bore ac yna roedden ni\u2019n gwblhau\u2019r tasgau yn y prynhawn megis newid meddygyniaethau, trefnu archwiliadau a cysylltu ag arbenigeddau eraill am gyngor. Roedd dwy ward yn cael ei wasanaethu gan y t\u00eem Cardioleg, y prif Uned Gofal Coronari, ble roedd cleifion newydd a mwy s\u00e2l yn tueddu i fynd, ac yna hanner y ward drws nesaf ble roedd cleifion mwy sefydlog oedd yn disgwyl pecyn gofal yn mynd.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Mi wnes i ddatblygu nifer o sgiliau sy\u2019n bwysig ar gyfer gwaith fel meddyg sylfaen blwyddyn 1 yn ystod y lleoliad yn cynnwys tynnu gwaed, rhoi caniwla i mewn, ysgrifennu yn y nodiadau meddygol yn ystod teithiau ward a dadansoddi canlyniadau profion gwaed, sganiau ac ECGs.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Mae&#8217;n debyg mai dyma&#8217;r profiad Cymraeg mwyaf rwyf wedi ei gael ers cwblhau&#8217;r Llwybr Addysg Wledig ym Mangor ym mlwyddyn 3. Roedd nifer o&#8217;r cleifion yn siarad Cymraeg ac yn amlwg yn falch o glywed llais Cymraeg. Roedd sawl aelod o staff ar y ward hefyd yn siarad Cymraeg, yn cynnwys y meddyg sylfaen blwyddyn 1 ac un o&#8217;r ymgynghorwyr yn ogystal ag y rhan fwyaf o&#8217;r nyrsus a&#8217;r clerc ward. Roedd yn braf gweld faint o wahaniaeth mae&#8217;r iaith yn gallu ei wneud wrth weld cleifion yn gallu egluro eu hunain yn well yn y Gymraeg a gweld t\u00eem o weithwyr gofal iechyd yn gweithio trwy gyfrwng dwyieithog.<\/p>\n<p>Roedd nifer o\u2019r cleifion ar yr Uned Gofal Coronari unai wedi dod yn \u00f4l i\u2019r ardal ar \u00f4l bod yn Ysbyty Treforys am weithdrefn (e.e stent yn dilyn trawiad ar y galon) neu yn disgwyl i fynd yno am lawdriniaeth (e.e amnewid falf). Roedd yna lawer o gyfathrebu felly rhwng y t\u00eem yng Nglangwili a\u2019r t\u00eem yn Nhreforys.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><b>Pwynt Addysgiadol: <\/b>Os yw claf yn cael trawiad mawr ar y galon (ac mae arwydd o hyn ar brawf o\u2019r enw ECG sef olrhain o actifedd trydanol y galon) bydd ambiwlans yn mynd \u00e2 nhw i ysbyty penodol sydd a\u2019r offer ac arbenigedd i gynnal gweithdrefn. Yng Ngorllewin Cymru, y ganolfan agosaf yw Ysbyty Treforys. Ond, os bydd claf yn mynd i\u2019r ysbyty lleol ar eu pen eu hunain yn hytrach na ffonio 999 bydd rhaid eu trosglwyddo i un o\u2019r ysbytai arbenigol hyn. Roedden ni\u2019n gweld nifer o gleifion yng Nghaerfyrddin oedd unai wedi eu gyrru eu hunain neu wedi cael lifft gan ffrind\/teulu i\u2019r ysbyty lleol yn hytrach na ffonio 999.<\/p>\n<p>I ffwrdd o\u2019r wardiau roedd nifer o gyfleoedd eraill yn yr uned Cardioleg. Roedd y wardiau drws nesaf i\u2019r uned cleifion allanol ac felly roedd yn hawdd iawn mynd yno i weld os oedd unrhyw glinigau ar gael i fyfyrwyr eistedd i mewn ac roedd ein goruchwyliwr addysgiadoll yn groesawgar iawn ac yn athro gwych. Yn ystod y clinigau roedd cyfle i glywed am straeon y cleifion, i wrando ar grwgnachod (<i>murmurs<\/i>) ac i glywed proses meddwl yr ymgynghorydd wrth benderfynu sut i drin y claf. Roedd ein goruchwyliwr addysgiadol hefyd yn gyfrifol am glinig ff\u00f4n poen ar y frest oedd yn cael ei redeg gan un o\u2019r nyrsus clinigol arbenigol. Mi wnes i dreulio diwrnod gyda\u2019r nyrs yma yn ffonio cleifion, cymryd hanes dros y ff\u00f4n ac yna penderfynu pa archwiliadau a thriniaethau pellach oedd angen. Mi wnes i hefyd dreulio bore yn Ysbyty Llanelli yn arsylwi gweithdrefnau o\u2019r enw angiogram ble mae meddyg yn pasio gwifren o\u2019r arddwrn trwy\u2019r pibellau gwaed i\u2019r galon i weld os oes rhwystr ym mhibellau gwaed y galon.<\/p>\n<figure id=\"post-15436 media-15436\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2023\/02\/IMG_9280-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"676\" height=\"196\" \/><\/figure>\n<p>Yn ogystal a\u2019u swydd arferol ar ward penodol, mae meddygon sylfaen blwyddyn 1 hefyd yn mynd ar-alwad yn yr ysbyty. Treuliais i un diwrnod gyda\u2019r meddyg sylfaen blwyddyn 1 o\u2019r adran Cardioleg tra roedd o ar-alwad gyda\u2019r t\u00eem meddygol. Y t\u00eem meddygol ar-alwad sydd yn gyfrifol am gleifion \u2018meddygol\u2019 (hynny yw, nid llawfeddygol, obstetreg a gynaecoleg na phaediatrig) sydd yn cael eu derbyn i\u2019r ysbyty trwy\u2019r uned achosion brys neu gan eu meddyg teulu.<\/p>\n<p>Ar gychwyn pob sifft ar-alwad mae\u2019r t\u00eem yn cael cyfarfod er mwyn clywed gan y t\u00eem oedd ar-alwad cynt am y cleifion sydd dan ofal y t\u00eem. Roedden ni ar-alwad yn ystod y dydd felly roedden ni\u2019n clywed gan y t\u00eem nos ac yna\u2019n trosglwyddo yn \u00f4l iddyn nhw ar ddiwedd y dydd. Cychwynodd y dydd gydag \u2018argyfwng meddygol\u2019, dyma pan mae claf rhywle yn yr ysbyty yn ddifrifol s\u00e2l ac mae staff yn yr ardal ble mae\u2019r claf yn rhoi galwad allan am y t\u00eem meddygol ar-alwad i fynd i helpu i ofalu am y claf. Maent yn cael eu galw trwy focs bach maent i gyd yn gario sydd yn aml yn cael ei alw yn \u2018y bleep\u2019. Yna roedd rhaid mynd lawr i\u2019r uned achosion brys er mwyn i\u2019r ymgynghorydd ar-alwad weld yr holl gleifion newydd oedd wedi dod i mewn yn ystod y nos. Yn dilyn y daith ward yma, tan 5 o\u2019r gloch, roedden ni\u2019n gyfrifol am weld y cleifion newydd oedd wedi cael eu cyfeirio i\u2019r t\u00eem meddygol felly mi ges i gyfle i ymarfer fy sgiliau cymryd hanes a chynnal archwiliad corfforol yn ogystal \u00e2 cheisio dod i fyny \u00e2 chynllun triniaeth ar gyfer y cleifion. O 5 o\u2019r gloch tan ddiwedd y sifft sef 8 o\u2019r gloch roedden ni\u2019n gyfrifol am y wardiau (gan fod y meddygon sydd fel arfer yn gweithio ar y wardiau yn gorffen am 8 o\u2019r gloch). Yn ystod y nos, os yw claf angen meddyg unai oherwydd eu bod nhw\u2019n s\u00e2l neu oherwydd eu bod nhw angen rhywbeth fel caniwla, meddygyniaeth wedi ei ragnodi neu bod angen edrych ar ganlyniadau sgan, mae\u2019r staff ar y ward yn ffonio\u2019r meddyg ar-alwad neu bydd y meddygon sydd fel arfer yn gweithio ar y ward yn ffonio\u2019r meddyg ar-alwad i adael iddynt wybod cyn gorffen eu sifft. Yna am 8 o\u2019r gloch aethon ni yn \u00f4l i\u2019r ystafell gyfarfod i drosglwyddo yn \u00f4l i\u2019r t\u00eem nos.<\/p>\n<p>Ar y cyfan, mi ges i brofiad gwych ar y lleoliad. Mi wnes i ei orffen yn teimlo yn fwy parod o gychwyn gweithio fel meddyg sylfaen blwyddyn 1 ac wedi dysgu llawer am Gardioleg. Os ydych chi wedi mwynhau darllen y blog yma, gallwch glicio <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/cy\/author\/shon\/\">yma<\/a> i ddarllen rhai o fy mlogiau blaenorol. Yn yr wythnosau a misoedd nesaf byddaf yn ysgrifennu\u2019r blog olaf yn y gyfres am flwyddyn 4 o\u2019r cwrs yn ogystal \u00e2 blociau eraill blwyddyn 5 yn cynnwys y bloc meddygaeth teulu a\u2019r lleoliad dewisol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Rwyf eisioes wedi ysgrifennu am fy mhrofiadau o astudio rhan o\u2019r cwrs Meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar o\u2019r cwrs a\u2019r profiadau Cymraeg ges i yn ystod [&hellip;]","protected":false},"author":6799,"featured_media":15435,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[242],"tags":[1301,1147,517],"class_list":["post-15433","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-studying-cy","tag-meddygaeth-2","tag-medicine-cy","tag-placement-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15433","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6799"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15433"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15433\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15491,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15433\/revisions\/15491"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15435"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15433"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15433"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15433"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}