{"id":15379,"date":"2023-02-01T13:00:54","date_gmt":"2023-02-01T13:00:54","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/?p=15379"},"modified":"2023-01-31T13:06:05","modified_gmt":"2023-01-31T13:06:05","slug":"myfyrio-ar-flwyddyn-4-or-cwrs-meddygaeth-rhan-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/cy\/myfyrio-ar-flwyddyn-4-or-cwrs-meddygaeth-rhan-2\/","title":{"rendered":"Myfyrio ar Flwyddyn 4 o\u2019r Cwrs Meddygaeth: Rhan 2"},"content":{"rendered":"<p>Croeso i\u2019r ail ran o\u2019r blog hwn am flwyddyn 4 o\u2019r cwrs Meddygaeth. Bydd y rhan yma\u2019n canolbwyntio ar yr ail floc wnes i ei gwblhau yn ystod blwyddyn 4, y bloc merched, teulu a phlentyn, lleoliad wnes i gwblhau y rhan fwyaf ohono yn ysbyty Merthyr. Cliciwch <b>yma <\/b>er mwyn darllen rhan cyntaf y blog sy\u2019n trafod y bloc meddygaeth seicolegol, niwrowyddoniaeth ac offthalmoleg. Os ydych chi wedi darllen fy mlogiau blaenorol, byddwch yn gwybod bod gen i ddiddordeb mawr mewn gyrfa mewn paediatreg a iechyd plant ac felly roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr iawn ar gyfer y lleoliad yma.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><b>Gair am derminoleg a chyfathrebu: <\/b>Yn draddodiadol, mae adrannau mamolaeth wedi cyfeirio at \u2018ferched\u2019 yn hytrach na \u2018chleifion\u2019 er mwyn pwysleisio bod beichiogrwydd a genedigaeth yn brosesau normal a ddim yn salwch. Wrth gwrs, gall beichiogrwydd effeithio ar afiechydon eraill ac achosi rhai afiechydon unigryw. Wrth i gymdeithas ddod yn le mwy goddefgarol, rydym yn sylweddoli bod pob person beichiog ddim yn cysidro eu hunain yn ferched. Yn y blog yma, felly, byddaf yn cyfeirio at \u2018bobl beichiog\u2019. Pan fo beichiogrwydd neu enedigaeth wedi arwain at salwch, byddaf yn cyfeirio at \u2018gleifion\u2019.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Roedd y lleoliad 8 wythnos yma yn cael ei rannu\u2019n ddau, gyda\u2019r gwyliau nadolig yn y canol. Cychwynais i\u2019r bloc, felly, yn cwblhau 4 wythnos yn yr adran obstetreg a gynaecoleg. Roedd yn cynnwys cysgodi bydwragedd a meddygon yn yr adrannau cyn-geni, ward esgor ac ward \u00f4l-geni yn ogystal \u00e2 chyfleoedd i ymuno a\u2019r t\u00eem ar-alwad ar gyfer gynaecoleg, clinigau cleifion allanol a llawfeddygaeth. Treuliais i\u2019r wythnos cyntaf yn cysgodi\u2019r bydwragedd ac mi ges i gyfle i sgwrsio gyda phobl beichiog am eu beichiogrwydd ac eu hanes obstetrig yn ogystal \u00e2 dysgu sut i archwilio abdomen beichiog a darllen olrhain o guriad calon ffetws. Fel pob lleoliad arall, mae rhestr ganddon ni o dasgau i\u2019w cwblhau sy\u2019n cynnwys trafodaethau achos, archwiliadau corfforol a sgiliau gweithdrefnol. Mi gymrais i gyfleoedd, felly, i ymweld \u00e2\u2019r ward \u00f4l-geni er mwyn sgwrsio \u00e2 chleifion oedd unai yn s\u00e2l yn ystod beichiogrwydd neu\u2019n aros y ar y ward oherwydd rhyw broblem. Roedd hefyd cyfleoedd y dynnu gwaed a rhoi pigiadau gwrthgeulydd.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Roedd fy ail wythnos yn bennaf ar y ward esgor. Roedd y t\u00eem meddygol, oedd yn newid pob dydd, yn cynnwys ymgynghorydd obstetreg y gynaecoleg, cofrestrydd oedd yn gyfrifol am y ward esgor a meddyg ifanc oedd yn gyfrifol am y ward \u00f4l-geni. Roeddwn i\u2019n tueddu i dreulio un diwrnod ar y ward esgor a\u2019r nesaf ar y ward \u00f4l-geni felly roedd cyfle i gysgodi\u2019r cofrestrydd yn asesu pobl oedd yn esgor, yn cynnwys mynd i\u2019r theatr llawfeddygol os oedd angen cynnal toriad Cesaraidd, yn ogystal \u00e2 chysgodi\u2019r meddyg ifanc yn asesu a gofalu am bobl ar \u00f4l-geni oedd yn aros ar y ward oherwydd rhyw broblem neu oherwydd bod y t\u00eem paediatreg yn trin y baban newydd-anedig.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<figure id=\"post-15381 media-15381\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2023\/01\/pexels-photo-7089629.png\" alt=\"\" width=\"476\" height=\"317\" \/><\/figure>\n<p>Yn ystod y trydydd wythnos, roeddwn i\u2019n ymuno a\u2019r t\u00eem ar-alwad gynaecoleg. Roedd y t\u00eem hwn yn bennaf yn asesu cleifion yn yr adran argyfwng ac adran asesu cyn-geni ond roedd ganddyn nhw hefyd rai cleifion ar ward llawfeddygol oedd yn cael eu gweld ar daith ward pob bore. Roedd cyfle, felly, i gymryd hannes a chynnal archwiliad corfforol yn yr adran brys cyn cynnig beth oedd y diagnosis a dylunio cynllun triniaeth. Roedd hyn yn rhywbeth roeddwn i wedi arfer hefo yn ystod blwyddyn 3 ar y llwybr addysg wledig ac roedd yn braf gallu ymarfer y sgiliau yma mewn cyd-destyn arbenigol. Mi ges i hefyd gyfle i fynd i ysbyty Llantrisant yn ystod yr wythnos yma er mwyn ymuno \u00e2 chlinig gynaecoleg ac ymuno \u00e2 thaith ward yn gweld cleifion oedd wedi derbyn llawdriniaeth gynaecolegol yno.<\/p>\n<p>Yn anffodus, doedd hi ddim yn bosib i mi fynychu\u2019r wythnos olaf o\u2019r lleoliad obstetreg a gynaecoleg, sef yr wythnos llawfeddygaeth, gan fod fy ffrind rydw i\u2019n byw gyda hi wedi profi\u2019n bositif am COVID-19. Treuliais i\u2019r wythnos adref yn cwblhau adnoddau ar-lein am obstetreg a gynaecoleg, yn cynnwys cwestiynau ymarfer ac adnoddau cymryd hanes ar-lein. Er mwyn dal i fyny gyda\u2019r elfennau llawfeddygol, mi es i yn \u00f4l i ysbyty Llantrisant yn ystod yr \u2018wythnos dal y fyny\u2019, sef y drydydd wythnos o\u2019r gwyliau nadolig, er mwyn ymuno \u00e2 rhestr llawfeddygol a gwylio llawdriniaeth.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Paediatreg a iechyd plant oedd ail hanner y bloc, felly yn \u00f4l i Ferthyr i ymuno \u00e2 th\u00eem arall ar gyfer lleoliad roeddwn i wedi bod yn edrych ymlaen ar ei gyfer ers blynyddoedd (er roedd y llwybr addysg wledig yn ffordd gwych o gael profiad yn asesu plant mewn cyd-destun meddygfa!). Unwaith eto, roedd y lleoliad wedi ei rannu\u2019n 4 wythnos, y cyntaf ar yr uned newydd-anedig, yr ail ar y ward plant, y trydydd ar yr uned asesu plant a\u2019r olaf mewn clinigau yn ysbyty Llantrisant.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<figure id=\"post-15380 media-15380\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2023\/01\/pexels-photo-13071794.jpeg\" alt=\"\" width=\"471\" height=\"314\" \/><\/figure>\n<p>Roedd y t\u00eem yn hyfryd ac roedd cyfle i weld plant yn yr uned asesu a chymryd hanes, cynal archwiliad corfforol a meddwl am pa brofion a thriniaethau i\u2019w trefnu cyn trafod yr achos gyda meddyg. Roedd yna hefyd gyfle i ddewis clinigau i fynd iddyn nhw ac felly mi ges i ddatblygu fy niddordeb mewn cardioleg paediatrig trwy fynd i\u2019r clinigau calon ac arswylwi\u2019r ymgynghorwyr a sganiau o\u2019r galon yn osygtal \u00e2 thrafod them\u00e2u cardioleg paediatrig gyda\u2019r ymgynghorwyr. Roedd yn braf bod yr ymgynghorydd ar-alwad ar gyfer yr uned newydd anedig yn ein wythnos cyntaf ar-alwad ar gyfer y ward ar yr ail wythnos ac yn cynnal clinigau ar yr wythnos olaf felly mi wnes i ddod i\u2019w nhabod hi\u2019n dda. Mae yna fudd mawr mewn treulio amser gyda\u2019r un meddyg: mae nhw\u2019n dod i wybod ar ba lefel ydyn ni, beth rydyn ni\u2019n wybod yn barod, maent yn gallu gosod gwaith darllen i ni a gofyn beth wnaethon ni ddysgu. Wrth gwrs nid yw hyn yn bosib os yw\u2019r meddygon yn newid pob dydd.<\/p>\n<p>Yn ystod y lleoliadau obstetreg a gynaecoleg a phaediatreg, roedd yna gwrs o sesiynau tiwtorial defnyddiol oedd yn cael eu dosbarthu ar-lein gan ein goruchwylwyr clinigol. Roedd rhain yn debyg i\u2019r sesiynau dysgu trwy achosion ym mlynyddoedd 1 a 2 gydag achosion clinigol i\u2019w trafod a ffocws ar ddiagnosis, profion a thriniaeth.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Yn aml mae myfyrwyr meddygaeth yn edrych ymlaen at leoliad yn y maes maent yn meddwl mae nhw eisiau gweithio yno yn y dyfodol ac mae yna gwestiwn pwysig yngl\u0177n ag os ydyn nhw\u2019n gweld eu hunain yn gwneud y swydd yna yn y dyfofol. Mi ges i amser gwych ar y lleoliad paediatreg ac yn bendant mi wnaeth o wneud i mi hoffi\u2019r arbenigedd hyd yn oed mwy. Mi ges i hefyd amser yn ystod blwyddyn 4 i dreulio amser yn fy arbenigedd penodol o ddiddordeb, cardioleg paediatrig, yn ystod cydran \u00e2 ddewisir gan y myfyriwr: mwy am hynny mewn blog sydd i ddod!<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Diolch am ddarllen rhan 2 o\u2019r gyfres yma o flogiau\u2019n myfyrio ar flwyddyn 4 o\u2019r cwrs meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Cysylltwch os oes ganddoch chi unrhyw gwestiynau a cadwch olwg ar y dudalen yma am ran 3 a blogiau am flwyddyn 5 a bod ar bwyllgor MedSoc.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Croeso i\u2019r ail ran o\u2019r blog hwn am flwyddyn 4 o\u2019r cwrs Meddygaeth. Bydd y rhan yma\u2019n canolbwyntio ar yr ail floc wnes i ei gwblhau yn ystod blwyddyn 4, [&hellip;]","protected":false},"author":6799,"featured_media":15380,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[242,842],"tags":[1301],"class_list":["post-15379","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-studying-cy","category-cymraeg-cy","tag-meddygaeth-2"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15379","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6799"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15379"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15379\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15382,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15379\/revisions\/15382"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15380"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15379"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15379"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15379"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}