{"id":15372,"date":"2023-02-01T12:41:56","date_gmt":"2023-02-01T12:41:56","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/?p=15372"},"modified":"2023-01-31T12:42:16","modified_gmt":"2023-01-31T12:42:16","slug":"myfyrio-ar-flwyddyn-4-or-cwrs-meddygaeth-rhan-1","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/cy\/myfyrio-ar-flwyddyn-4-or-cwrs-meddygaeth-rhan-1\/","title":{"rendered":"Myfyrio ar Flwyddyn 4 o\u2019r Cwrs Meddygaeth: Rhan 1"},"content":{"rendered":"<p>Helo! Croeso i flog cyntaf y flwyddyn academaidd hon (22\/23)! Os ydych chi\u2019n newydd i\u2019r blog, Sh\u00f4n ydw i, myfyriwr meddygol yn wreiddiol o Lanfairpwll, Ynys M\u00f4n. Byddaf ym mlwyddyn 5 o\u2019r cwrs Meddygaeth yng Nghaerdydd y flwyddyn hon ar \u00f4l i mi gwblhau\u2019r Llwybr Addysg Wledig ym Mangor ym mlwyddyn 3 a chwblhau gradd ymsang mewn Ffarmacoleg rhwng blynyddoedd 3 a 4 o\u2019r cwrs. Mae blwyddyn 4 o\u2019r cwrs Meddygaeth yn flwyddyn prysur felly wnes i ddim blogio flwyddyn diwethaf. Mae gen i lwyth i s\u00f4n amdano wrtho chi felly a bydd y blog cyntaf yma yn cael ei rannu\u2019r sawl rhan wrth i mi fyfyrio ar y flwyddyn academaidd diwethaf. Mae blwyddyn 4 o\u2019r cwrs wedi ei rannu\u2019n dri bloc: meddygaeth seicolegol, niwrowyddoniaeth ac offthalmoleg, merched, teulu a\u2019r plentyn a clefyd cronig 2. Bydd y blogiau cyntaf yma, felly, wedi eu rhannu\u2019n un ar gyfer pob bloc. Yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn, mi wnai s\u00f4n am y profiadau rydw i\u2019n eu cael ym mlwyddyn 5. Rydw i hefyd wedi bod yn rhan o bwyllgor Cymdeithas Feddygol y brifysgol (MedSoc Caerdydd) yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, fel ysgrifennydd y flwyddyn diwethaf a llywydd y flwyddyn hon, byddai\u2019n siwr o rannu gyda chi sut brofiad yw hyn ac beth rydyn ni wedi ei gyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mi fyddai hefyd yn ymgeisio am fy swyddi cyntaf fel meddyg y flwyddyn hon ac mae hynny\u2019n siwr o ddod i fyny yn y blogiau hefyd. Felly, i ffwrdd \u00e2 ni ar daith o flwyddyn 4 o\u2019r cwrs Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd\u2026<\/p>\n<p>Dechreuodd y flwyddyn gydag wythnos o ddarlithoedd a sesiynau dysgu yng Nghaerdydd. Oherwydd bod effeithiau COVID-19 ar gymdeithas yn dal i\u2019w gweld ym mis Medi 2022, roedd nifer o\u2019r sesiynau hyn ar-lein ac felly roedd posib gwylio rhai o\u2019r sesiynau gyda fy ffrindiau rydw i\u2019n byw gyda nhw yn ein t\u0177 newydd. Roedd ambell sesiwn wyneb-yn-wyneb yn yr Adeilad Cochrane, yn cynnwys sesiwn sgiliau cyfathrebu, sgiliau pwysig iawn mewn Meddygaeth sy\u2019n gallu cael effaith enfawr ar driniaeth claf. Mae yna sesiynau sgiliau cyfathrebu ym mhob blwyddyn o\u2019r cwrs Meddygaeth, yn cychwyn gyda sgiliau sylfaenol fel cymryd hanes feddygol a rhoi gwybodaeth i gleifion yn y blynyddoedd cynnar a\u2019n adeiladu at drafodaethau mwy cymleth a sefyllfaoedd penodol yn y blynyddoedd hwyrach. Mae\u2019r tiwtor yn egluro\u2019r sgiliau pwysig a sefyllfaoedd ar gychwyn y sesiwn ac yna rydyn ni\u2019n ymarfer y sgiliau gydag actorion sy\u2019n chwarae r\u00f4l claf, perthynas neu weithiwr gofal iechyd arall. Mae\u2019r sgiliau rhain yn arbennig o bwysig ar gyfer y lleoliad cyntaf roeddwn i\u2019n ei wneud, Seiciatreg.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l wythnos yng Nghaerdydd, felly, es i i fyny i Wrecsam ar y tr\u00ean cyn cychwyn lleoliad 4 wythnos yn yr uned Seiciatreg yno. Dyma\u2019r tro cyntaf i mi fyw mewn llety ysbyty gan fy mod i\u2019n byw mewn t\u0177 ar rent pan ym Mangor ym mlwyddyn 3. Am y pythefnos cyntaf yn Wrecsam, dim ond dau ohonon ni oedd yn y fflat ond mi ddaethon ni i \u2018nabod y myfyfyrwyr yn y fflatiau eraill yn dda ac roedd y gr\u0175p o fyfyrwyr yn un o fy hoff bethau am y lleoliad. Roedden ni\u2019n trefnu i wylio\u2019r \u2018Bake-Off\u2019 yn un o\u2019r fflatiau pob wythnos gyda\u2019r fflat hwnnw yn gyfrifol am y pobi a cafwyd sawl taith i dref Wrecsam i drio\u2019r tafarndai lleol.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Roedd y lleoliad Seiciatreg ei hun wedi ei drefnu yn wych yn Wrecsam. Roedd chwech o fyfyrwyr yn gwneud y lleoliad ar y pryd, bob un ohonom ni \u00e2\u2019n ymgynghorydd seiciatreg ein hunain. Roedd hyn yn ein galluogi ni i fod yn gwneud beth bynnag roedd ein ymgynghorydd yn ei wneud: roedd hyn yn cynnwys clinigau ff\u00f4n, clinigau wyneb-yn-wyneb, teithiau ward ac ymweliadau cartref. Golygai hyn fy mod i wedi cwrdd ag amryw o gleifion gyda gwahanol fathau o broblemau iechyd meddwl yn ystod y lleoliad. Roedd y t\u00eem addysg is-raddedig hefyd wedi trefnu sawl lleoliad arbennigol i ni, yn cynnwys gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl plant a phobl ifanc, seiciatreg cyswllt a seiciatreg yn yr henoed. Yn ogystal, cafwyd profiad hollol unigryw yn ystod y lleoliad hwn: diwrnod ar leoliad mewn carchar. Mae\u2019n amlwg pan rydych chi\u2019n meddwl amdano, mae yna feddygon, yn cynnwys seiciatregydd, ym mhob carchar, ac anghenion a thriniaeth y boblogaeth o garcharorion yn wahanol i cleifion yn y gymuned. Roedd yn agoriad llygad enfawr i gael gweld i tu mewn i garchar, heb s\u00f4n am gael gweld sut mae\u2019r cleifion hyn yn cael eu trin gan y seiciatregydd a gwedill y t\u00eem iechyd meddwl.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Wedi mis yn Wrecsam, yn \u00f4l i Gaerdydd er mwyn cwblhau ail hanner y bloc sef yr elfennau niwrowyddoniaeth ac offthalmoleg. Roedd y lleoliadau hyn yn cael eu harwain gan gymrodorau addysgu clinigol, meddygon ifanc oedd yn cwblhau swydd am flwyddyn yn ein dysgu ni tra hefyd yn parhau gyda gwaith clinigol yn eu maes o ddiddordeb ond y tu allan i\u2019r fframwaith hyfforddi ffurfiol. Yn ogystal ag wythnos o brofiad clinigol yn yr adranau niwroleg a niwrolawfeddygaeth yn y Ysbyty Athrofaol Cymru, cafwyd ein dysgu am ddau wythnos gan y cymrodorau. Roedd yn braf cael ein dysgu gan feddygon ifanc gan eu bod nhw\u2019n cofio bod yn eich sefyllfa ni yn paratoi am yr arholiadau mawr ar ddiwedd yr ysgol feddygol (sy\u2019n cael eu gwneud ym mlwyddyn 4 yng Nghaerdydd a byddai\u2019n s\u00f4n mwy am rhain mewn blog arall yn fuan). Roedden nhw\u2019n canolbwyntio ar gyflyrau pwysig, cyffredin ac yn arbennig ar sut i gynnal archwiliad corfforol da.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<figure id=\"post-15375 media-15375\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2023\/01\/Screenshot-2023-01-29-at-14.17.37.png\" alt=\"\" width=\"490\" height=\"323\" \/><\/figure>\n<p>Yn ystod yr wythnos o leoliad niwrowyddoniaeth clinigol, mi ges i amryw o brofiadau. Ar y Dydd Llun, treuliais i\u2019r dydd ar y ward niwrolawfeddygaeth yn cysgodi\u2019r meddygon ifanc ac ymuno a\u2019r daith ward (ac mi ges i ysgrifennu mewn nodiadau ysbyty cleifion am y tro cyntaf). Yna ar y Dydd Mawrth es i draw i Ysbyty Llandochau i ymweld a\u2019r canolfan niwro-adsefydlu, adran yw hon sy\u2019n canolbwyntio ar roi cymorth i gleifion adennill wedi anaf i\u2019r ymenydd neu madruddyn a cheisio i\u2019w galluogi i wneud gymaint ag oedden nhw\u2019n gallu cyn yr anaf \u00e2 phosib. Roedd tasg wedi ei osod i ni yn ystod ein amser yn yr uned hon i siarad \u00e2 chlaf a chyflwyno\u2019r achos mewn sesiwn tiwtorial yn hwyrach yn yr wythnos. Ar y Dydd Mercher, mi ges i ymuno \u00e2 chlinig niwrolawfeddygaeth gydag un o\u2019r ymgynghorwyr. Dyma\u2019r tro cyntaf i mi gael cynnal fy ymgynghoriadau fy hun mewn clinig arbennigol dan oruchwyliaeth. Roeddwn i\u2019n hyderus yn cynnal yr ymgynghoriad eu hun, rhywbeth roeddwn i wedi arfer ei wneud yn ystod y Llwybr Addysg Wledig ym mlwyddyn 3, ond doeddwn i ddim bob tro yn sicr pa gwestiynau i ofyn, beth oedd y diagnosis ac yn bendant pa driniaeth i\u2019w gynnig (tydw i ddim yn niwrolawfeddyg!!). Treuliais i ddiwedd yr wythnos (yn cynnwys Dydd Sul!) ar y wardiau niwroleg a niwrolawfeddygaeth yn cysgodi meddygon ifanc ac ymarfer i sgiliau sy\u2019n bwysig i feddygon ifanc &#8211; cymryd hanes gan glaf a chynnal archwiliad corfforol, tynnu gwaed a rhoi caniwla i mewn. Mi wnes i gwrdd ag amryw o gleifion gyda straeon hynod ddiddorol ac mi ges i hyd yn oed mynd i\u2019r theatr lawfeddygol i arsylwi ar lawdriniaeth ar yr ymenydd!<\/p>\n<p>Offthalmoleg oedd ffocws wythnos olaf y bloc. Yr arbennigedd sy\u2019n ymwneud \u00e2 chyflyrau\u2019r lygad yw hwn ac felly gan mai\u2019r lygad yw\u2019r bilen mwcaidd mwyaf amsugnol yn y corff (ffaith hwyl!), a COVID-19 yn dal i fod o gwmpas ym mhobman ar y pryd, doedd dim posib cael lleoliad yn yr ysbyty. Felly cafwyd wythnos ar Zoom yn dysgu am y llygaid gan y cymrodor addysgu clinigol offthalmoleg a nifer o\u2019i chyd-weithwyr. Roedd digon o amser i gwblhau dysgu hunan-gyfeiriedig yn defnyddio adnoddau oedd wedi eu rhannu gyda ni ar system gyfrifiadurol y brifysgol ac yna roedd tri sesiwn tiwtorial i drafod ein atebion i achosion oedd wedi eu gosod i ni.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Mae\u2019n bwysig dweud ein bod ni\u2019n cael wythnos o sesiynau dysgu yn y brifysgol cyn ar ar \u00f4l pob bloc sy\u2019n golygu bod pawb yn cychwyn \u00e2\u2019r un sylfaen ble bynnag mae nhw\u2019n mynd i gwblhau eu lleoliad. Ar ddiwedd y bloc hwn cafwyd asesiadau ffurfianol (rhai defnyddiol er mwyn ymarfer ond sydd ddim yn cyfri ar gyfer y radd olaf) er mwyn gwirio faint oedden ni wedi ei ddysgu yn ystod ein lleoliadau. Roedd asesiad clinigol er mwyn ymarfer ar gyfer yr ISCE ar ddiwedd y flwyddyn (mwy am hyn mewn blog i ddod) a chwestiynau aml-ddewis.<\/p>\n<p>Dyna ni felly ar gyfer y bloc cyntaf ym mlwyddyn 4, bloc rydw i eisioes wedi ei gwblhau ers bron i flwyddyn! Bydd rhan 2 o\u2019r gyfres \u2018Myfyrio ar Flwyddyn 4 y Cwrs Meddygaeth\u2019 yn canolbwyntio ar y bloc merched, teulu a phlant. Os oes ganddoch chi unrhyw gwestiynau am y cwrs Meddygaeth yng Nghaerdydd, boed hynny am gynnwys y blog hwn neu unrhyw elfen arall o\u2019r cwrs, mae croeso i chi gysylltu \u00e2 fi trwy Unibuddy. Diolch am ddarllen!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Helo! Croeso i flog cyntaf y flwyddyn academaidd hon (22\/23)! Os ydych chi\u2019n newydd i\u2019r blog, Sh\u00f4n ydw i, myfyriwr meddygol yn wreiddiol o Lanfairpwll, Ynys M\u00f4n. Byddaf ym mlwyddyn [&hellip;]","protected":false},"author":6799,"featured_media":15378,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[242,842],"tags":[1301],"class_list":["post-15372","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-studying-cy","category-cymraeg-cy","tag-meddygaeth-2"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15372","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6799"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15372"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15372\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15396,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15372\/revisions\/15396"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15378"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15372"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15372"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15372"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}