{"id":13744,"date":"2021-07-12T08:06:38","date_gmt":"2021-07-12T08:06:38","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/?p=13744"},"modified":"2021-09-15T15:01:41","modified_gmt":"2021-09-15T15:01:41","slug":"fy-nhaith-ir-ysgol-feddygaeth-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/cy\/fy-nhaith-ir-ysgol-feddygaeth-2\/","title":{"rendered":"Fy Nhaith i&#8217;r Ysgol Feddygaeth"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ddiweddar, mi fues i&#8217;n aelod o banel cwestiwn ac ateb ar gyfer wythnos profiad gwaith rhaglen Gwyddoniaeth mewn Iechyd yr Ysgol Feddygaeth i ddysgwyr ysgol blwyddyn 12 yn ateb cwestiynau am fynediad i Feddygaeth a bywyd fel myfyriwr Meddygaeth. Yn ogystal \u00e2 hyn, rwyf yn fentor ar raglen Doctoriaid Yfory&#8217;r Coleg Cymraeg ac yn ateb cwestiynau darpar fyfyrwyr ar Unibuddy (gallwch ofyn cwestiynau trwy glicio <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/study\/chat-to-our-students\">yma<\/a> a chwilio amdana i gan ddewis &#8216;<em>Medicine<\/em>&#8216; fel &#8216;<em>Area of study<\/em>&#8216;), felly rwyf yn aml mewn cyswllt \u00e2 dysgwyr sy&#8217;n gobeithio astudio Meddygaeth. Rwyf hefyd wedi cyrraedd adref am yr haf i Ynys M\u00f4n yn ddiweddar ac mae hyn i gyd wedi gwneud i mi feddwl am fy nhaith i i&#8217;r Ysgol Feddygaeth. Yn y blog yma, felly, byddaf yn gobeithio rhoi cyngor i unrhyw ddarpar fyfyrwyr sy&#8217;n gobeithio astudio Meddygaeth a disgrifio fy llwybr i i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mi es i i&#8217;r ysgol uwchradd yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, Ynys M\u00f4n. Roedd gen i frith diddordeb mewn Meddygaeth a&#8217;r maes iechyd ers oeddwn yn ifanc ac mae&#8217;n debyg mai rhagleni teledu oedd yr ysbrydoliaeth gwreiddiol (ond nid yw hwn yn ateb delfryfol mewn cyfweliad!). Ym mlwyddyn 10, mi es i ar ddiwrnod agored i&#8217;r ysbyty lleol ble roedd gweithwyr iechyd o sawl maes gwahanol yn rhoi cyflwyniadau. Roedd y meddyg oedd yn gyfrifol am hyrwyddo meddygaeth fel gyrfa yn llawn brwdfrydedd am ei gyrfa a dyma&#8217;r foment wnaeth i mi benderfynu fy mod i am fynd amdani (rwyf wedi cyfarfod y meddyg honno ar leoliad ers hynny ac mae hi yr un mor wych ac ydw i yn ei chofio hi!). <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/Ysgol_David_Hughes-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13767\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/Ysgol_David_Hughes-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/Ysgol_David_Hughes-451x338.jpg 451w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/Ysgol_David_Hughes-300x225.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/Ysgol_David_Hughes-768x576.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/Ysgol_David_Hughes-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/Ysgol_David_Hughes-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Llun o Ysgol David Hughes, Creative Commons<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly pan ddaeth diwrnod canlyniadau TGAU, roeddwn i&#8217;n gwybod bod pwysau ar y canlyniadau yma (gallwch weld y gofynion mynediad ar gyfer Meddygaeth yng Nghaerdydd <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/study\/undergraduate\/courses\/2022\/medicine-mbbch\">yma<\/a>). Mae&#8217;r nifer o bwyntiau TGAU sydd eu hangen er mwyn sicrhau cyfweliad yn newid pob blwyddyn, ond roeddwn i&#8217;n weddol gyfforddus fy mod i wedi gwneud yn ddigon da. Es i ymlaen i astudio Cemeg, Bioleg, Daearyddiaeth, Ffiseg a&#8217;r Fagloriaeth Gymreig Uwch yn y chweched dosbarth. Mae&#8217;n bwysig nodi bod Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd yn derbyn y Fagloriaeth Gymreig Uwch fel cymhwyster cyn bellad \u00e2 bod y pynciau angenrheidiol eraill yn cael eu cwblhau hefyd (Cemeg a Bioleg), felly mae&#8217;n bwysig rhoi ymdrech i mewn i&#8217;r &#8216;<em>BAC<\/em>&#8216; oherwydd gall eich helpu chi i gael eich derbyn! Darn arall o gyngor fyddwn i&#8217;n ei roi yw, er bod rhaid astudio Cemeg a Bioleg, mae rhyddid llwyr yngl\u0177n \u00e2 beth yw eich trydydd (neu bedwerydd!) pwnc. Mae nifer o ddarpar fyfyrwyr Meddygaeth yn pryderu fod rhaid i&#8217;r pynciau ychwanegol fod yn &#8216;wyddonol&#8217;, mathemateg a\/neu ffiseg yw&#8217;r enghreiffitiau clasurol. Sylwch fy mod i wedi astudio lefel A Daearyddiaeth: roeddwn i&#8217;n mwynhau Daearyddiaeth, yn ei weld yn ddiddorol ac roedd gen i athrawon gwych. A dweud y gwir, Daearyddiaeth oedd y pwnc wnaeth fy helpu fwyaf yn ystod fy nghyfweliadau Meddygaeth oherwydd fy mod wedi arfer astudio Daearyddiaeth pobl a&#8217;r ffordd maent yn ymddwyn ac yn byw. Astudiwch bynciau rydych chi&#8217;n eu mwynhau a rydych yn llwyddo ynddynt. Bydd rhan fwyaf o bynciau yn fuddiol mewn rhyw ffordd neu gilydd mewn maes fel Meddygaeth ble rydych yn dod ar draws pobl gwahanol pob dydd.  <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wedi gwneud cais, mi i ges i gyfweliadau ar ffurf cyfres o gyfweliadau byr yng Nghaerdydd, Lerpwl a Hull\/Efrog. Fy newisidau eraill oedd Biowyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor (ble ges i gynnig) a Meddygaeth yn Nottingham (ble ges i ddim cyfweliad). Mi ges i gynnig (AAA) gan y dair prifysgol ble ges i gyfweliad ac mi wnes i ddewis dod i Gaerdydd oherwydd safon uchel y cwricwlwm C21 a dysgu as sail achosion a&#8217;r ffaith bod posib astudio rhan o&#8217;r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pobl hefyd yn aml yn cyfeirio at &#8216;y pobl&#8217; fel rheswm dros ddewis Caerdydd, rhywbeth mae&#8217;r brifysgol, ei staff a&#8217;i fyfyrwyr yn falch iawn ohono. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/IMG_3956-1024x768.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13827\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/IMG_3956-1024x768.jpeg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/IMG_3956-300x225.jpeg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/IMG_3956-768x576.jpeg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/IMG_3956-1536x1152.jpeg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/IMG_3956-2048x1536.jpeg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Enghraifft o Gylchred Cyfres o Gyfweliadau Byr<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roeddwn i&#8217;n ffodus i gael llwyth o gefnogaeth a chyfleodd gan yr ysgol wnaeth fy helpu i sicrhau mai Meddygaeth oedd y dewis cywir i mi a rhoi profiadau i mi oedd yn cefnogi fy nghais. Mae&#8217;r diwrnod agored yna ym mlwyddyn 10 yn enghraifft wych o hyn ac mi ges i fynd i ddwy ffair yrfaoedd gofal iechyd hefyd. Roedd cyfle hefyd i wneud wythnos o brofiad gwaith yn yr ysbyty lleol ym mlwyddyn 12 oedd yn gymorth mawr i mi wrth wneud yn siwr bod y penderfyniad i wneud Meddygaeth yn un cywir. Cefais wario cwpl o oriau mewn sawl adran: yr adran derbyn meddygol, yr uned gofal coronaidd, yr uned therapi amnewid arennol a&#8217;r theatr llawfeddygaeth cyffredinol. Roeddwn i&#8217;n ddigon ffodus i fod yn brif sywddog yn yr ysgol ym mlwyddyn 13 ac yn ystod yr amser yma mi ges i lawer o gyfleoedd i ymarfer siarad cyhoeddus, cyfathrebu gydag aelodau o staff, dysgwyr eraill a llywodraethwyr a threfnu cyfarfodydd a phrosiectau, sgiliau sy&#8217;n siwr o fod wedi fy helpu i fod yn fyfyriwr Meddygaeth. Roedd yr ysgol hefyd yn hysbysebu nifer o gyfleodd gwirfoddol ac mi ges i rolau yn y siop <em>Royal Voluntary Service<\/em> yn yr ysbyty lleol, mewn Clwb Gateaway lleol i bobl ag anableddau dysgu ac mewn clwb ieuenctid. Cefais brofiadau gwahanol yn yr holl leoliadau gwahanol hyn ond maent i gyd wedi fy helpu i fod yn fyfyrwir Meddygaeth. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/news.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-13822\" width=\"595\" height=\"426\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/news.png 359w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/07\/news-300x215.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 595px) 100vw, 595px\" \/><figcaption>Logo y <em>Royal Voluntary Service <\/em>&#8211; Trwydded Creative Commons<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dwi&#8217;n cofio mynd i ddigwyddiadau tra yn y chweched dosbarth yngl\u0177n \u00e2 chael i mewn i&#8217;r Ysgol Feddygaeth a chlywed siaradwyr yn trafod y llwybrau gwahanol sydd ar gael er mwyn cael i mewn i Feddygaeth: yn syth o&#8217;r chweched dosbarth neu ar \u00f4l cymryd blwyddyn gap; gwneud gradd arall yn gyntaf a gwneud cwrs \u00f4l-radd, neu yng Nghaerdydd mae posib gwneud un o bedwar o gyrsiau bwydo (mwy o wybodaeth am y cyrsiau hyn <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/study\/undergraduate\/courses\/2022\/medicine-graduate-entry-mbbch\">yma<\/a>, ymddiheuriadau bod y wefan ddim ond yn Saesneg pan ysgrifennwyd y blog hwn).  Dwi&#8217;n cofio meddwl mai mynediad i astudio Meddygaeth yn syth o&#8217;r ysgol fyddai&#8217;r ffordd orau ac mai dyma fyddai &#8216;llwyddiant&#8217;. Ond wrth fyfyrio, doedd hyn ddim yn wir. Wedi cwblhau gradd ymsang mewn Ffarmacoleg y flwyddyn hon, dwi&#8217;n meddwl fyddwn i wedi eithaf mwynhau cwblhau gradd gwyddoniaeth is-raddedig cyn gwneud y cwrs Meddygaeth, mae&#8217;n ddiddorol ac mae yna sgiliau sy&#8217;n hanfodol i feddygon (megis dadansoddi tystiolaeth a meddwl yn gritigol) yn cael eu haddysgu ar y cyrsiau hyn. Os ydych chi&#8217;n meddwl mai cwrs bwydo a mynediad i raddedigion yw&#8217;r llwybr gorau i chi, ewch amdnai!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gobeithio bod y blog yma wedi rhoi syniad i chi o un llwybr i mewn i Feddygaeth ac wedi rhoi syniadau i chi am weithgareddau allwch chi eu gwneud er mwyn cefnogi cais i astudio Meddygaeth ond cofiwch bod profiad pawb yn wahanol a does dim problem o gwbl hefo hynny. Croeso i chi gysylltu wrth adael sylwad isod neu ar <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/study\/chat-to-our-students\">Unibuddy<\/a> os oes ganddoch unrhyw gwestiynau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ddiweddar, mi fues i'n aelod o banel cwestiwn ac ateb ar gyfer wythnos profiad gwaith rhaglen Gwyddoniaeth mewn Iechyd yr Ysgol Feddygaeth i ddysgwyr ysgol blwyddyn 12 yn ateb [&hellip;]","protected":false},"author":6799,"featured_media":13767,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[217],"tags":[1301,4936,4938],"class_list":["post-13744","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-meddygaeth-2","tag-pammeddygaeth-cy","tag-ymgeisio-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13744","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6799"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13744"}],"version-history":[{"count":61,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13744\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13829,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13744\/revisions\/13829"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13767"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13744"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13744"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13744"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}