{"id":13225,"date":"2021-04-28T15:13:31","date_gmt":"2021-04-28T15:13:31","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/?p=13225"},"modified":"2021-04-28T15:13:32","modified_gmt":"2021-04-28T15:13:32","slug":"prosiectau-ymchwil","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/prosiectau-ymchwil\/","title":{"rendered":"Prosiectau Ymchwil"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel rhan o radd ymsang, mae disgwyl i ni fel myfyrwyr gwblhau prosiect ymchwil ac mae&#8217;r prosiectau hyn yn cyfri am ran mawr o&#8217;r radd. Oherwydd y cyfyngiadau yn gysylltiedig \u00e2 COVID-19 sydd wedi bod yn eu lle yn ystod y flwyddyn yma, mae hi wedi bod yn heriol i gynnal y prosiectau ymchwil hyn ond maent yn ran pwysig o&#8217;r graddau ymsang ac felly maent wedi cael eu haddasu i barhau gyda&#8217;r cyfyngiadau mewn cof er mwyn diogelwch. Yn y blog yma, rwyf yn gobeithio rhoi gwell syniad i chi o beth mae&#8217;r elfen prosiect ymchwil o radd ymchwil yn ei gynnwys a sut maent wedi cael eu haddasu y flwyddyn hon er mwyn sicrhau diogelwch ond wrth barhau i roi profiad addysgiadol effeithiol i ni.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae nifer o opsiynau pan mae&#8217;n dod i brosiect ymchwil gradd ymsang: o brosiect labordy gwlyb i ddadansoddi data i ysgrifennu adolygiad llenyddiaeth. Roedd fy mhrosiect i yn edrych ar gyffur penodol o&#8217;r enw flecainide (gallwch roi enw&#8217;r cyffur i mewn i Google os hoffwch ddysgu mwy amdano). Caiff flecainide ei ddefnyddio mewn cleifion sydd \u00e2 churiad calon afreolaidd cyflym ac roedd fy mhrosiect i yn canolbwyntio ar ei ddefnydd mewn plant. Casglu a dadansoddi data oedd prif waith y prosiect, roeddwn i&#8217;n casglu data oddi ar gronfa ddata cleifion yr ysbyty plant yng Nghaerdydd ac yna&#8217;n ei ddadansoddi adref. Tra roeddwn i yn yr ysbyty, roeddwn i mewn ystafell ar fy mhen fy hun, i ffwrdd oddi wrth ardaloedd clinigol, fel fod y prosiect ddim yn creu risg o ran COVID-19. Oherwydd natur y prosiect, roeddwn i&#8217;n ffodus na chafodd y cyfyngiadau lawer o effeith arno. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"900\" height=\"600\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/04\/photo-1581091014534-898da33e356e.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13230\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/04\/photo-1581091014534-898da33e356e.jpg 900w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/04\/photo-1581091014534-898da33e356e-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/04\/photo-1581091014534-898da33e356e-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/04\/photo-1581091014534-898da33e356e-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption>Llun o unsplash.com<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trefnais i&#8217;r prosiect drwy <a href=\"https:\/\/cavuhb.nhs.wales\/our-services\/chfw-childrens-hospital-for-wales\/children-and-young-adults-research-unit\/\">Adran Ymchwil Plant a Phobl Ifanc Bwrdd Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro<\/a> a rhoddon nhw fi mewn cysylltiad ag un o&#8217;r ymgynghorwyr cardioleg paediatrig yn yr ysbyty plant. Mae hefyd yn bosib cysylltu \u00e2 thiwtor posib o&#8217;r brifysgol yn uniongyrchol neu gofyn i un o&#8217;r darlithwyr os oes ganddyn nhw gysylltiadau mewn maes sydd o ddiddordeb i chi. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn anffodus, oherwydd y cyfyngiadau, doedd dim posib i&#8217;r myfyrwyr oedd wedi trefnu prosiectau ymchwil mewn labordai fynd i&#8217;r labordai i gynnal arbrofion a chasglu eu data eu hunain. Er mwyn goresgyn hyn, mi wnaeth yr Ysgol Feddygaeth ofyn bod goruchwylwyr prosiectau yn rhoi set o ddata i&#8217;r myfyrwyr iddyn nhw ddadansoddi fel fod ganddynt rhywbeth i drafod yn eu adroddiadau. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gofyn i&#8217;r addroddiadau fod oeddeutu wyth mil o eiriau (gyda&#8217;r posibilrwydd iddo fod 10% yn hirach neu&#8217;n fyrach) ac maent yn cynnwys cefndir i&#8217;r pwnc, eglurhad o beth wnaethon ni yn ystod y prosiect, ein canlyniadau ac ein trafodaeth o&#8217;r canlyniadau yn cynnwys unrhyw awgrymiadau ar gyfer newid practis clinigol ac unrhyw waith ymchwil gellir ei wneud yn y dyfodol. Mae&#8217;n braf bod ein ymchwil ni yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiadau mewn meddygaeth ac ar ofal cleifion yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"900\" height=\"600\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/04\/photo-1599658880436-c61792e70672.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13234\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/04\/photo-1599658880436-c61792e70672.jpg 900w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/04\/photo-1599658880436-c61792e70672-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/04\/photo-1599658880436-c61792e70672-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption>Llun o unsplash.com<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal a&#8217;r adroddiad a chwblhau y prosiect ei hun, mae yna hefyd asesiadau eraill sy&#8217;n ymwneud a&#8217;r prosiect. Cyn cychwyn y prosiect, roedd rhaid i ni recordio cyflwyniad deg munud o hyd ble roedden ni&#8217;n cyflwyno&#8217;r cefndir i&#8217;r prosiect a&#8217;i bwrpas yn ogystal a nodau ac amcanion y prosiect. Ar \u00f4l cwblhau&#8217;r gwaith ymarferol a darganfod rhai canlyniadau, roedd gofyn i ni greu poster (fel byddai rhwyun yn ei wneud ar gyfer cynhadledd wyddonol) o rai o&#8217;r prif ganlyniadau ac roedd yna sesiwn cwestiwn ac ateb deg munud o h\u0177d yn seiliedig ar y poster hwn yn cael ei gynnal dros Zoom. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mi wnes i fwynhau&#8217;r prosiect yn fawr gan ei fod yn gyfle i wario cyfnod estynedig yn ymchwilio i waith sy&#8217;n bodoli&#8217;n barod a chynall ymchwil newydd mewn maes oedd o ddiddordeb mawr i mi. Roedd hefyd yn gyfle i ddod i adnabod y pobl sy&#8217;n gweithio yn yr adran yn yr ysbyty yn well sy&#8217;n agor drysau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Mae cwblhau prosiectau ymchwil yn ran pwysig o wneud ceisiadau am swyddi fel meddyg oherwydd mae&#8217;n dangos y gallu i ganfod diffygion o fewn practis mewn adran a chynnal gwella ansawdd. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gobeithio bod y blog yma wedi rhoi gwell syniad i chi o un rhan pwysig o radd ymsang, sef y prosiect ymchwil a sut mae&#8217;r brifysgol wedi gallu addasu rhain y flwyddyn hon. Ychwanegwch sylwad os hoffwch i mi ysgrifennu am unrhyw beth penodol yn y dyfodol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs Meddygaeth yng Nghaerdydd neu&#8217;r radd ymsang ffarmacoleg, gallwch gysylltu \u00e2 fi ar y platfform <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/study\/chat-to-our-students\">Unibuddy<\/a>. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Fel rhan o radd ymsang, mae disgwyl i ni fel myfyrwyr gwblhau prosiect ymchwil ac mae'r prosiectau hyn yn cyfri am ran mawr o'r radd. Oherwydd y cyfyngiadau yn gysylltiedig [&hellip;]","protected":false},"author":6799,"featured_media":13230,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[758,740,19],"tags":[1291,1306,1368],"class_list":["post-13225","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymraeg","category-opportunities","category-third-year","tag-ffarmacoleg","tag-meddygaeth-2-2","tag-ymchwil"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13225","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6799"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13225"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13225\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13239,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13225\/revisions\/13239"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13230"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13225"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13225"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13225"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}