{"id":13041,"date":"2021-04-13T09:59:54","date_gmt":"2021-04-13T09:59:54","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/?p=13041"},"modified":"2021-04-13T10:18:33","modified_gmt":"2021-04-13T10:18:33","slug":"profiad-o-addysg-cymysg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/profiad-o-addysg-cymysg\/","title":{"rendered":"Profiad o Addysg Cymysg"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae COVID-19 wedi gorfodi nifer o newidiadau o fewn cymdeithas a tydi addysg ddim yn eithriad. Rwyf eisioes wedi trafod fy mhrofiadau o addysg wyneb-yn-wyneb yn ystod y tymor cyntaf o&#8217;r flwyddyn hon, ond y tymor yma mae&#8217;r rhan fwyaf o fy narlithoedd i wedi bod ar-lein. Yn y blog yma, rwyf am amlinellu rhai o fanteision dysgu ar-lein ac addysgu cymysg (<em>blended learning<\/em>).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy narlithoedd ar-lein i gyd yn cael eu cynnal ar Zoom, platfform syml iawn sy&#8217;n hawdd i&#8217;w ddefnyddio a sy&#8217;n golygu fod posib canolbwyntio ar y cynnwys yn hytrach an phoeni am y dechnoleg. Mae rhai myfyrwyr yn hoffi&#8217;r ffaith bod ddim rhaid cerdded i ddarlithfa sy&#8217;n golygu fod ddim rhaid deffro mor fuan oherwydd mae mor syml a throi&#8217;r cyfrifiadur ymlaen a clicio ar linc i agor y ddarlith. Yn bersonol, dwi&#8217;n eithaf hoffi&#8217;r am dro y peth cyntaf yn y bore.  <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/chris-montgomery-smgTvepind4-unsplash-1-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13057\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/chris-montgomery-smgTvepind4-unsplash-1-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/chris-montgomery-smgTvepind4-unsplash-1-451x338.jpg 451w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/chris-montgomery-smgTvepind4-unsplash-1-300x225.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/chris-montgomery-smgTvepind4-unsplash-1-768x576.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/chris-montgomery-smgTvepind4-unsplash-1-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/chris-montgomery-smgTvepind4-unsplash-1-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Darlith Zoom. Llun o unsplash.com (Nid Darlith Prifysgol Caerdydd)<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r posibilrwydd i deipio cwestiynau i&#8217;r darlithwyr yn y blwch sgwrs ar Zoom yn golygu eu bod nhw&#8217;n gallu eu darllen unrhyw bryd felly does dim teimlad bod gofyn cwestiwn y tarfu ar y ddarlith sydd fel arfer yn golygu fod y cwestiwn ddim yn cael ei ofyn o gwbl.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r sleidiau ar gyfer fy narlithoedd fel arfer yn cael eu huwchlwytho i borth y Brifysgol (o&#8217;r enw Dysgu Canolog neu <em>Learning Central<\/em>) o flaen llaw. Rydw i&#8217;n tueddu i fynd trwy&#8217;r sleidiau cyn y ddarlith a chreu nodiadau yn seiliedig ar y sleidiau a byddaf yn gadael gofod ar gyfer ychwanegu nodiadau yn ystod y ddarlith. Mae hyn yn haws ar hyn o bryd oherwydd fy mod i wrth fy nesg fy hun yn gwylio darlithoedd yn hytrach nag yn ceisio ffitio popeth ar y desgiau bach yn y darlithfeydd. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/IMG_6294-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13055\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/IMG_6294-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/IMG_6294-300x225.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/IMG_6294-768x576.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/IMG_6294-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/IMG_6294-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Enghreifftiau o Nodiadau o Ddarlithoedd Ffarmacoleg<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth gwrs, wrth fod y mwyafrif o fyfyrwyr a darlithwyr yn gwario y rhan fwyaf o&#8217;u hamser wrth eu desgiau adref y dyddiau yma, a gyda thechnoleg fel Zoom a Microsoft Teams ar gael, mae&#8217;n hawdd iawn i drefnu cyfarfod heb orfod gadael y t\u0177. Rydw i wedi cael cyfarfodydd gyda fy niwtoriaid personol ac fy nhiwtor ar gyfer fy mhrosiect gradd ymsang tra&#8217;n eistedd yn fy ystafell wely. Mae hyn yn golygu fod ddim angen cysidro&#8217;r amser mae&#8217;n gymryd i gerdded i&#8217;w swyddfeydd ac yn y blaen sy&#8217;n golygu fod ganddon ni fwy o amser i weithio. Mae pobl hefyd yn llai tebygol o anghofio am gyfarfod pan mae&#8217;n un rhithiol sydd yn eu calendr digidol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae darlithwyr yn gwerthfawrogi fod y ffaith fod dim gymaint o addysg wyneb-yn-wyneb yn golygu ein bod ni ddim yn cael gymaint o gyfle i ofyn cwestiynau iddyn nhw. Ar y cwrs ffarmacoleg, mi wnaeth y darlithwyr drefnu sesiwn cwestiwn ac ateb i bob blwyddyn er mwyn i ni gael sgwrs am unrhyw elfennau o&#8217;r cwrs oedd yn ein pryderu. Mae sesiynau tebyg wedi bod yn cyffredin ar draws y brifysgol felly mae cymorth ar gael hyd yn oed os nad ydyn yn gweld ein gilydd wyneb-yn-wyneb.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae mynediad i dechnoleg cyfathrebu hefyd wedi newid y ffordd rydyn ni fel myfyrwyr yn cydweithio. Oherwydd fod llawer o ein haddysg ar-lein, tydyn ni ddim yn gallu gweld ein ffrindiau\/cyd-fyfyrwyr mor aml. Er mwyn goresgyn hyn, mae&#8217;n bosib i ni drefnu cyfarfodydd digidol er mwyn ymarfer cyflwyniadau llafar, gwneud gwaith gr\u0175p ac er mwyn trafod gwaith er mwyn gwella dealltwriaeth. Yn ogystal, oherwydd bod myfyrwyr o gyrsiau tebyg yn tueddu i fyw hefo&#8217;i gilydd ac oherwydd bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dysgu ar-lein, rydyn ni o amgylch ein gilydd yn y t\u0177 fwy ac felly mae&#8217;n bosib trafod gwaith wyneb-yn-wyneb gyda&#8217;r cyd-fyfyrwyr rydyn ni&#8217;n byw gyda nhw. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"575\" height=\"383\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/BLS0822.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13061\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/BLS0822.jpg 575w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/BLS0822-300x200.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 575px) 100vw, 575px\" \/><figcaption>Darlithfa 1, Safle Ysbyty Athrofaol Cymru<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n rhaid i mi fod yn onest, mae&#8217;n well gen i ddarlithoedd wyneb-yn-wyneb, ac rydyn ni wedi cael rhai sesiynau o&#8217;r fath y tymor hwn ac mae&#8217;r brifysgol wedi gwerthfawrogi bod hyn yn beth pwysig. Yn ddiweddar, cafwyd sesiwn gweithdy wyneb-yn-wyneb mewn darlithfa. Mae&#8217;r sesiwn yma fel arfer yn cael ei gynnal mewn grwpiau bach ond doedd hyn ddim yn bosib gyda pellhau cymdeithasol. O ganlyniad, roedden ni i gyd yn eistedd mewn darlithfa fawr wedi ein gwasgaru ac yn gwisgo mygydau. Byddai\u2019r darlithydd yn gofyn cwestiynau i&#8217;r gr\u0175p cyfan ac roedd myfyrwyr yn awgrymu atebion cyn i&#8217;r darlithydd egluro&#8217;r ateb cywir. Gyda rhai o&#8217;r cwestiynau mwy heriol, roedden ni&#8217;n cael amser i ymchwilio&#8217;r ateb cyn i&#8217;r darlithydd ofyn ac awgrymiadau. Roedd hwn yn enghraifft dda o sut mae darlithwyr wedi addasu i\u2019r cyfyngiadau er mwyn parhau i gynnig sesiynau wyneb-yn-wyneb effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhaid nodi ei fod yn bwysig iawn i gael allan o&#8217;r t\u0177 ac mae&#8217;n llawer rhy hawdd i anghofio hyn rhai dyddiau. Ar y cyfan, rydw i ac fy ffrindiau rydw i&#8217;n byw gyda nhw yn dda am fynd am dro yn y nosweithiau er mwyn cael dipyn o awyr iach a gorffwys yr ymenydd. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"622\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/pexels-thirdman-5327590-1024x622.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13064\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/pexels-thirdman-5327590-1024x622.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/pexels-thirdman-5327590-300x182.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/pexels-thirdman-5327590-768x467.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/pexels-thirdman-5327590-1536x933.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/pexels-thirdman-5327590-2048x1244.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Dau feddyg mewn mygydau. Llun o pexels.com<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyn cloi, hoffwn nodi bod fy ffrindiau sy&#8217;n astudio Meddygaeth y flwyddyn hon yn parhau i fynd ar leoliadau ac mae ganddynt statws fel gweithwyr allweddol i alluogi hyn. Mae nifer o&#8217;r sesiynau dysgu yn digwydd ar-lein er mwyn diogelwch ond maent yn parhau i gael mynd ar wardiau ac i glinigau ac yn parhau i gael gymaint o brofiad \u00e2 sy&#8217;n bosib wrth gysidro&#8217;r cyfyngiadau sy&#8217;n bodoli ar hyn o bryd ac yr effaith mae COVID-19 yn ei gael ar y system iechyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gobeithio bod y blog yma wedi rhoi gwell syniad i chi o beth mae addysg cymysg yn y Brifysgol fel, rhag ofn fydd rhai agweddau o addysg cymysg yn gorfod parhau ym mis Medi (er nid yw&#8217;n glir os fydd hyn yn digwydd neu beidio eto). Rydw i o hyd yn hapus i ysgrifennu blog am unrhyw bwnc fyddech chi\u2019n hoffi gwybod mwy amdano.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae COVID-19 wedi gorfodi nifer o newidiadau o fewn cymdeithas a tydi addysg ddim yn eithriad. Rwyf eisioes wedi trafod fy mhrofiadau o addysg wyneb-yn-wyneb yn ystod y tymor cyntaf [&hellip;]","protected":false},"author":6799,"featured_media":13057,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[758,9],"tags":[1340,1305,1291,1306],"class_list":["post-13041","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymraeg","category-lectures","tag-addysg-cymysg","tag-cymraeg-2-2","tag-ffarmacoleg","tag-meddygaeth-2-2"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13041","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6799"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13041"}],"version-history":[{"count":16,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13041\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13138,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13041\/revisions\/13138"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13057"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13041"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13041"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13041"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}