{"id":13027,"date":"2021-03-10T21:08:17","date_gmt":"2021-03-10T21:08:17","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/2021\/03\/10\/asesiadau-yn-ystod-covid-19\/"},"modified":"2021-03-11T11:45:57","modified_gmt":"2021-03-11T11:45:57","slug":"asesiadau-yn-ystod-covid-19","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/asesiadau-yn-ystod-covid-19\/","title":{"rendered":"Asesiadau yn Ystod COVID-19"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwyf eisioes wedi trafod fy mhrofiadau o addysg wyneb-yn-wyneb yn ystod fy ngradd ymsang y flwyddyn hon, ond beth am asesiadau ac arholiadau? Yn y blog yma, rwyf yn bwriadu ceisio egluro sut oedd asesiadau yn arfer digwydd a sut mae hyn wedi newid oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Byddaf yn disgrifio fy mhrofiadau i ar y cwrs Ffarmacoleg a phrofiadau rhai o fy ffrindiau sydd yn dal i wneud y cwrs Meddygaeth ar hyn o bryd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Ffarmacoleg<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Ffarmacoleg yn gwrs sydd yn cael ei rannu yn fodiwlau. Yn y tymor cyntaf, mi wnes i astudio modiwlau oedd yn ymdrin \u00e2 sut mae meddygyniaethau newydd yn cael eu treialu, sut mae&#8217;r system imiwnedd yn gweithio a sut mae rhai meddygyniaethau newydd ar gyfer rhai cyflyrau niwrolegol a seiciatrig yn gweithio. Y tymor yma, rwyf yn astudio modiwlau mewn geneteg, meddygaeth cardiofasgwlar ac imiwnotherapi. Mae&#8217;n rhaid hefyd cwblhau prosiect ymchwil fel rhan o&#8217;r radd ymsang. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r modiwlau yma wedi cynnwys sawl math gwahanol o asesiad yn cynnwys traethodau, cyflwyniadau a phosteri. Roedd arfer bod arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd pob modiwl oedd yn cael ei sefyll mewn neuadd arholiad ac yn parau cwpl o oriau. Dyma ble mae&#8217;r prif newid wedi bod oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Mae&#8217;r arholiadau yma nawr yn draethodau sy&#8217;n cael eu hysgrifennu ar ddiwedd y modiwlau a rydyn ni&#8217;n eu hysrifennu nhw adref. Mae&#8217;r cwestiynau yn cael eu rhyddhau ac yna rydyn ni&#8217;n cael nifer o wythnosau i ysgrifennu ein atebion. Mae&#8217;n braf gallu edrych ar nodiadau a gwneud ymchwil ar y we tra&#8217;n ysgrifennu&#8217;r atebion ac mae hyn yn ein galluogi i ddysgu mwy am y pwnc pan yn ysgrifennu&#8217;r traethawd yn hytrach na cheisio cofio popeth ac ysgrifennu gymaint \u00e2 rydyn ni&#8217;n ei gofio, fel mewn arholiad.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"681\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/glenn-carstens-peters-npxXWgQ33ZQ-unsplash-1024x681.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12993\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/glenn-carstens-peters-npxXWgQ33ZQ-unsplash-1024x681.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/glenn-carstens-peters-npxXWgQ33ZQ-unsplash-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/glenn-carstens-peters-npxXWgQ33ZQ-unsplash-768x511.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/glenn-carstens-peters-npxXWgQ33ZQ-unsplash-1536x1022.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/glenn-carstens-peters-npxXWgQ33ZQ-unsplash-2048x1363.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Llun o Unsplash<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r ffordd rydyn ni&#8217;n cwblhau asesiadau ar ffurf cyflwyniad llafar hefyd wedi newid oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Yn draddodiadiol, mi fyddai pob myfyriwr yn mynd i ystafell yn eu tro ac yn cyflwyno i aseswyr. Hyd yn hyn, rydw i wedi cwblhau asesiadau ar ffurf cyflwyniad mewn dau ffordd y flwyddyn hon. Yn gyntaf, recordio&#8217;r cyflwyniad a&#8217;i yrru i gael ei wylio a&#8217;i farcio ac yn ail, cynnal y cyflwyniad ar alwad Zoom. Mae dau brif wahaniaeth rhwng y ddau gyfrwng yma. Pan caiff cyflwyniad ei recordio, mae&#8217;n bosib dileu recordiad a chychwyn eto: Nid yw hyn yn bosib pan mae&#8217;r darlithwyr yn gwylio ar ochr arall i linell Zoom. Hefyd, mewn cyflwyniad Zoom, mae&#8217;n bosib i ddarlithwyr ofyn cwestiynau ar ddiwedd y cyflwyniad sy&#8217;n asesu ein gallu i feddwl y sydyn ac mae&#8217;n golygu fod angen adolygu&#8217;r cynnwys cyn rhoi&#8217;r cyflwyniad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Meddygaeth<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dau brif fath o arholiad ar y cwrs Meddygaeth: arholiad ysgrifenedig ac arholiad clinigol. Mae fy ffrindiau sydd ym mlwyddyn 4 o&#8217;r cwrs Meddygaeth yng Nghaerdydd (y flwyddyn fyddai yn mynd iddi flwyddyn nesaf ar \u00f4l cwblhau fy ngradd ymsang) yn gwneud y ddau fath o arholiad yma y flwyddyn hon.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Caiff yr arholiadau ysgrifenedig maent yn eu cwblhau eu galw yn brofion cynnydd (<em>progress tests<\/em>). Mae 140 o gwestiynau ble mae 5 opsiwn posib ar gyfer pob cwestiwn. Yn wahanol i fy asesiadau i sydd yn cael eu cwblhau adref, mae&#8217;r profion cynnydd yn parhau i ddigwydd mewn neuaddau arholiad. Yn hytrach nag ateb y cwestiynau ar bapur fel oedd yn digwydd yn draddodiadol, mae&#8217;n rhaid iddyn nhw fynd \u00e2 chyfrifiadur hefo nhw ac ateb y cwestiynau ar wefan arholi diogel. Mae&#8217;r myfyrwyr yn cael prawf am COVID-19 trwy wasanaeth sgrinio&#8217;r brifysgol ychydig o ddyddiau cyn yr arholiad ac mae pawb yn gwisgo gorchudd wyneb yn ystod yr arholiad. Mae pellter rhwng myfyrwyr wedi bodoli mewn arholiadau ers amser, wrth gwrs.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/nguyen-dang-hoang-nhu-qDgTQOYk6B8-unsplash-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12991\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/nguyen-dang-hoang-nhu-qDgTQOYk6B8-unsplash-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/nguyen-dang-hoang-nhu-qDgTQOYk6B8-unsplash-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/nguyen-dang-hoang-nhu-qDgTQOYk6B8-unsplash-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/nguyen-dang-hoang-nhu-qDgTQOYk6B8-unsplash-768x512.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/nguyen-dang-hoang-nhu-qDgTQOYk6B8-unsplash-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/03\/nguyen-dang-hoang-nhu-qDgTQOYk6B8-unsplash-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Llun o Unsplash<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r arholiadau clinigol (elwir yn ISCEs, neu mewn rhai ysgolion meddygol eraill, OSCEs) hefyd yn parhau i fod mewn-person yng Nghaerdydd. Dyma&#8217;r arholiad ble mae myfyrwyr yn cael eu hasesu ar eu gallu i cyfathrebu gyda a  cynnal archwiliadau corfforol ar gleifion a dehongli canlyniadau archwiliadau a llunio cynlluniau triniaeth. Er mwyn cynnal iechyd a diogwlech yn ystod COVID-19, mae&#8217;r actorion sy&#8217;n chwarae&#8217;r cleifion, y myfyrwyr a&#8217;r arholwyr yn gwisgo offer amddiffynnol personol yn cynnwys gorchudd wyneb, ffedog a menyg ac mae pellter priodol yn cael eu gynnal ble yn bosib. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gobeithio bod y blog yma wedi rhoi gwell syniad i chi o sut mae asesiadau yn gweithio yn yr ysgol feddygol ac ar y gradd ymsang ffarmacoleg a sut mae pethau wedi newid oherwydd COVID-19. Fel arfer, rwyf yn hapus i ysgrifennu blog am unrhyw bwnc, sy&#8217;n ymwneud \u00e2 Chaerdydd neu&#8217;r ysgol feddygol, mae ganddoch chi ddiddordeb ynddo, felly gadewch i mi wybod yn y sylwadau isod. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Rwyf eisioes wedi trafod fy mhrofiadau o addysg wyneb-yn-wyneb yn ystod fy ngradd ymsang y flwyddyn hon, ond beth am asesiadau ac arholiadau? Yn y blog yma, rwyf yn bwriadu [&hellip;]","protected":false},"author":6799,"featured_media":12992,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[758,745,19],"tags":[1339,1305,1306],"class_list":["post-13027","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymraeg","category-exams","category-third-year","tag-asesiadau-2","tag-cymraeg-2-2","tag-meddygaeth-2-2"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13027","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6799"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13027"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13027\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13028,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13027\/revisions\/13028"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12992"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13027"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13027"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13027"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}