{"id":12885,"date":"2021-02-16T11:17:06","date_gmt":"2021-02-16T11:17:06","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/2021\/02\/16\/gweithgareddau-allgyrsiol-yn-yr-ysgol-feddygol\/"},"modified":"2021-02-16T11:59:29","modified_gmt":"2021-02-16T11:59:29","slug":"gweithgareddau-allgyrsiol-yn-yr-ysgol-feddygol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/gweithgareddau-allgyrsiol-yn-yr-ysgol-feddygol\/","title":{"rendered":"Gweithgareddau Allgyrsiol yn yr Ysgol Feddygol"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r rhan fwyaf o ddysgwyr sy&#8217;n ymgeisio am le yn yr ysgol feddygol yn gwybod am bwysigrwydd gweithgareddau allgyrsiol: o brofiad gwaith i waith gwirfoddol i chwaraeon a&#8217;r celfyddydau. Ond beth am unwaith mae rhywun wedi cael lle? Mae mynd cam ymhellach na&#8217;r cwrs yn parhau i fod yn bwysig er mwyn gwneud unigolion yn fwy cystadleuol pan maent yn ymgeisio am le ar raglen hyfforddi neu am swydd penodol. Mae&#8217;n bwysig hefyd er mwyn cynnal cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, er mwyn hybu lles. Yn y blog yma, rwyf am ddisgrifio rhai o&#8217;r gweithgareddau allgyrsiol rydw i wedi cymryd rhan ynddyn nhw hyd yn hyn yn yr ysgol feddygol a disgrifio rhai o&#8217;r cyfleoedd eraill sydd yna y Mhrifysgol Caerdydd i fyfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cymdeithasau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae yna nifer o gymdeithasau meddygol-benodol ym Mhrifysgol Caerdydd megis Cymdeithas Baediatreg, Clwb y Mynydd Bychan (Cymdeithas meddygol i siaradwyr Cymraeg), Cymdeithas Llawfeddygol a Chymdeithas Adolygu Meddygaeth. Mae&#8217;r holl gymdeithasau hyn yn trefnu sesiynau dysgu ac adolygu gyda myfyrwyr h\u0177n, meddygon neu gweithwyr iechyd ac academyddion eraill yn eu harwain: cyfle perffaith i atgoffa o ffeithiau pwysig cyn arholiad neu i wario amser ychwanegol yn dysgu am bwnc mae ganddoch chi ddiddordeb penodol ynddo. Mae hyn hefyd yn gyfle i fyfyrwyr h\u0177n ymarfer eu sgiliau addysgu, rhywbeth sy&#8217;n rhan bwysig o waith fel meddyg.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhai cymdeithasau hefyd yn cynnal rhaglenni gwirfoddoli. Mae nifer fawr o ymgeiswyr i&#8217;r ysgol feddygol yn trafod eu gwaith gwirfoddol ar \u00f4l ysgol ac mae cyfle i barhau \u00e2&#8217;r gwaith pwysig yma yn y brifysgol. Mae&#8217;r Gymdeithas Baeditreg yn rhedeg sesiynau Achubwyr Asthma (<em>Asthma Aware<\/em>) i blant ysgolion cynradd yn ogystal \u00e2 gwirfoddoli yn yr ystafell aros yn yr Uned Argyfwng Plant yn helpu gyda therapi chwarae. Dim ond un enghraifft yw hwn: mae llwyth o waith wirfoddol yn digwydd yn y brifysgol trwy&#8217;r Undeb Myfyrwyr a&#8217;i gymdeithasau.  <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/02\/71268834_2457460650999522_8063121054593187840_n.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12818\" width=\"418\" height=\"418\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/02\/71268834_2457460650999522_8063121054593187840_n.jpg 936w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/02\/71268834_2457460650999522_8063121054593187840_n-300x300.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/02\/71268834_2457460650999522_8063121054593187840_n-150x150.jpg 150w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/02\/71268834_2457460650999522_8063121054593187840_n-768x768.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/02\/71268834_2457460650999522_8063121054593187840_n-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/02\/71268834_2457460650999522_8063121054593187840_n-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/02\/71268834_2457460650999522_8063121054593187840_n-200x200.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 418px) 100vw, 418px\" \/><figcaption>Logo Cymdeithas Paediatreg Prifysgol Caerdydd<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cynadleddau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae mynychu cynadleddau meddygol yn ffordd wych o ddangos diddordeb mewn maes penodol a datblygu gwybodaeth mwy manwl na beth mae&#8217;r cwrs yn ei gynnig. Mae hefyd yn ffordd effeithiol o rwydweithio a gwneud cysylltiadau \u00e2 thiwtoriaid posib ar gyfer prosiectau ymchwil. Mae&#8217;r Gymdeithas Feddygol yn cynnal cynhadledd blynyddol mewn Cymraeg i feddygon a myfyrwyr ble mae cyflwyniadau hynod o ddiddorol gan arbenigwyr a gan fyfyrwyr yn cyflwyno prosiectau ymchwil. Ond does dim rhaid i gynhadledd fod yn un i feddygon, mae nifer fawr o gynadleddau yn cael eu trefnu gan fyfyrwyr i fyfyrwyr mewn nifer o feysydd ar draws y wlad. Yn ystod fy amser yn yr ysgol feddygol, rydw i wedi mynychu cynadleddau Iechyd Global, Oncoleg a Phaediatreg yng Nghaerdydd. Yn ogystal, rydw i wedi mynychu cynadleddau Paediatreg a Chardioleg ym Mirmingham. Yn aml, mae tystysgrif ar gael am fynychu cynadleddau ac mae&#8217;r rhain yn bwysig er mwyn dangos tystiolaeth o weithgareddau allgyrsiol a diddordeb yn y maes pan yn ceisio am le ar raglen hyfforddiant. Mae yna hefyd gyfle i gyflwyno gwaith yn y cynadleddau hyn, rhywbeth sy&#8217;n edrych yn drawiadol ar gais rhaglen hyfforddiant.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ieithoedd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae nifer o fyfyrwyr wedi dysgu iaith dramor yn y gorffenol ac mae gan rai gymhwyster TGAU neu Lefel A mewn pwnc ieithyddol: roedd gen i gymhwyster TGAU mewn Almaeneg. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig gwersi iaith yn rhad ac am ddim trwy Ieithoedd i Bawb. Mae sawl lefel ar gael felly mae&#8217;n bosib parhau gyda dysgu gorffenol neu dewis iaith hollol newydd. Roeddwn i wedi cael egwyl o ddwy flynedd i ffwrdd o Almaeneg felly dechreuais i gyda lefel A2. Mae&#8217;r gwersi yn para dwy awr ac mae un bob wythnos. Fel arfer mae dewis o amser a diwrnod. Byddech yn cael eich dysgu gan diwtor mewn gr\u0175p bach o fyfyrwyr ac yn ymarfer darllen, ysgrifennu, gwrnando a siarad yr iaith. Mae cyfathrebu yn hynod o bwysig mewn Meddygaeth felly gall y gallu i siarad iaith ychwanegol fod yn fuddiol. <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/02\/LforA-1-300x100-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12878\" width=\"482\" height=\"161\" \/><figcaption>Logo Ieithoedd i Bawb<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Chwaraeon<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae nifer o ymgeiswyr i&#8217;r ysgol feddygol yn gwneud rhyw fath o chwaraeon ac mae rhai yn gapten eu t\u00eem ysgol neu d\u00eem lleol. Gall hyn barhau yn yr ysgol feddygol. Yn ogystal \u00e2 phrif dimau chwaraeon y brifysgol, mae yna nifer o dimau chwaraeon meddygol sy&#8217;n hyfforddi ar amseroedd sy&#8217;n gyfleus ac yn gweithio o amgylch yr amserlen prysur. Mae gan bob t\u00eem bwyllgor yn cynnwys capten a gall y sgiliau feithrinir fel arweinydd yn y maes chwaraeon fod o fudd ar y wardiau: mae&#8217;n bwysig bod meddygon yn gallu bod yn arweinwyr a rheoli sefyllfa straenus. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Casgliad<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gobeithio bod y blog yma wedi dysgu dau beth i chi. Yn gyntaf, ei bod yn bosib parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol pan yn yr ysgol feddygol. Yn ail, ei fod yn bwysig i wneud hynny! Mi fyddwn i&#8217;n hapus i ateb unrhyw gwestiynau am weithgareddau penodol. Os fyddwch chi&#8217;n hoffi darllen mwy am y cwrs meddygaeth ei hun, rwyf eisioes wedi ysgrifennu blogiau am <a href=\"http:\/\/dysgu-ar-sail-achosion-case-based-learning-beth-mae-o-wir-yn-ei-olygu\">ddysgu ar sail achosion<\/a> a&#8217;r <a href=\"http:\/\/myfyrio-ar-ol-blwyddyn-ar-y-llwybr-addysg-wledig\">llwybr addysg wledig<\/a>. Awgrymwch unrhyw bynciau fyddech chi&#8217;n hoffi i mi ysgrifennu amdanynt yn y sylwadau isod.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr sy'n ymgeisio am le yn yr ysgol feddygol yn gwybod am bwysigrwydd gweithgareddau allgyrsiol: o brofiad gwaith i waith gwirfoddol i chwaraeon a'r celfyddydau. Ond [&hellip;]","protected":false},"author":6799,"featured_media":12879,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[693,2,758],"tags":[],"class_list":["post-12885","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cardiff-university-experiences","category-clubs-and-societies","category-cymraeg"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12885","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6799"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12885"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12885\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12886,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12885\/revisions\/12886"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12879"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12885"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12885"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12885"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}