{"id":12744,"date":"2021-01-28T09:56:52","date_gmt":"2021-01-28T09:56:52","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/2021\/01\/28\/dysgu-ar-sail-achosion-case-based-learning-beth-mae-o-wir-yn-ei-olygu\/"},"modified":"2021-01-28T12:21:06","modified_gmt":"2021-01-28T12:21:06","slug":"dysgu-ar-sail-achosion-case-based-learning-beth-mae-o-wir-yn-ei-olygu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/dysgu-ar-sail-achosion-case-based-learning-beth-mae-o-wir-yn-ei-olygu\/","title":{"rendered":"Dysgu ar Sail Achosion (Case-Based Learning): Beth mae o wir yn ei olygu?"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dysgu ar sail achosion (DSA) a dysgu ar sail problemau (yn Saesneg, <em>case-based learning<\/em> a <em>problem-based learning<\/em>) yn dominyddu dulliau dysgu addysg feddygol modern. Erbyn hyn, ychydig o ysgolion meddygol sy&#8217;n parhau i ddysgu mewn modd traddodiadol gyda dwy flynedd cyn-glinigol o wyddoniaeth dwys mewn darlithfeydd cyn cychwyn lleoliadau clinigol ym mlynyddoedd hwyrach y cwrs. Yng Nghaerdydd, rydyn ni&#8217;n defnyddio dull DSA. Ond beth ydi DSA? N\u00f4d y blog yma fydd i ateb y cwestiwn hwn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cychwynir ddysgu ar sail achosion ar \u00f4l y nadolig ym mlwyddyn 1 o&#8217;r cwrs Meddygaeth C21. Mae&#8217;r flwyddyn yn cael ei rhannu i grwpiau DSA gyda tua 10 o fyfyrwyr ym mhob gr\u0175p. Mae yna hefyd hwylusydd yn y gr\u0175p, aelod o staff sydd yno i roi cymorth ond sydd ddim o reidrwydd yn arbenigo ym maes yr achos. Mae&#8217;r grwpiau a&#8217;r hwylusydd yn aros yn gyson am weddill blwyddyn 1. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae DSA yn parhau ym mlwyddyn 2 o&#8217;r cwrs. Mae&#8217;r grwpiau yn newid ar gychwyn blwyddyn 2 ac yn newid eto ar \u00f4l y nadolig ym mlwyddyn 2 felly bydd un unigolyn wedi bod mewn tri gr\u0175p gwahanol erbyn diwedd yr ail flwyddyn gyda thri hwylusydd gwahanol. Mae gan grwpiau a&#8217;u hwylusyddion gwahanol reolau gwahanol yngl\u0177n ag os ydi cyfrifiaduron neu llyfrau yn cael ei defnyddio yn ystod y cyfarfodydd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_6081-1024x768.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12703\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_6081-1024x768.jpeg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_6081-300x225.jpeg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_6081-768x576.jpeg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_6081-1536x1152.jpeg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_6081-2048x1536.jpeg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Rhai o&#8217;r llyfrau wnes i eu gweld yn ddefnyddiol yn ystod DSA<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pob achos yn para am fythefnos. Mae&#8217;r achosion yn ymdrin \u00e2 phynciau megis poen yn y frest, poen yn yr abdomen a byrder gwynt. Mae senario yn cael ei roi i&#8217;r grwpiau ar gychwyn y pythefnos yn cynnwys sefyllfa presenol a rhai o fanylion hanes meddygol y claf. Mae disgwyl i&#8217;r gr\u0175p drafod yr achos a chreu rhestr o amcanion dysgu i&#8217;w cyflawni erbyn y cyfarfod nesaf, sy&#8217;n digwydd ar gychwyn ar ail wythnos. Mae yna drydydd cyfarfod ar ddiwedd y pythefnos cyn sesiwn darlith gyda&#8217;r flwyddyn gyfan i gloi&#8217;r achos. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod y pythefnos, mae nifer o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol, sesiynau tiwtorial a lleoliad clinigol sydd i gyd yn ymwneud a&#8217;r achos. Bwriad DSA yw i adeiladu ar beth sy&#8217;n cael ei ddysgu yn nhymor cyntaf y cwrs yn ystod y &#8216;Platfform ar gyfer Gwyddorau Clinigol&#8217; felly mae yna eithaf llawer o wyddoniaeth yn cael ei ddysgu yn ystod DSA ond mae cysyniadau clinigol yn cael eu cyflwyno hefyd. Rhaid hefyd cofio mai nid &#8216;datrys&#8217; yr achos yw bwriad DSA ond dysgu. Felly, er efallai eich bod chi&#8217;n credu mai trawiad ar y galon (neu &#8216;gnawdnychiad myocardiaidd&#8217;) mae&#8217;r claf \u00e2 phoen yn y frest yn ei brofi, mae&#8217;n bwysig dysgu am yr holl achosion eraill o boen yn y frest hefyd oherwydd bydd eich cleifion yn y dyfodol yn dioddef o boen yn y frest o sawl achos gwahanol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod y lleoliadau clinigol sy&#8217;n digwydd yn ystod DSA, roedden ni fel arfer yn cyfarfod claf oedd yn debyg i&#8217;r un yn yr achos. Roedd cyfle i ni drafod gyda nhw ac ymarfer cymryd hanes feddygol. Yna, roedden ni&#8217;n dysgu sut i archwilio pa bynnag system oedd yr achos yn ei ymdrin \u00e2 fo cyn cael cyfle i ymarfer hyn ar gleifion. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_0912-1024x768.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12701\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_0912-1024x768.jpeg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_0912-451x338.jpeg 451w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_0912-300x225.jpeg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_0912-768x576.jpeg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_0912-1536x1152.jpeg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_0912-2048x1536.jpeg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Bathodyn myfyriwr meddygol, rhaid ei wisgo ar bob lleoliad<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae DSA yn parhau, mewn ffordd, trwy weddill y cwrs, er efallai ddim mor amlwg. Er fod y mwyafrif o&#8217;n hamser yn cael ei dreulio ar leoliadau yn ystod blynyddoedd 3, 4 a 5 o&#8217;r cwrs, mae yna gyfres o achosion efelychol ar gael er mwyn arwain ein dysgu ac er mwyn sicrhau bod pawb yn cyflawni&#8217;r amcanion dysgu hyd yn oed os ydyn ni&#8217;n cael profiadau gwahanol ar y lleoliadau. Rhaid cofio hefyd bod yr achosion rydyn ni&#8217;n weld ar leoliadau yn gallu cael dylanwad arnom ni a gall hyn fod yn sail ar gyfer mwy o ddysgu o lyfrau neu o adnoddau ar y we.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae yna nifer o adnoddau ar gael erbyn hyn sy&#8217;n defnyddio achosion cleifion er mwyn cyfleu gwybodaeth. Mae rhain yn cynnwys adnoddau ar-lein yn ogystal \u00e2 llyfrau megis <em>250 Cases in Clinical Medicine<\/em>. Wrth gwrs, ni ellir ddysgu popeth o gyfres o achosion cyffredin, mae yna glefydau anghyffredin sydd angen i ni wybod amdanyn nhw, ond mae gallu adnabod a thrin clefydau cyffredin yn bwysig ac yn rhywbeth sy&#8217;n cael ei bwysleisio ar y cwrs C21.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydw i&#8217;n mwynhau&#8217;r defnydd o achosion mewn addysg feddygol. Roedd cael canolbwyntio ar un maes am fythefnos ar y tro yn ystod y cyfnod DSA ffurfiol yn effeithiol, yn fy marn i. Yn ogystal, rydw i&#8217;n gweld budd mewn gweld cleifion, trafod gyda nhw a&#8217;u harchwilio, cyn mynd ati i ddarllen rhywbeth diddorol am yr achos a dysgu ymhellach, rhywbeth wnaeth un ymgynghorydd awgrymu i ni ym mlwyddyn 1. Er enghraifft, mae&#8217;n llawer haws cofio sut cafodd claf penodol ei thrin nag edrych mewn llyfr a dysgu sut i drin deg clefyd gwahanol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gobeithio bod hyn wedi rhoi syniad gwell i chi o beth mae dysgu ar sail achosion yn ei olygu ac efallai gall hyn eich helpu i ddewis rhwng math o gwrs integredig neu un traddodiadol. Rwyf yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau am DSA neu i dderbyn unrhyw awgrymiadau ar gyfer blogiau&#8217;r dyfodol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae dysgu ar sail achosion (DSA) a dysgu ar sail problemau (yn Saesneg, case-based learning a problem-based learning) yn dominyddu dulliau dysgu addysg feddygol modern. Erbyn hyn, ychydig o ysgolion [&hellip;]","protected":false},"author":6799,"featured_media":12702,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[758,1016,14],"tags":[1305,1306],"class_list":["post-12744","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymraeg","category-medic-tips","category-second-year","tag-cymraeg-2-2","tag-meddygaeth-2-2"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12744","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6799"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12744"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12744\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12745,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12744\/revisions\/12745"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12702"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12744"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12744"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12744"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}