{"id":12563,"date":"2021-01-13T13:13:29","date_gmt":"2021-01-13T13:13:29","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/?p=12563"},"modified":"2021-09-15T15:02:06","modified_gmt":"2021-09-15T15:02:06","slug":"astudio-meddygaeth-mewn-cymraeg-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/cy\/astudio-meddygaeth-mewn-cymraeg-2\/","title":{"rendered":"Astudio Meddygaeth mewn Cymraeg"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Tra&#8217;n astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd, rydw i&#8217;n derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio rhan o&#8217;r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y blog hwn, rwyf am egluro pa rannau o gwrs Meddygaeth C21 sy&#8217;n bosib eu gwneud yn y Gymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dechreuodd fy mhrofiad o &#8216;Feddygaeth Cymraeg&#8217; yn fy wythnos cyntaf yn y brifysgol. Cafwyd cyfarfod o&#8217;r unarddeg o ysgolorion yn ogystal \u00e2 rhai o&#8217;r tiwtoriaid Cymraeg yn cynnwys ein tiwtor personol. Roedd yn braf cael cyfarfod pawb yn fuan, pobl fydden ni&#8217;n siwr o dreulio amser gyda nhw am weddill y cwrs.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"640\" height=\"421\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2020\/12\/featured-image-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12428\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2020\/12\/featured-image-1.jpg 640w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2020\/12\/featured-image-1-514x338.jpg 514w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2020\/12\/featured-image-1-300x197.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 640px) 100vw, 640px\" \/><figcaption>Ybsyty Athrofaol Cymru, Caerdydd<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r mwyafrif o weddill blwyddyn un a blwyddyn dau yn cael eu dysgu ar sail achosion (DSA) (<em>Case-Based Learning<\/em>). Mae cyfanswm o undegsaith o achosion: chwech ym mlwyddyn un ac unarddeg ym mlwyddyn dau. Roedd posib i mi fod mewn gr\u0175p DSA Cymraeg ym mlwyddyn un: roedd unarddeg ohonom yn y gr\u0175p ac roedd hwylusydd Cymraeg. Roedd yr achosion yn ymdrin \u00e2 phynciau megis anaf i gymal a phoen yn y frest. Ym mlwyddyn dau, roedd pawb mewn grwpiau DSA Saesneg. Erbyn hyn, mae&#8217;n bosib gwneud yr holl achosion ar draws y ddwy flynedd mewn Cymraeg: un enghraifft o sut mae Meddygaeth mewn Cymraeg yn datblygu o hyd. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhywbeth arall sylweddol sy&#8217;n bosib eu gwneud yn y Gymraeg yw cydrannau \u00e2 ddewisir gan fyfyrwyr (CDF) (<em>Student Selected Components<\/em>). Ym mlwyddyn un, mae&#8217;r rhain yn cynnwys prosiect dyniaethau meddygol, ble roedd rhaid i ni greu darn o waith er mwyn diolch i&#8217;r person oedd wedi rhoi ei corff er mwyn i ni ddysgu anatomi, yn osgytal ag adolygiad llenyddiaeth. Er mwyn ysgrifennu adolygiad llenyddiaeth, mae&#8217;n rhaid darllen nifer o erthyglau ymchwil mewn maes ac yna eu crynhoi i un adroddiad. Ysgrifenais i fy adolygiad llenyddiaeth ar ffactorau sy&#8217;n dylanwadu ar rieni pan yn penderfynu os i roi&#8217;r brechlyn brech goch, clwy&#8217;r pennau a rwbela (<em>Measles, Mumps, Rubella &#8211; MMR<\/em>) i&#8217;w plentyn ond roedd sawl pwnc arall ar gael mewn Cymraeg.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/62550630143__336CC429-098E-4CEF-9857-BAEDB1E61B23-768x1024.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12583\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/62550630143__336CC429-098E-4CEF-9857-BAEDB1E61B23-768x1024.jpeg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/62550630143__336CC429-098E-4CEF-9857-BAEDB1E61B23-254x338.jpeg 254w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/62550630143__336CC429-098E-4CEF-9857-BAEDB1E61B23-225x300.jpeg 225w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/62550630143__336CC429-098E-4CEF-9857-BAEDB1E61B23-1152x1536.jpeg 1152w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/62550630143__336CC429-098E-4CEF-9857-BAEDB1E61B23-1536x2048.jpeg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/62550630143__336CC429-098E-4CEF-9857-BAEDB1E61B23-scaled.jpeg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><figcaption>Parc Biwt, Caerdydd<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mlwyddyn dau, mae CDF ar ffurf wythnosau profiad. Ar gyfer y ddwy wythnos profiad, rydyn ni&#8217;n treulio wythnos mewn maes penodol ac yna&#8217;n ysgrifennu adroddiad neu roi cyflwyniad. Treuliais i&#8217;r wythnos profiad cyntaf yn edrych ar &#8216;Iaith mewn Meddygaeth&#8217;, yn cyfweld a gwrando ar gyflwyniadau gan wahanol bobl sy&#8217;n ymwneud \u00e2 darpariaeth gofal iechyd Gymraeg yng Nghymru a hefyd yn darllen erthyglau am wasanaethau iechyd ble mae darpariaeth mewn ieithoedd lleiafrifol eraill. Ar gyfer yr ail wythnos profiad, roedd yn bosib i ni drefnu ein prosiect ein hunain. Trefnais i wythnos yn yr uned cardioleg paediatrig yn Ybsyty Atrhofaol Cymru. Mi ges i wythnos wych ar y ward ac mewn clinigau, fy mhrofiad clinigol cyntaf, cyn ysgrifennu adroddiad ar y ffacotrau oedd yn hwyluso a&#8217;n rhwystro gofal da. Er bod neb yn yr uned yn siarad Cymraeg, roedd fy nhiwtor yn hapus i drefnu i farcio ar y c\u0177d gyda siaradwr Cymraeg oedd yn gweithio yn yr ysbyty, felly tydi&#8217;r dewis ddim wedi ei gyfyngu gan ble mae siaradwyr Cymraeg.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_5383-1024x768.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12585\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_5383-1024x768.jpeg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_5383-300x225.jpeg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_5383-768x576.jpeg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_5383-1536x1152.jpeg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_5383-2048x1536.jpeg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Parc y Rhath, Caerdydd<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mlynyddoedd hwyrach y cwrs, mae CDF yn cynnwys prosiectau ymchwil o fwy o hyd na&#8217;r rhai cynharach. Golygai hyn fod posib i ni gynnal ymchwil mewn maes sydd o ddiddordeb i ni. Fel soniais yn y blog am y Llwybr Addysg Wledig (LLAW), mi wnes i fy mhrosiect mewn uned paediatrig gyda thiwtor Cymraeg yn edrych ar ddefnydd gwrth-gyrff penodol mewn atal haint o&#8217;r enw bronciolitis mewn babanod sydd \u00e2 risg uchel o ddioddef o fronciolitis difrifol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ychwanegol, mae dau brosiect arall sy&#8217;n bosib ei wneud mewn Cymraeg ym mlwyddyn tri: y prosiect oncoleg a phrosiect llwybr y claf. Yn y prosiect oncoleg, mae myfyrwyr yn cael eu paru \u00e2 chlaf sydd \u00e2 diagnosis o gancr. Yna, rydym yn ymuno \u00e2 nhw mewn apwyntiadau clinig, sganiau a thriniaeth ac yna&#8217;n ysgrifennu adroddiad yn cynnwys hanes y claf, ein myfyrdod ni o&#8217;r sefyllfa ac ein dealltwriaeth o wyddoniaeth y cancr a&#8217;r driniaeth. Mae prosiect llwybr y claf yn golygu dilyn claf sy&#8217;n cael mynediad brys i&#8217;r ysbyty trwy eu hamser yn yr ysbyty ac yn \u00f4l i&#8217;r gymuned ar \u00f4l iddynt gael eu rhyddhau o&#8217;r ysbyty. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cyfathrebu yn effeithiol gyda chleifion yn bwysig mewn Meddygaeth ac felly mae sesiynau sgiliau cyfathrebu yn rhan pwysig o&#8217;r cwrs. Mae sesiynau ychwanegol i&#8217;r rhai arferol yn cael eu cynnal mewn Cymraeg, cyfle i ni ymarfer cymryd hanes feddygol, rhannu gwybodaeth a thorri newyddion drwg mewn sesiynau gydag actorion cyn fod rhaid gwneud hyn yn y byd gwirioneddol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_5952-1024x768.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_5952-1024x768.jpeg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_5952-300x225.jpeg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_5952-768x576.jpeg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_5952-1536x1152.jpeg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2021\/01\/IMG_5952-2048x1536.jpeg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Pont Menai, Porthaethwy, Ynys M\u00f4n<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydw i yn barod wedi rhannu fy mhrofiadau yn ystod fy mlwyddyn ar y LLAW mewn blog blaenorol, ond mae&#8217;n bwysig nodi bod hyn hefyd yn gyfle da i ymarfer sgiliau cyfathrebu clinigol yn y Gymraeg. Mi ddarganfyddais wrth gynnal awdit o&#8217;r holl ymgynghoriadau gefais i yn ystod y flwyddyn LLAW fod 82% ohonynt mewn Cymraeg. Mae hyn yn fudd ychwanegol i&#8217;r rhai ohonoch sy&#8217;n cysidro gwneud y LLAW ac eisiau gwella eich sgiliau meddygol yn y Gymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gobeithio bod hyn wedi rhoi gwell syniad i chi beth mae astudio Meddygaeth yn y Gymraeg yn ei olygu. Mae croeso i chi awgrymu them\u00e2u ar gyfer blogiau&#8217;r dyfodol yn y sylwadau isod.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Tra'n astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd, rydw i'n derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio rhan o'r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y blog hwn, rwyf am egluro [&hellip;]","protected":false},"author":6799,"featured_media":12583,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[242,842],"tags":[],"class_list":["post-12563","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-studying-cy","category-cymraeg-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12563","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6799"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12563"}],"version-history":[{"count":19,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12563\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12592,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12563\/revisions\/12592"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12583"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12563"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12563"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12563"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}