{"id":12517,"date":"2020-12-14T09:50:42","date_gmt":"2020-12-14T09:50:42","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/?p=12517"},"modified":"2021-09-15T15:02:07","modified_gmt":"2021-09-15T15:02:07","slug":"dysgu-wyneb-yn-wyneb-ar-gampws-covid-ddiogel-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/cy\/dysgu-wyneb-yn-wyneb-ar-gampws-covid-ddiogel-2\/","title":{"rendered":"Dysgu Wyneb-yn-Wyneb ar Gampws COVID-Ddiogel"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-normal-font-size wp-block-paragraph\">Helo, Sh\u00f4n ydw i, croeso i fy mlog  cyntaf ar y safle hon. Rwyf fel arfer yn astudio Meddygaeth, ond y flwyddyn hon rydw i&#8217;n gwneud gradd ymsang mewn Ffarmacoleg rhwng y drydedd a&#8217;r bedwaredd flwyddyn o&#8217;r cwrs Meddygaeth. I&#8217;r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod, mae gradd ymsang yn fath o radd ychwanegol mae myfyrwyr Meddygaeth yn gallu dewis i&#8217;w gwneud mewn blwyddyn. Wrth gwrs, mae hyn yn golygu bod y cwrs yn mynd o fod yn bum mlynedd o hyd i fod yn chwe mlynedd ond mae&#8217;n gyfle i ddatblygu nifer o sgiliau ac mae&#8217;n golygu ein bod ni&#8217;n cael dwy radd! Yn achos Ffarmacoleg, rydyn ni&#8217;n ymuno \u00e2&#8217;r drydedd flwyddyn o&#8217;r cwrs Ffarmacoleg Feddygol. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-normal-font-size wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r mwyafrif o addysg prifysgol yn cael ei gynnal yn ddigidol y flwyddyn hon, ar lwyfannau megis Microsoft Teams a Zoom, ond oherwydd maint bychain y grwpiau, rydyn ni ar y cwrs Ffarmacoleg wedi bod yn ffodus iawn ein bod ni&#8217;n parhau i gael y rhan fwyaf o&#8217;n darlithoedd wyneb-yn-wyneb. Roeddwn i&#8217;n meddwl byswn i&#8217;n defnyddio&#8217;r cyfle yma i drafod sut brofiad yw addysg di-rithwir yn ystod yr amseroedd rhyfedd hyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-normal-font-size wp-block-paragraph\">Pan yn cyrraedd adeilad prifysgol, mae&#8217;n rhaid gwisgo gorchudd wyneb o ryw fath ac mae cyfleusterau golchi dwylo ar y ffordd i mewn. Mae system un ffordd o fewn nifer o adeiladau&#8217;r brifysgol ac felly mae&#8217;n rhaid mynd i mewn trwy ddrws penodol a dilyn arwyddion i&#8217;r ddarlithfa. O fewn y ddarlithfa, mae tic gwyrdd neu groes coch ar bob cadair sy&#8217;n dangos ble sy&#8217;n ddiogel i eistedd: Does neb yn cael eistedd wrth ymyl ei gilydd hyd yn oed os ydyn nhw&#8217;n byw yn yr un t\u0177. Mae chwistrellau glanhau a phapur ar gael ym mhob darlithfa ac mae&#8217;n rhaid i fyfyrwyr lanhau eu gofod ar ddechrau ac ar ddiwedd y sesiwn. Mae darlithwyr yn cael tynnu eu gorchudd wyneb er mwyn rhoi eu darlith ac mae&#8217;n nhw&#8217;n aros ym mlaen y ddarlithfa ond rhaid i&#8217;r gynulleidfa adael eu gorchuddion wyneb ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2020\/12\/Screenshot-2020-12-13-at-16.27.49.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-12519\" width=\"309\" height=\"554\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2020\/12\/Screenshot-2020-12-13-at-16.27.49.png 519w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2020\/12\/Screenshot-2020-12-13-at-16.27.49-189x338.png 189w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2020\/12\/Screenshot-2020-12-13-at-16.27.49-168x300.png 168w\" sizes=\"auto, (max-width: 309px) 100vw, 309px\" \/><figcaption>Llun o Ddarlithfa 1 yn Ysbyty Athrofaol Cymru gyda addasiadau mewn lle oherwydd COVID-19<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"has-normal-font-size wp-block-paragraph\">Er gwaetha&#8217;r holl reolau newydd, rydyn ni mor ddiolchgar i&#8217;r darlithwyr am ein dysgu wyneb-yn-wyneb pan fo hynny&#8217;n addas ac yn ddiogel. Credaf fy mod yn canolbwyntio yn well pan rydw i wedi cerdded i ddarlithfa i ystafell rydw i&#8217;n gwybod sydd ar gyfer dysgu yn hytrach na gwylio sesiwn ar gyfrifiadur yn fy ystafell. Yn ychwanegol i hyn, mae&#8217;r ffaith bod y rhan fwyaf o ein addysg &#8216;mewn-person&#8217; yn gwneud y sesiynau sydd yn ddigidol (ble mae darlithwyr yn ynysu neu wedi penderfynu gweithio o adref, er enghraifft) yn fwy pleserus: Mae&#8217;r gymysgedd yn berffaith. Rhaid nodi bod ymchwil yn dangos bod dim gwahaniaeth rhwng perfformiad myfyrwyr pan maent yn dysgu ar-lein o&#8217;i gymharu \u00e2 wyneb-yn-wyneb (<a href=\"https:\/\/www.frontiersin.org\/articles\/10.3389\/fcomp.2019.00007\/full\">Paul a Jefferson, 2019<\/a>). <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae adnoddau digidol o hyd wedi bod yn bwysig i addysg yn y brifysgol. Ym mhell cyn y pandemig, roedd darlithoedd yn cael eu recordio a&#8217;u uwchlwytho, mae nifer o lyfrau ac erthyglau ar gael ar-lein trwy&#8217;r llyfrgell ac mae modiwlau e-ddysgu a fideos YouTube yn ran pwysig o addysg yn yr unfed ganrif ar ugain. Ond credaf bydd mynd i eistedd mewn darlithfa yn gwrando ar arbenigwr yn cyflwyno yn ran pwysig o addysg am amser hir i ddod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-normal-font-size wp-block-paragraph\">Dyna&#8217;r cyfan ar gyfer y blog cyntaf hwn. Gadewch wybod beth fyddech chi&#8217;n hoffi ei glywed amdano yn y blog nesaf!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Helo, Sh\u00f4n ydw i, croeso i fy mlog cyntaf ar y safle hon. Rwyf fel arfer yn astudio Meddygaeth, ond y flwyddyn hon rydw i'n gwneud gradd ymsang mewn Ffarmacoleg [&hellip;]","protected":false},"author":6799,"featured_media":12519,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[842,241],"tags":[],"class_list":["post-12517","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymraeg-cy","category-lectures-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12517","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6799"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12517"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12517\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12527,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12517\/revisions\/12527"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12519"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12517"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12517"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12517"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}