{"id":12145,"date":"2020-10-16T12:46:38","date_gmt":"2020-10-16T12:46:38","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/2020\/10\/16\/astudio-meddygaeth-wythnos-y-gymraeg\/"},"modified":"2021-09-15T15:02:17","modified_gmt":"2021-09-15T15:02:17","slug":"astudio-meddygaeth-wythnos-y-gymraeg-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/cy\/astudio-meddygaeth-wythnos-y-gymraeg-2\/","title":{"rendered":"Astudio Meddygaeth; Wythnos y Gymraeg"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Helo!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Megan Prys Evans ydw i, myfyrwraig\nfeddygol yng Nghaerdydd. Dwi newydd\nddechrau ar fy nhrydedd flwyddyn ac yn\nmwynhau bob eiliad ar hyn o bryd. Yn y\nflwyddyn gyntaf a\u2019r ail flwyddyn nid oedd\nllawer o amlygiad clinigol, oddeutu un\ndiwrnod bob pythefnos. Mae hyn wedi\nnewid yn hollol yn y drydedd flwyddyn gan\nein bod ni rwan hefo  wythnos o\nddarlithoedd yn cael ei ddilyn gan bloc wyth\nwythnos ar leoliad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae  tri bloc gwahanol o fewn y drydedd\nflwyddyn, ar hyn o bryd rwyf yn gwneud\nbloc ar glefydau cronig mewn meddygfa\nteulu yng nghanol Caerdydd. Mae\u2019r lleoliad\nyn wych gan fy mod yn gallu cerdded yno\nac mae\u2019n bosib i fi gerdded o amgylch\nparciau Caerdydd yn ystod fy awr ginio.\nDwi\u2019n agos\u00e1u at hanner ffordd trwy\u2019r bloc\ngyntaf a dwi\u2019n teimlo fel fy mod yn rhan o\u2019r\nt\u00eem. Mae\u2019n wych ein bod ni\u2019n cael aros am\nyr wyth wythnos gan ein bod yn dod i\nadnabod y staff yn dda a hefyd yn cael\ngweld cynnydd mewn cleifion. Ar leoliadau\neraill rydym wedi bod; rydym yn cyfarfod\nclaf, ond wedyn byth yn cael dilyn eu taith.\nEr enghraifft, o\u2019r blaen os oedd claf yn dod i\nmewn ac yn cael ei yrru am brofion gwaed,\nnid oedden ni\u2019n ffeindio allan beth oedd yn\ndigwydd, ond erbyn hyn mae\u2019n bosib i ni\nddilyn y daith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hefo achosion COVID-19 yn codi yn ei\nniferoedd eto mae\u2019n gallu fod yn frawychus\nfod ar leoliad. Mae\u2019r panig yno fod gen i&#8217;r\nfeirws heb symptomau, ac yn gallu ei basio\ni glaf bregus. Mae\u2019r brifysgol yn cynnig\ngwasanaeth sgrinio am y feirws sydd yn\ncynnwys sampl o boer ac mae\u2019n dod yn \u00f4l o\nfewn 48 awr. Mae hyn yn wasanaeth gwych\nac yr wyf wedi bod yn ei ddefnyddio yn\nwythnosol er mwyn gwneud yn si\u0175r nad\nydw i yn rhoi claf bregus mewn perygl. Mae\ngan y feddygfa teulu system wych hefyd lle\nmaen nhw\u2019n cymryd tymheredd cyn i glaf\nddod i mewn ond mae nhw hefyd yn trio\nlleihau faint o gleifion sydd yn dod i mewn.\nMi rydan ni hefyd yn trio lleihau&#8217;r lledaeniad\ndrwy wisgo \u2018scrubs\u2019 ac hefyd yr PPE i gyd.\nMae rhan fwyaf o ymgynghoriadau dros y\nffon ond os yw\u2019r doctoriaid yn teimlo fel ei\nbod angen gweld y claf maen nhw\u2019n dod i\nmewn bryd hynny. Roeddwn yn helpu allan\nhefo\u2019r clinig ffliw wythnos diwethaf ag yr\noedd hynny i gyd yn cael ei wneud tu allan\ner mwyn lleihau&#8217;r siawns o ledaenu\u2019r feirws.\nRoedd hyn yn brofiad gwych er mwyn\ndatblygu fy sgiliau clinigol a hefyd yn teimlo\nfel fy mod yn helpu\u2019r rhai sydd \u00e2 risg uchel\nadeg yma\u2019r flwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hi&#8217;n wythnos Gymraeg bwrdd iechyd\nBetsi Cadwaladr. Mae\u2019n bwysig iawn i\nunrhyw un Cymraeg o fewn gofal iechyd i\nwisgo&#8217;r bathodyn oren er mwyn gwneud\nhi\u2019n haws adnabod y rhai sydd yn siarad\nCymraeg. Mae hi\u2019n deimlad ofnadwy gorffen\nymgynghoriad hefo claf ac wedyn\nsylweddoli bod nhw\u2019n siarad Cymraeg.\nRwy\u2019n  astudio rhan o\u2019r cwrs drwy gyfrwng\ny Gymraeg ac wedi derbyn ysgoloriaeth y\nColeg Cymraeg, sydd wedi rhoi hwb a\nchynyddu fy hyder o allu cynnal\nymgynghoriad yn y Gymraeg a defnyddio\ntermau dwy-ieithog. Dwi ar leoliad yn mis\nMai o fewn bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr\nag y gobaith yw gallu ddefnyddio\u2019r sgiliau yr\nwyf wedi eu datblygu, a siarad hefo cleifion\nyn ei mamiaith gan nad wyf yn cael cymaint\no gyfleoedd lawr yma yng Nghaerdydd.\nMae\u2019n bwysig medru rhoi gwasanaeth\nCymraeg yma yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gobeithio bod hyn wedi rhoi blas i chi o fy\namser ar leoliad hyd yn hyn yn y drydedd\nflwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Megan<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Helo! Megan Prys Evans ydw i, myfyrwraig feddygol yng Nghaerdydd. Dwi newydd ddechrau ar fy nhrydedd flwyddyn ac yn mwynhau bob eiliad ar hyn o bryd. Yn y flwyddyn gyntaf [&hellip;]","protected":false},"author":1840,"featured_media":12005,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"image","meta":{"footnotes":""},"categories":[842],"tags":[],"class_list":["post-12145","post","type-post","status-publish","format-image","has-post-thumbnail","hentry","category-cymraeg-cy","post_format-post-format-image"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12145","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1840"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12145"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12145\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12146,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12145\/revisions\/12146"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12005"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12145"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12145"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12145"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}