{"id":10158,"date":"2019-12-03T16:58:25","date_gmt":"2019-12-03T16:58:25","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/?p=10158"},"modified":"2019-12-03T17:01:14","modified_gmt":"2019-12-03T17:01:14","slug":"symud-mewn-i-dy","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/symud-mewn-i-dy\/","title":{"rendered":"Symud mewn i D\u0177"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l blwyddyn o fyw mewn Neuadd Breswyl\nyng Ngogledd Talybont, roeddwn \u2013 heb os nac oni bai &#8211; yn barod i symud mewn i d\u0177\nar gyfer fy ail flwyddyn. Felly, dyma ychydig o bwyntiau ynghylch fy mhrofiad i\ngydag ychydig o gyngor hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Y Broses o Ddewis Pobl<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma gyfnod sy\u2019n gallu bod yn heriol i chi, i\u2019ch\nffrindiau ac i\u2019ch cyfeillgarwch chi gyda\u2019ch ffrindiau. Ond cofiwch, mae\u2019r\nbroses hon yn hollbwysig er mwyn creu mwy o atgofion ar gyfer y flwyddyn nesaf,\nac efallai bod yna ambell rwystr y mae angen ei daclo ar hyd y ffordd. I mi,\nrwyf yn byw mewn t\u0177 o 8 myfyrwyr sef yr uchafswm i mi yn bersonol. Y\ndewisiadau pennaf ar gyfer myfyrwyr, yw dewis rhwng ffrindiau\u2019r cwrs, neu\nffrindiau tu allan i\u2019r cwrs (ffrindiau o\u2019r Neuadd Breswyl, o gymdeithasau neu\ngyfeillion cyffredin). Weithiau, mae cymysgedd o\u2019r holl elfennau hyn yw\u2019r dewis\nmwyaf delfrydol. Rhywbeth i gadw mewn golwg hefyd yw dewis t\u0177 o\nran rhyw, hynny yw dim ond bechgyn\/merched neu gymysgedd o\u2019r ddau. Fy sefyllfa\nbersonol i yw fy mod yn byw mewn t\u0177 cymysg ac rwyf yn hoff iawn o hynny.\nTeimlaf fod gennyf ddeinameg delfrydol rhwng y ddau ryw. Ond peidiwch \u00e2 gadael i hynny ddylanwadu\u2019ch\npenderfyniad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Y Broses o Chwilio<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wedi ichi gamu dros y glwyd o ddewis pwy yr ydych am\nfyw gyda hwy flwyddyn nesaf, mae\u2019n bryd mynd ati i chwilio am d\u0177.\nFe wnes i, ac mae\u2019n debygol y cewch chi hefyd, gael pobl yn dod mewn i\u2019m fflat\nyn y Neuadd Breswyl yn ein hysbysu bod angen inni ddechrau ar y broses o\nchwilio cyn gynted ag y bo modd. Gwyliwch nad yw hyn yn creu rhyw fath o banig\nichi fel ffrindiau. Pwrpas hwn yw i\u2019ch ysgogi chi i ddechrau meddwl am y peth.\nYn anffodus, mae\u2019r neges anghywir yn cael ei throsglwyddo weithiau. Felly,\npeidiwch \u00e2 rhuthro mewn\ni\u2019r broses heblaw bod pob un ohonoch yn barod. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd angen ichi ddewis gwerthwr yn gyntaf. Fe wnaethom\nni ofyn i bobl oedd yn fyfyrwyr h\u0177n am eu profiadau nhw gyda gwerthwyr\ntai gwahanol. Yn y pen draw, fe ddewisom CPS. Ond, cofiwch fod angen ichi\nystyried manteision ac anfanteision pob un. Yn ychwanegol, fe wnaethom ni\nedrych ar hysbysebion y gwerthwyr ar Facebook i helpu ni ddod at benderfyniad. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth gwrs, nid yw\u2019r broses wedi dod i ben eto. Mae\nangen i un aelod o\u2019ch gr\u0175p gysylltu er mwyn trefnu adeg lle y\ngallwch chi gyd ymweld \u00e2\nthai. Fe wnaethom ni geisio cael cymaint ohonom yna \u00e2 phosib oherwydd yr ydych yn\npenderfynu ar y tai yr ydych am ymweld \u00e2 hwy hefyd. Gwnewch yn si\u0175r\nbod pob un ohonoch ar gael i weld y tai er mwyn osgoi cymhlethdodau yn y pen\ndraw. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mis Chwefror oedd hi pan aethom ni ymweld \u00e2\u2019r tai. Felly, dylai hynny ddangos\nichi nad oes brys ichi arwyddo am d\u0177. Diolch i\u2019r drefn, dewisom 3 th\u0177 i\nymweld \u00e2 hwy,\noherwydd cafodd un ei arwyddo amdano wrth inni ymweld \u00e2\u2019r 2 d\u0177\narall. O hynny, peidiwch \u00e2\nrhoi\u2019ch calon ar un o\u2019r tai cyn ymweld \u00e2\u2019r tai rhag ofn ichi ddigalonni os\nbod eich hoff un wedi cael ei arwyddo amdano erbyn ichi gyrraedd yno. Roeddem\nyn ffodus ein bod yn unfrydol wedi cytuno ar d\u0177\nwedi\u2019r ymweliad, gan ystyried lleoliad, pris ac adnoddau\u2019r t\u0177.\nFodd bynnag, nid felly yw pob achos. Fy nghyngor gorau mewn achosion o\u2019r fath\nyw cyfaddawdu lle y bo modd. Efallai y bydd gofyn arnoch i gymryd ymagwedd\nddemocrataidd tuag at y sefyllfa a chynnal pleidlais.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Y Broses Arwyddo<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel o\u2019r blaen, roedd yn rhaid inni gytuno ar amser\nlle\u2019r oedd pob un ohonom ar gael i arwyddo am y t\u0177\u2019n\nderfynol. Cawsom bwyslais i wneud hyn cyn gynted ag y bo modd cyn i rywun arall\nweld y t\u0177 ac arwyddo cyn ni. Bydd gofyn ichi baratoi ffurflen\nwarantwr ar gyfer y diwrnod arwyddo gan eich rhiant\/gwarchodwr. Bydd sawl cytundeb\ngennych i\u2019w arwyddo, ac roedd angen inni benderfynu ar sefyllfa rhent ym\nmisoedd Gorffennaf ac Awst. Hynny yw, oherwydd bod y misoedd hyn y tu allan i\ngyfnod prifysgol, mae\u2019r gwerthwyr yn aml yn codi\u2019r cwestiwn; a hoffech chi dalu\nhanner rhent neu rent llawn am Orffennaf ac Awst? I ni, teimlasom nad oedd yn\nmynd i greu defnydd digonol o\u2019r t\u0177 dros yr haf, felly fe ddewisom ni\ndalu hanner rhent am y misoedd hynny. Yn ffodus i ni, mae un o\u2019n ffrindiau\u2019n\nastudio\u2019r Gyfraith, felly roedd ef ar flaen y gad yn darllen pob cytundeb cyn\narwyddo i sicrhau nad oes camgymeriadau. O\u2019r herwydd, penderfynom mai ef oedd\nein prif denant a bydd disgwyl ichi benodi un hefyd ar gyfer rhyw fath o linyn\ncyswllt rhwng y gwerthwyr a chi. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Symud Mewn<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oedd rhyw lawer o ddisgwyliadau arnom rhwng cyfnod yr arwyddo a symud mewn. Cawsom ambell ebost yn ein hysbysu o wybodaeth bwysig ond nid oedd angen gwneud dim mwy na\u2019u darllen. O brofiad, byddwn i\u2019n argymell ichi gysylltu gyda\u2019r gwerthwr\/perchennog tuag wythnos cyn symud mewn i sicrhau bod y t\u0177\u2019n barod ar eich cyfer erbyn ichi symud mewn. Cawsom brofiad eithaf rhwystredig ar y diwrnod cyntaf. Dywed ar y cytundeb y bydd y t\u0177\u2019n barod erbyn y 1af o Fedi 2019. Aeth fy ffrind i symud mewn ar y diwrnod hwnnw, ac roedd yna botiau paent ym mhob man gyda defnydd i sychu\u2019r paent ar y lloriau. Yn ogystal, tynnodd luniau o fatresi yn y gegin gyda dail ar ei ben. Nid oedd un ffwrn yn gweithio nac yn l\u00e2n. Hefyd, roedd lleithder yn un o\u2019r ystafelloedd. Daeth i\u2019r amlwg nad oedd y ddeufis o dalu hanner rhent wedi cael ei defnyddio i\u2019w llawn gwerth. Fe wnes i symud mewn ar y 3ydd o Fedi ac nid oedd pob dim wedi\u2019u datrys erbyn hynny ychwaith. Felly, ceisiwch gysylltu i wirio ymlaen llaw!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ar \u00f4l blwyddyn o fyw mewn Neuadd Breswyl yng Ngogledd Talybont, roeddwn \u2013 heb os nac oni bai - yn barod i symud mewn i d\u0177 ar gyfer fy ail [&hellip;]","protected":false},"author":1753,"featured_media":9743,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[758],"tags":[],"class_list":["post-10158","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymraeg"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10158","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1753"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10158"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10158\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10159,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10158\/revisions\/10159"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9743"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10158"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10158"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10158"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}