{"id":10148,"date":"2019-11-15T16:55:58","date_gmt":"2019-11-15T16:55:58","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/?p=10148"},"modified":"2020-01-21T13:05:15","modified_gmt":"2020-01-21T13:05:15","slug":"profiadau-allygyrsiol-cymreig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/profiadau-allygyrsiol-cymreig\/","title":{"rendered":"Profiadau Allygyrsiol Cymreig"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng Nghaerdydd, ceir yna gyfoeth o brofiadau\nallgyrsiol Cymreig. Gall y rhain amrywio o brofiadau chwaraeon i brofiadau\ncerddorol. Rwyf am grybwyll ychydig o\u2019r rhai yr wyf wedi manteisio arnynt, Yn\nddiau, fe wnaeth y profiadau hyn ddylanwadu ar fy mhenderfyniad i ddod i\nGaerdydd i astudio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Y GymGym<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma\ngymdeithas sydd yn cwrdd yn bythefnosol gan amlaf i gymdeithasu. Fel arfer, cr\u00f4ls\nsy\u2019n ymgasglu\u2019r myfyrwyr at ei gilydd gan ddechrau mewn tafarnau\u2019r ddinas cyn\ngorffen mewn clwb nos fel pinacl y noson. Nid yw\u2019r gymdeithas yn cael ei\nchynnal ar noson benodol bob tro, bydd y gymdeithas yn ceisio amrywio\u2019r cr\u00f4ls\no ran noson yr wythnos bob tro, er mwyn osgoi effeithio\u2019r un bobl bob tro. Ceir\nyna gyfle i ymdrechu trwy gyfrwng gwisg yn y cr\u00f4ls\ngyda them\u00e2u amrywiol,\nmegis degawdau, cymeriadau, Calan Gaeaf, SgymGym, i grybwyll ond ychydig. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ychwaneg\ni\u2019r rhain, ceir digwyddiadau nodedig eraill ar hyd y flwyddyn. Rwyf newydd\nddychwelyd o Aberystwyth ar gyfer y Ddawns Ryng-golegol. Achlysur ydyw sy\u2019n uno\ncymdeithasau Cymraeg Prifysgolion Cymru (Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth,\nBangor a\u2019r Drindod) sy\u2019n gyfle arbennig i gymdeithasu gyda hen ffrindiau, yn\nogystal \u00e2 chwrdd \u00e2 phobl o Brifysgolion eraill. Yn\nystod y penwythnos, cafwyd Stomp farddonol, g\u00eam\nb\u00eal-droed\ngyfeillgar, gig a mwy na digon o gyfleoedd i yfed. Nid dyma\u2019r unig ddigwyddiad\nrhyng-golegol ar hyd y flwyddyn ychwaith, caiff Eisteddfod ei chynnal yn yr ail\ndymor. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hyd yn hyn,\nmae\u2019r gymdeithas wrthi\u2019n cynllunio ar gyfer y Ddawns Fawreddog, sef cyfle i\ngymdeithasu dros ginio 3 phryd mewn awyrgylch ffurfiol. Caiff hon ei chynnal yn\nystod wythnos olaf mis Ionawr fel ffordd o ddathlu ar \u00f4l\ncyfnod o arholiadau. Yn fwy na hynny, ceir yma gyfle i\u2019r aelodau gael lluniau\ngan ffotograffydd proffesiynol er mwyn eu huwchlwytho i\u2019w proffiliau ar-lein!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod yr\nail dymor hefyd, mae aelodau\u2019r gymdeithas yn teithio ar drip rygbi ar gyfer g\u00eam\nrygbi\u2019r Chwe Gwlad. Gan amlaf, newidia\u2019r trip ei leoliad o flwyddyn i flwyddyn\nam yn ail rhwng Dulyn a Chaeredin. Yn ogystal \u00e2 chymdeithasau Cymraeg Prifysgolion\nCymru, ceir ymddangosiadau eraill gan gymdeithasau Cymraeg Prifysgolion eraill\nmegis Bryste, Caerfaddon a Sheffield i enwi ond ychydig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er inni fod yn gymdeithas sy\u2019n cyfarfod yn rheolaidd gyda\u2019r hwyr, ceir canghennau eraill gan y gymdeithas hefyd. Ymhlith y rhain yw t\u00eem rygbi, p\u00eal-droed a ph\u00eal-rwyd. Maent hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn hyfforddi a chwarae o fewn cynghreiriau chwaraeon y Brifysgol. Yn ychwanegol i hyn, cyniga hyn gyfleoedd i\u2019r timoedd chwarae yn erbyn prifysgolion y rhyng-golegau. Rheswm arall i\u2019r Prifysgolion gystadlu yn erbyn ei gilydd.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"151\" height=\"160\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2019\/12\/GymGym.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10149\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Aelwyd y Waun\nDdyfal<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I\u2019r rheiny\nohonoch sydd wedi cystadlu mewn Eisteddfodau ar hyd y blynyddoedd (yn enwedig\nEisteddfod yr Urdd), mae\u2019n bosib nad yw enw\u2019r Waun Ddyfal yn un estron. Dyma\ngymdeithas arall sydd yn cyfarfod yn aml er mwyn cyd-ganu ac ymarfer tuag at\nnodau gwahanol ar hyd y flwyddyn. Rydym newydd gynnal cyngerdd Nadolig yn\nEglwys Dewi Sant yn y ddinas a chodi arian tuag at Mind Cymru. Ein her nesaf,\nfel y crybwyllais uchod, yw paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd lle y byddwn yn\ncystadlu mewn cystadlaethau\u2019r Corau Cymysg, C\u00f4r\nMerched, C\u00f4r Bechgyn, Parti Cerdd Dant a\u2019r Gr\u0175p\nLlefaru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma gymdeithas sydd yn annibynnol o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac felly mae yna fwy o groeso yma i bobl ifanc o brifysgolion eraill, \u00f4l-raddedigion a gweithwyr ifanc ymuno. Hefyd, croesawa\u2019r gymdeithas bob gallu cerddorol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle a bod pawb yn mwynhau. <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"215\" height=\"166\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2019\/12\/4.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10153\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cyfryngau\nMyfyrwyr Cymraeg Caerdydd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma ymbar\u00e9l o gymdeithas sydd yn cwmpasu cyfryngau Cymraeg o fewn Xpress Radio, Gair Rhydd, CUTV a Quench. Cyniga pob un ohonynt rywbeth gwahanol at ddant pawb sydd yn ymddiddori ym myd y cyfryngau. Cyfle i greu sioe radio wythnosol eich hun a gynigir gan Xpress Radio gyda sawl sioe lwyddiannus ar yr awyr bob wythnos. O\u2019r siarad i\u2019r ysgrifennu, mae Gair Rhydd yn blatfform gwych i newyddiadurwyr y dyfodol finiogi eu sgiliau a cheir adran Taf-Od sy\u2019n arbenigo mewn cynnwys Cymraeg. Cyfrwng arall yw CUTV sy\u2019n creu fideos rheolaidd am sawl elfen o fywyd Cymraeg yng Nghaerdydd. Heb os, ceir elfen eithaf anffurfiol a hwylus gan CUTV sy\u2019n aml yn ceisio crisialu manteision ymuno \u00e2\u2019r cymdeithasau a phrofiadau cyfrwng Cymraeg eraill. Yn olaf, cylchgrawn wythnosol yw Quench sydd yn cynnwys adran Gymraeg o\u2019r enw Clebar.  &#8220;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"153\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2019\/12\/3.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10151\" \/><\/figure><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yng Nghaerdydd, ceir yna gyfoeth o brofiadau allgyrsiol Cymreig. Gall y rhain amrywio o brofiadau chwaraeon i brofiadau cerddorol. Rwyf am grybwyll ychydig o\u2019r rhai yr wyf wedi manteisio arnynt, [&hellip;]","protected":false},"author":1753,"featured_media":10153,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[758],"tags":[],"class_list":["post-10148","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymraeg"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10148","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1753"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10148"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10148\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10155,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10148\/revisions\/10155"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10153"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10148"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10148"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10148"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}