{"id":10141,"date":"2019-10-03T15:39:42","date_gmt":"2019-10-03T15:39:42","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/?p=10141"},"modified":"2020-01-21T13:04:40","modified_gmt":"2020-01-21T13:04:40","slug":"10-peth-gorau-iw-gwneud-yng-nghaerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/10-peth-gorau-iw-gwneud-yng-nghaerdydd\/","title":{"rendered":"10 Peth Gorau i\u2019w gwneud yng Nghaerdydd"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Croeso enfawr ichi i Gaerdydd! Dyma ddinas fywiog sy\u2019n\nllawn pethau i\u2019w gwneud. Ond mae ganddi hefyd elfennau cyfeillgar sydd yn addas\ni bawb!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma restr amrywiol o bethau i\u2019w gwneud yn ystod eich cyfnod yn y ddinas.<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li><strong>Ymweld \u00e2\u2019r Parciau<\/strong><\/li><\/ol>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ceir, yng Nghaerdydd, lu o barciau hyfryd. Gan amlaf, byddai nifer yn dadlau bod hyn yn gwneud i Gaerdydd sefyll allan o gymharu \u00e2 dinasoedd prysur fel Llundain. Dyma un o nodweddion mwy \u2018trefol\u2019 y ddinas sydd yn cynnig rhyw fath o ddihangfa o rinweddau dinesig yr ardal. Boed ichi ymlwybro\u2019r parciau ar ben eich hun neu mewn gr\u0175p o ffrindiau, bydd hyfrydwch y golygfeydd yn eich denu\u2019n \u00f4l dro ar \u00f4l tro. Mae angen amser i fyfyrio ar bawb, a pha ffordd well nac ymweld \u00e2 pharciau Caerdydd. Fy hoff barciau, yn bersonol, yw parciau Bute a Roath.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">2. <strong>Bae Caerdydd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma un o ardaloedd mwyaf eiconig Caerdydd. Ni fydd gennych brofiad cyflawn o Gaerdydd heb ymweld \u00e2\u2019r bae. Yn y lle cyntaf, mae yma gasgliad enfawr o fwytai sydd- yn llythrennol- at ddant pawb. Cynigir amrywiaeth o Wetherspoons i Las Iguanas. Fel rhywun sy\u2019n astudio Cerddoriaeth, rwyf yn treulio llawer o amser yng Nghanolfan Mileniwm Cymru sydd, o hyd yn dangos rhywfath o sioe; gan gynnwys sioeau cerdd, oper\u00e2u a dram\u00e2u. Peidiwch ag anghofio archebu tocynnau myfyriwr wrth ymweld! Os yn bosib (yn enwedig gyda\u2019r oper\u00e2u a\u2019r dram\u00e2u), chwiliwch\/gofynnwch bryd y mae\u2019r \u2018Open Dress Rehearsals\u2019, oherwydd bod y rhain yn rhad ac am ddim i\u2019r cyhoedd. Os yw gwyddoniaeth yn cymryd eich pryd, beth am ymweld \u00e2\u2019r Techniquest? Cewch gyfle hefyd am daith o amgylch y Senedd yn y bae hefyd, gyda gwleidyddiaeth ein gwlad yn bwysicach nawr nag erioed o\u2019r blaen. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">3. <strong>Treetop Advernture Golf<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un o fy hoff leoliadau. Dyma fusnes sydd hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fanteisio\u2019n ariannol. Ceir yma her hwyl o\u2019r lleiaf medrus i\u2019r Tiger Woods yn eich plith. Mae hyn hefyd yn syniad da er mwyn \u2018bondio\u2019 os ydych yn chwilio am weithgaredd fel fflat neu d\u0177, neu hyd yn oed os ydych am dreulio mwy o amser gyda ffrindiau\u2019ch cwrs. Ond nid yw\u2019r hwyl yn dirwyn i ben ar \u00f4l 18 twll, mae yna fwyd a diod hefyd ar gael i\u2019w cymryd. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">4. <strong>Canolfan Siopa Dewi Sant<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os ydych yn manteisio ar y cyfle i fynd i chwarae \u2018mini golf\u2019, fe fyddai\u2019n hurt ichi beidio \u00e2 dangos eich wyneb i weddill y busnesau yn y ganolfan. Fel yn y bae, ceir llwyth o fwytai yma! Fe welwch nifer o siopau\u2019r stryd fawr ar wasgar, yn ogystal \u00e2 Build-a-Bear. Ar yr ymweliad cyntaf, mae\u2019r ganolfan fel drysfa a gallwch dreulio oriau\u2019n darganfod yr hyn sydd gan y ganolfan i\u2019w chynnig. Mae\u2019n bosib bod gennych gyfrif UniDays neu NUS. Os felly, beth am ichi weld beth sydd ar gael yn y ganolfan y medrwch fanteisio ar ostyngiadau arnynt? Er hyn, peidiwch \u00e2 gwneud ymweliad dyddiol i\u2019r lleoliad!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">5. <strong>Castell Caerdydd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond tafliad carreg o Ganolfan Siopa Dewi Sant, dyma un o gestyll enwocaf a mwyaf Cymru. Fe\u2019i lleolwyd nid nepell o fwrlwm canol y dre. Ceir yma lu o arddangosfeydd yn ogystal \u00e2 chaffi hyfryd. Os ydych yn hynod o brysur o ddydd i ddydd gyda\u2019ch cwrs, peidiwch \u00e2 phoeni- mae\u2019r castell ar agor 7 diwrnod yr wythnos. Os yw\u2019r castell yn eich denu\u2019n \u00f4l sawl tro, beth am gael tocyn tymor? Fel pob dim arall, bydd yna ostyngiad ar eich cyfer fel myfyriwr!<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"200\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2019\/12\/1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-10142\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">6. <strong>Sain Ffagan<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os ydych yn awyddus i grwydro ychydig y tu hwnt i ganol y ddinas, dyma leoliad delfrydol. Pentref clos yw Sain Ffagan sy\u2019n enwedig am ei amgueddfa. Amgueddfa Werin a geir yma sy\u2019n crisialu hanes y Cymry gwerinol ar hyd y blynyddoedd gyda mwy yn cael ei ychwanegu i\u2019r amgueddfa o flwyddyn i flwyddyn. Peidiwch \u00e2 threulio oriau yn y dderbynfa yn chwilio am rywle i dalu, mae mynediad am ddim. Ac yng ngwir ysbryd atyniadau Cymreig, ceir yma gaffi neis hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">7. <strong>Stadiwm y Principality<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Caerdydd yn gartref o lawer o chwaraeon Cymreig. Pa le sy\u2019n well i arddangos chwaraeon y wlad nag yn y stadiwm eiconig hwn. Ond nid chwaraeon yn unig a gaiff ei arddangos yma. Ceir yma hefyd gyngherddau \u2013 gydag enwogion megis Ed Sheeran wedi perfformio yn y stadiwm yn y gorffennol \u2013 a chwaraeon modur i grybwyll ond ychydig. <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"265\" height=\"176\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-content\/uploads\/sites\/523\/2019\/12\/2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10144\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">8. <strong>Mynd i\u2019r Dafarn<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Petawn am nodi rhestr o bob tafarn sydd yng Nghaerdydd, byddwn i yma am oesoedd yn ei hysgrifennu a byddwch chi yma am oriau yn ei darllen. Y pwynt yw, bydd tafarn ar stepen eich drws yn fwy na thebyg. Mae\u2019r ystrydeb yn wir, mae myfyrwyr yn hoff iawn o dreulio ychydig o amser mewn tafarnau wedi diwrnod hir o ddarlithoedd. Gan amlaf, ceir ynddynt amrywiaeth o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn (yn aml yn wythnosol) megis, Karaoke, noson gwis, gwylio chwaraeon ayb. Dyma hafan i fyfyrwyr ymlacio a chymdeithasu trwy roi\u2019r byd yn ei le. Yn ogystal, ceir croeso yma boed ichi yfed alcohol neu beidio. Fe wnewch fy ngweld i yn diota llawer yn y Woodville yn fy amser hamdden.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">9. <strong>G\u0175yl y Gaeaf\/Winter Wonderland<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai nid yw hwn mor agored i bob adeg o\u2019r flwyddyn. Fodd bynnag, mae myfyrwyr yn eu helfen bob tro y mae \u2018Winter Wonderland\u2019 ar agor yn y ddinas. Fe fydd hwyl yr \u0175yl hon yn ychwanegu i\u2019ch ysbryd Nadoligaidd ac wrth i\u2019r dyddiau nosi yn gynt. Ceir yma fynediad am ddim sydd yn nodwedd ffafriol gan y myfyrwyr. Os ydych yn ddigon hyderus i sglefrio ar yr i\u00e2, ceir gostyngiad ar gyfer myfyrwyr yma hefyd. Dyma gyfle i chi a\u2019ch cyd-fyfyrwyr fwynhau dros siocled poeth neu win twym. Siawns perffaith ichi dynnu\u2019r llun gorau ar gyfer eich proffil ar-lein.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">10. <strong>Clwb Ifor Bach<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I le y mae myfyrwyr Cymraeg Caerdydd yn ffoi ar nos Sadwrn? I Glwb Ifor Bach! Dyma glwb nos sydd wedi bodoli ers degawdau bellach ac wedi cynnig blynyddoedd o hwyl a sbri o\u2019r cychwyn. Bydd y rhai di-gymraeg yn eich plith yn fwy cyfarwydd ag enw\u2019r clwb fel \u2018Welsh Club\u2019 sydd yn ddigon teg ar sawl lefel, oherwydd ein bod ni oll yn ymgasglu gyda\u2019r nos yma ar y penwythnos! Dyma safle sydd yn aml yn cynnig gigs Cymraeg o\u2019ch hoff fandiau drwy gydol y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth ynghylch rhai o\u2019r artistiaid sydd wedi perfformio yno yn y gorffennol, ewch i\u2019r ystafell gyntaf ac fe welwch restr ddiddiwedd o artistiaid cyfarwydd. Peidiwch \u00e2 gadael heb ymweliad hollbwysig i\u2019r \u2018photobooth\u2019!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Croeso enfawr ichi i Gaerdydd! Dyma ddinas fywiog sy\u2019n llawn pethau i\u2019w gwneud. Ond mae ganddi hefyd elfennau cyfeillgar sydd yn addas i bawb! Dyma restr amrywiol o bethau i\u2019w [&hellip;]","protected":false},"author":1753,"featured_media":10142,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[758],"tags":[],"class_list":["post-10141","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymraeg"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10141","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1753"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10141"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10141\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10146,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10141\/revisions\/10146"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10142"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10141"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10141"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/insiders\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10141"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}