Skip to main content

Cymraeg

Y Daith o Ogledd Cymru i Caerdydd

30 Medi 2014

Teg Edrych Tuag Adref?

Wel helo ‘na! Steffan ydw’ i ac rwy’n astudio’r Gymraeg a Gwleidyddiaeth yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Alla’i ddim meddwl am well amser ichi ymuno â mi- ar ddechrau tymor newydd fel hyn- i ddilyn hynt a helynt blwyddyn sy’n addo bod yn un yn hynod lawn a chyffrous a dweud y lleiaf… Ar y tren rhywle ym mherfeddion Lloegr a hithau’n teimlo fel canol nos y tu allan, nid 8 o’r gloch ar nos Sul,ydw i’n ysgrifennu’r blogiad yma fel mae’n digwydd. “Beth a wnelo fanno â blog yn gwerthu Prifysgol Caerdydd?” meddech chi. Wel, er fy mod i’n bwriadu cadw’r blog yn un cadarnhaol (ond gonest,wrth gwrs), addas fyddai cael un o’r pethau gwaethaf am ddewis dod i Gaerdydd i mi allan o’r ffordd o’r dechrau’n deg: sef y siwrne hunllefus i gyrraedd yno ! Ar fy ffordd yn ôl i’r brifddinas ydw’ i wedi priodas deuluol yn fy ‘adra’ i- sef Ynys Môn, ac fel y bydd teithwyr cyson rhwng De a Gogledd yn ymwybodol, mae hynny’n golygu taith drên sy’n cwmpasu rhan fwyaf o ganolbarth Lloegr! Ai Myrddin ap Dafydd soniodd am “hunllef bedair awr” yn ei gerdd ‘Croesi’r Paith’? Wel mae hon yn agosach i hunllef bum awr a chwarter! P’un bynnag, efallai y cawn gyfle i drafod y daten boeth wleidyddol ydyw trafnidiaeth gyhoeddus Cymru a’r siwrne rhwng y De a’r Gogledd  rhyw dro arall; mi ydw’ i’n astudio Gwleidyddiaeth wedi’r cwbl…

Wrth agosáu tuag at Gaerdydd, gwell i mi sôn ychydig am yr hyn y gallaf addo ichi gyda’r blog. Rwy’n gobeithio gallu rhoi blas o’r cwrs a’r ochr academaidd ond rwy’n awyddus i adlewyrchu’r ochr allgyrsiol i bethau a hynny o ongl Gymreig a Chymraeg. Bydd gen’ i ddigon i sôn amdano wrth i mi ymgymryd o ddifrif â’m swydd fel Swyddog y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, cyd-olygu TafOd (adran Gymraeg y papur newydd i fyfyrwyr) a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil mynd i brifysgol mewn prifddinas gyda’i holl sefydliadau i rywun sy’n ymddiddori yn fy maes i. Bydd digon o gyfle ichi gael cipolwg ar fywyd myfyriwr Cymraeg yn ogystal- gyda digon o fwynhau wrth gwrs: tipyn o’r llwm a’r llon felly!

O.N. Mae’r llun o’r poster sy’n dwyn enw’r ddihareb yn un o’r ychydig bosteri a lluniau ayyb sydd gen i fyny yn fy stafell gan nad ydw i wedi cael cyfle i wneud fy stafell yn gartrefol eto wedi’r holl brysurdeb yn wythnos y Glas a’r ymweliad ag Ynys Môn dros y penwythnos…Serch hynny, mae’n braf tu hwnt cael bod yn ôl yng Nghaerdydd a hynny mewn ty am y tro cyntaf eleni yn hytrach na neuadd breswyl. Rwy’n siwr y bydd y stafell yr un mor gartrefol â gweddill y ty wrth i mi gael trefn ar bopeth yn fuan. Rhaid cyfaddef bod y siwrne bron yn angof ar ôl panad a dal i fyny hefo pawb yn y ty.Bron. O un adref i’r llall mae’n argoeli’n flwyddyn dda!