Skip to main content

Cymraeg

Wythnos gyda’r Gymdeithas Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd

22 June 2014

Mae rhaid i fi gyfadde ma yr wythnos dwetha nes i gwario yn Caerdydd oedd un o’r wythnose gore fi wedi cael yn y ddinas. Ac mae hynny yn diolch i’r Gym Gym. Cymdeithas i siaradwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd yw’r Gym Gym. Mae’r gymdeithas yn trefnu llawer o weithgareddau ar hyd y flwyddyn fel ein bod ni gyd yn gallu cymdeithasu gyda’n gilydd. Ar ddiwedd y flwyddyn mae’r Gym Gym yn trefnu 5 dydd o weithgareddau wahnol i ni gyd cyn ein bod ni gyd yn mynd adre am yr haf.

Diwrnod 1– Trip Dirgel. Roedd y trip dirgel yn ymweld a 2 lleoliad eleni, ac wrth i ni gyd cwrdd tu allan i Theatr Y Sherman am 9.30 i fynd ar y trip roedd pawb yn trial dyfalu lle on in mynd. Odd y siwrne i’r lleoliad cyntaf yn eithaf hir, ond roedd y cliwiau odd y llywydd yn rhoi i ni trwy gydol y siwnre yn cadw ni i bendroi lle on in mynd?! Odd llawer on in meddwl bo nin mynd i gyda’r cliwiau on in cael. Ond tua chwarter awr cyn cyrradd cafon ni wbod bod y cliwiau i gyd wedi bod yn celwydd llwyr a bo ni ddim yn hir cyn cyrraerdd. Folly Farm oedd lleoliad y trip!  Rhaid gweud odd e mor cwl mynd nol i Folly Farm gan bo fi heb bod na ers blynydde, a heblaw am y trip bydden i ddim wedi cael y cylfe i ymweld ar lle eto. Her y dydd oedd cael ‘Selife’ gyda anifel! Os odych chi eisiau edrych ar ein ymdrechion ni teipiwch yr hashtag  #tripdirgel i mewn i Twitter! Dyma attempts fi-

Fi, Mared ar Gafr..

Ar ol cael swper yn Abertawe, roedd e’n amser i fynd i’r ail leoliad! Yr ail leoliad odd PlayZone Abertawe. Rhaid gweud unwaith to joies i mas draw, a ar ol 3 awr o fod yna ‘odd pawb wedi blino yn llwyr ac roedd e’n amser i bwrw nol am y ddinas!

Diwrnod 2– Crol Cnau- Ma teitl y diwrnod hyn yn ddigon i ddisgrifio’r dydd. Crol o amgylch tafarndau Caerdydd yn dechrau am 10.30 Y BORE nes 10.30 y nos. Rhaid gweud on i ddim yn meddwl bydde’n in para trwy’r dydd ond fi’n prowd iawn o’r ffaith bo fi wedi cyrradd Clwb Ifor Bach, cyn dychwelyd am Chippy Lane am swper am 12.30 am bore Dydd Mercher. Nawr gan mae’r gym gym oedd wedi trefnu’r crol, oedd e ddim mor hawdd a jyst troi i fynny a joio, roedd gwahanol sialens ar gyfer pob bar!

Rhai enghreifftiau-

Tequlia shot yn y bar cyntaf (wrth gofio bod hi’n 10.30 y.b)

Neb i eistedd ar cadeiriau a pawb i eistedd ar llawr yn Lloyd’s

Roly Poly i fewn i Walkabout.. Dim siarad o gwbwl pan chi’n cyrradd y bar..

Rhaid gweud odd y sialensau gwahanol yn gwneud y dydd doniol iawn..

(Iste ar llawr Lloyds. . )

Diwrnod 3- Noson Elusenol! Yn anffodus on i ddim yn gallu mynd i’r Noson Eluseonol  ๐Ÿ™ Ond er hynny dwi yn gallu datgelu bod y Gym Gym wedi llwyddo codi ยฃ420 i’r elusen Ty Hafan! Da iawn bawb! Hefyd yn y Noson Elusenol roedd cyfle i brynnu Y Gymrinach-  Cylchgrawn gyda holl helyntion yn Gym Gym dros y flwyddyn!

Diwrnod 4– Swper Olaf a Ethol Pwyllgor Newydd Y Gym Gym. Nos Iau aeth cymdeithas y Gym Gym draw i’r Mochyn Du am farbeciw yn yr haul am ein Swper Olaf! Hefyd y noson yma roedd e’n noson i groesawu Y Pwyllgor newydd – Da Iawn i Pwyllgor Newydd y Gym Gym a cafodd ei ethol sef-Llywydd: Gethin Wynn Davies Is-lywydd: Rhys Myfyr Tomos, Ysgrifennydd: Mared Roberts, Trysorydd: Heledd Thomas! Nawr dwi ddim am ddatgelu llawer ond roedd hi’n noson i gofio.. (i ni, i rhai effalle ddim?!).

Y Brenin, Yr Ysgrifennyddes a ni ar ddiwedd y noson..

Joio yn Walkabout…..

Diwrnod 5- Crolaf ๐Ÿ™ Diwrnod dwethaf y Gym Gym, cyn i bawb mynd adre! I rhai aelodau o’r gymdeithas dyma’r crol olaf yn Nghaerdydd. Felly roedd rhaid i bawb gwisgo crys gwyn er mwyn i bawb cael ei arwyddo. ( Er bod pawb fod arwyddo y Crysau, fi’n siwr nath rhan fwyaf o’r Gym Gym ddihuno gyda mwy o Permanent Marker ar ei croen i gymharu a’i cryse.. cough cough.. GWENNO BOWEN haha!) Crol bach o amglych tafarndau Cathays oedd Crolaf cyn i bawb fynd i Oceana, lle nath y  Gym Gym cymeryd drosto y Disco Room.. Eto roedd hi’n noson dda, a chylfe dda i ddweud hwyl fawr wrth rhai ffrindiau a phob lwc i rhai erill wrth i bawb fynd adre Dydd Sadwrn!

Crolaf!

Fi a Mared- Crolaf ๐Ÿ™‚

Cyse Glan cyn mynd arCrolaf

Dydd Sadwrn- symud allan ๐Ÿ™ On in mor drist o orfod gadel Senghennydd! Fi wedi joio byw na, a wedi cwrdd a shwt gyment o fobol newydd! Ma fe wedi bod yn lleoliad perferth i fi, a bydd rhai fi codi yn gynharach blwyddyn nesa i fynd ir darlithoedd.. haha. Ond er hynny.. fi di cal shwt gyment o amsere da ma, a odd e’n mor drist gorfod paco popeth lan a gadel am y tro dwethaf..

Druan a’r car bach, odd ddim gobeth rhoi un peth arall yndo fe.. Plus odd y taith adre mor anghyfforddus, on i mor squashed..