Skip to main content

Cymraeg

Astudio Meddygaeth; Wythnos y Gymraeg

16 Hydref 2020

Helo!

Megan Prys Evans ydw i, myfyrwraig feddygol yng Nghaerdydd. Dwi newydd ddechrau ar fy nhrydedd flwyddyn ac yn mwynhau bob eiliad ar hyn o bryd. Yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn nid oedd llawer o amlygiad clinigol, oddeutu un diwrnod bob pythefnos. Mae hyn wedi newid yn hollol yn y drydedd flwyddyn gan ein bod ni rwan hefo wythnos o ddarlithoedd yn cael ei ddilyn gan bloc wyth wythnos ar leoliad.

Mae tri bloc gwahanol o fewn y drydedd flwyddyn, ar hyn o bryd rwyf yn gwneud bloc ar glefydau cronig mewn meddygfa teulu yng nghanol Caerdydd. Mae’r lleoliad yn wych gan fy mod yn gallu cerdded yno ac mae’n bosib i fi gerdded o amgylch parciau Caerdydd yn ystod fy awr ginio. Dwi’n agosáu at hanner ffordd trwy’r bloc gyntaf a dwi’n teimlo fel fy mod yn rhan o’r tîm. Mae’n wych ein bod ni’n cael aros am yr wyth wythnos gan ein bod yn dod i adnabod y staff yn dda a hefyd yn cael gweld cynnydd mewn cleifion. Ar leoliadau eraill rydym wedi bod; rydym yn cyfarfod claf, ond wedyn byth yn cael dilyn eu taith. Er enghraifft, o’r blaen os oedd claf yn dod i mewn ac yn cael ei yrru am brofion gwaed, nid oedden ni’n ffeindio allan beth oedd yn digwydd, ond erbyn hyn mae’n bosib i ni ddilyn y daith.

Hefo achosion COVID-19 yn codi yn ei niferoedd eto mae’n gallu fod yn frawychus fod ar leoliad. Mae’r panig yno fod gen i’r feirws heb symptomau, ac yn gallu ei basio i glaf bregus. Mae’r brifysgol yn cynnig gwasanaeth sgrinio am y feirws sydd yn cynnwys sampl o boer ac mae’n dod yn ôl o fewn 48 awr. Mae hyn yn wasanaeth gwych ac yr wyf wedi bod yn ei ddefnyddio yn wythnosol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydw i yn rhoi claf bregus mewn perygl. Mae gan y feddygfa teulu system wych hefyd lle maen nhw’n cymryd tymheredd cyn i glaf ddod i mewn ond mae nhw hefyd yn trio lleihau faint o gleifion sydd yn dod i mewn. Mi rydan ni hefyd yn trio lleihau’r lledaeniad drwy wisgo ‘scrubs’ ac hefyd yr PPE i gyd. Mae rhan fwyaf o ymgynghoriadau dros y ffon ond os yw’r doctoriaid yn teimlo fel ei bod angen gweld y claf maen nhw’n dod i mewn bryd hynny. Roeddwn yn helpu allan hefo’r clinig ffliw wythnos diwethaf ag yr oedd hynny i gyd yn cael ei wneud tu allan er mwyn lleihau’r siawns o ledaenu’r feirws. Roedd hyn yn brofiad gwych er mwyn datblygu fy sgiliau clinigol a hefyd yn teimlo fel fy mod yn helpu’r rhai sydd â risg uchel adeg yma’r flwyddyn.

Mae hi’n wythnos Gymraeg bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae’n bwysig iawn i unrhyw un Cymraeg o fewn gofal iechyd i wisgo’r bathodyn oren er mwyn gwneud hi’n haws adnabod y rhai sydd yn siarad Cymraeg. Mae hi’n deimlad ofnadwy gorffen ymgynghoriad hefo claf ac wedyn sylweddoli bod nhw’n siarad Cymraeg. Rwy’n astudio rhan o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg ac wedi derbyn ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg, sydd wedi rhoi hwb a chynyddu fy hyder o allu cynnal ymgynghoriad yn y Gymraeg a defnyddio termau dwy-ieithog. Dwi ar leoliad yn mis Mai o fewn bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ag y gobaith yw gallu ddefnyddio’r sgiliau yr wyf wedi eu datblygu, a siarad hefo cleifion yn ei mamiaith gan nad wyf yn cael cymaint o gyfleoedd lawr yma yng Nghaerdydd. Mae’n bwysig medru rhoi gwasanaeth Cymraeg yma yng Nghymru.

Gobeithio bod hyn wedi rhoi blas i chi o fy amser ar leoliad hyd yn hyn yn y drydedd flwyddyn.

Megan