Skip to main content

Cymraeg

Haf 2013 – Prifysgol Caerdydd

9 Mehefin 2013

Dwi wedi gorffan yr ail flwyddyn ers chydig wythnosau a wan dwin rhydd am yr haf a ma hynny yn golygu 4 mis! Dwin sgwennur blog ma mewn hostel yn Croatia ar y funud a dwi am i chi wbod nad oes na gollnod na acan grom ar yr allweddell felly ymddiheuriada am y gwalla bler. Dwin cal amsar gret ma, mor, haul a dim gormod o haul syn hollol gyfleus i rhywun hollol wyn a gwallt coch fel fi! Dwi yma hefo Sara, ffrind coleg a dani wedi bod yn dal trena ar draws tiroedd Ewrop, cyfnod o 3 wythnos i gyd. Dwi erioed wedi gneud hyn or blaen ond dwin gwbod rwan mod in bendant isio mwynhau yr un profiad eto. Dwi wedi dod ir canlyniad hefyd nad oes na bwynt aros mewn gwestai posh, wir yr, ma hostels llawer mwy cymdeithasol a mi ydach in cyfarfod pobl o bob cwr or byd sydd yn yr un sefyllfa a chi a felly syn awyddus i gymysgu a sydd isio dysgu amdanoch chi ach diwylliant chi. Mi ydan i eisoes wedi bod yn Amsterdam, dal tren i Berlin, yna i Prague, Budapest, Croatia a heno mi fyddan ni yn croesi ar gwch ir Eidal er mwyn ymweld a Florence a Rhufain. Ma hynny yn swnio yn llwyth ond man bosib gneud petha fel hyn o fewn pris hollol resymol pam dachin sdiwdant wrth brynu tocynna i fyfyrwyr aballu. Mi fydd fy nghyfrif banc in diodda ar ol dod adra ond mi fydd gen i ddigon o amser i weithio felly waeth oedd manteisio ar y cyfla ddim a dwin cal profiad gora fy mywyd hyd yma! Mi wna i fellay ddweud pwt bach am bob man dwi wedi ymweld a hwy hyd yma.

Amsterdam; cyrraedd Amsterdam ar ddwy ohonom ni wedi ein weindio braidd yn sgil yr holl ryddid a chyffro. Ffwrdd a ni ir hostel i gadw ein pethau, ymlaen ir dafarn a thrio chwrw yr Iseldiroedd am y tro cynta- digon a amrywiaeth a gwydra anferth- digon o reswm i dynnu llwyth o lunia ohonan nin dangos ein hunain! Wedyn cerdder ar hyd y camlesi a phenderfynu mynd ar gwch ar hyd y gamlas. Dynar foment ir ddwy ohonom ni sylwi ein bod ni wedi ei dal hi ychydig yn fwy nac oeddem ni yn ei feddwl. Ar ein atyniad cyntaf fel twristiaid mi ddisgynodd y dwy ohonom ni i gysgu. Yr oll dwin ei gofio ydi y person wrth y llw yn gweiddi “Wake up, Wake up”. Am gwilydd, ond dwin siwr bod hon yn stori wneith aros yn y cof am byth! Sobri a myn i dy Ann Frank oedd y cam nesaf, profiad wneith aros gyda fi am byth ac yn sicr llwyddodd yr arddangosfa i wneud y profiad yn fyw a theimladwy iawn. Be wnaeth fy nharo i fwyaf am y lle oedd y cyfweliadau fideo gyda ffrindiau Anne, a rheini yn son am bob ochr iddi, ei ffordd di flewyn ar dafod, ei hafiaith ar ochr mwy difrifol iddi. Mi lwyddodd hynny i roi darlun llawer mwy crwn o berson go iawn yn hytrach nag Iddew ifanc yn sgwennu am ei phrofiadau. Y diwrnod wedyn, beicio trwyr parc yn y tywydd braf- hyfryd. Mi aethon ni allan yn y nos fyd a doedd dim posib mynd i Amsterdam heb weld y “Red Light District” a do welson ni bob math o bethau.

Berlin- Mi wnes i wirioni ar Berlin yn bennaf achos nad oeddwn in gwybod beth i ddisgwyl. Mi oeddwn i hefor darlun yma yn fy mhen o ddinas itha diflas, llwydaidd yn llawn arddangosfeydd a phlaciau coffa am y rhyfel. Mi oni yn anghywir. Mi oedd y lle yn ifanc ac yn llawn bwrlwm. Mi oedd yr hostel yn wych a mi wnaethom ni gyfarfod a Americanwyr hollol hyfryd. Mi aethom ni ar daith o amgylch y ddinas gyda arweinydd a ma hi yn ddinas hollol ddiddorol hefyd. Ymweld a synagog a roddodd ddarlun i ni or gymuned Idddewig yn yr Almaen, man coffa yr Iddewon, gweddillion wal Berlin, museum island ac ati a waliau syn cynnwys graffiti syn nodweddiadol o Berlin. Mi oedd yna gymaint i weld yma ac yn bendant mi fydda i yn mynd nol.

Prague: Mi oedd hin bwrw. A nid dim ond bwrw. Ond bwrw nes oedd y glaw yn diferu on rucksacks an crwyn ni. Socian. Ond ni wnaeth hynny amharu ar ein mwynhad ni o Prague. Er na chredaf fod cymaint i weld yno a Berlin, mi oedd yr adeilada yn hynod drawiadol a mi oedd yna wyl cwrw ymlaen yr un pryd. Esgus fellu i fod mewn lloches rhag y glaw, a chael seibiant o lusgo ein traed socian ar y strydoedd culion, creigiog i sychder pebyll yr wyl gwrw. Doedd wedyn ddim ots o gwbl am y glaw a mi oedd Prague yn lwyddiant.

Budapest- Dwi isio mynd nol yno yn barod. Y teimlad o fod yma oedd y profiad mwyaf dieithr i mi, a mi oeddwn in teimlo mod i mewn rhan o Ewrop nad oeddwn i yn ei adnabod, Mi wnaeth tlodi fy nharo in syth ac er i mi siarad a phobl o Budapest ar fy nhaith a ddywedodd nad oedd Bwdapest neu Hwngari yn dlawd, yn sicr dynar teimlad brofais i wrth gymharu ag adref. Wnes i deimlo mod i wedi cael profiad tu hwnt i fynd i atyniadau twristaidd yma wrth wneud pethau syml fel dal y metro ac ati. Mi oeddech chin cael mwy o flas or bobl go iawn. Uchafbwynt Budapest oedd mynd i sba traddodiadol lle roedd dynion lleol yn chwarae gwyddbwyll. Profiad a hanner.

Ac ar y funud din mwynhau yn Croatia a wedi treulio echddoe yn rafftio dwr gwyn a nofio mewn ogofau. Uchafbwynt Crotiad heb os, mar tirwedd mor drawiadol, mor clir a llynnoedd hardd. Mae r amrywiaeth yn fy atgoffa i o Gymru ychydig bach. Yr Eidal nesaf- adawa i chi wybod! Sori eto am y gwalla, cyfrifiaduron Croatia chydig yn wahanol!