Ail flwyddyn

Haf 2013

Posted on 9 June 2013 by Anna

Dwi wedi gorffan yr ail flwyddyn ers chydig wythnosau a wan dwin rhydd am yr haf a ma hynny yn golygu 4 mis! Dwin sgwennur blog ma mewn hostel yn Croatia ar y funud a dwi am i chi wbod nad oes na gollnod na acan grom ar yr allweddell felly ymddiheuriada am y gwalla
Read more


Tafod: Adran Gymraeg papur newydd Gair Rhydd

Posted on 26 May 2013 by Anna

Iawn, ma gan Brifysgol Caerdydd bapur newydd wythnosol o’r enw “Gair Rhydd”  sy’n cynnwys Adran Gymraeg ynddi o’r enw Tafod.  Ma’n bapur cyffrous, yr adran Saesneg sy’n cynnwys newyddion gwleidyddol, chwaraeon, prifysgol aballu, a ma’ Tafod yn adran bwysig iawn i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith- ac yn cynrychioli ein bod ni’n bod hefyd! Yn sgil
Read more


Nôl yn y ddinas! :)

Posted on 29 April 2013 by Anna

Ymddiheuriadau lu am fod mor ara’n blogio dros yr wythnosa dwetha ‘ma.  Y rheswm am hyn ydi ei bod hi wedi bod yn gyfnod itha prysur o sgwennu traethoda.  A doni ddim chwaith  am sgwennu blog arall yn parablu am fy narganfyddiada’ I o geisio neud gwaith drwy yfad te gwyrdd  a gwrando ar gerddoriaeth
Read more


Gwylia Pasg

Posted on 5 April 2013 by Anna

Dwi am fod yn blaen ac i’r pwynt.  Sgen i affliw o ddim diddorol i dde’ud wrthoch i yn yr eiliad presennol yma.   Ond dyna ni.  Y gwych a’r gwachul o fywyd stiwdant di’r blog yma am fod. Mi wna’i grynhoi: Y gwych =  joio Y gwachul =sgwennu traethoda Ac yn anffodus ma’r Pasg yn
Read more


Semester mewn chydig eiria… wel bron iawn!

Posted on 28 March 2013 by Anna

Dwi newydd dorri ffwrdd am y pasg a dwi wir ddim isho mynd heb flogio am rai o uchafbwyntia’r tymor.  Mashwr gen i y cewch i’ch diflasu am fy hanas i’n trio sgwennu traethoda dros y pasg yn itha buan (dwi’m isho chi gal cam-argraff o fywyd y ddinas).  Felly dyma ni!!  Uchafbwyntia’r Gym Gym
Read more