Cymraeg

Tafod: Adran Gymraeg papur newydd Gair Rhydd

Iawn, ma gan Brifysgol Caerdydd bapur newydd wythnosol o’r enw “Gair Rhydd”  sy’n cynnwys Adran Gymraeg ynddi o’r enw Tafod.  Ma’n bapur cyffrous, yr adran Saesneg sy’n cynnwys newyddion gwleidyddol, chwaraeon, prifysgol aballu, a ma’ Tafod yn adran bwysig iawn i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith- ac yn cynrychioli ein bod ni’n bod hefyd! Yn sgil hynny, mi wnes i ddechra sgwennu erthygla ar gyfer Tafod dros y tymor diwetha, a oni’n meddwl y baswn i yn eu postio nhw fan hyn i chi er mwyn dangos y math o betha allwch i gymryd rhan ynddyn nhw yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol.   Ma’n deimlad reit braf gweld yr erthyglau wedi eu golygu mewn print o dan eich enw hefo lluniau perthnasol i’r stori hefyd.  Dyma’r erthygla’ sgwennais  i (petaech i eisiau sgwennu i Tafod unrhyw bryd, ma’r papur wastad yn chwilio am sgwennwyr a ma’r rhyddid yno i chi yn gyfan gwbl o ran dewis stori):

 

Nid da lle gellir gwell? Maes B: Cyhoeddi’r Lein-yp a’r newidiadau

Ar raglen radio Lisa Gwilym ar yr 8fed o Fai, cyhoeddwyd pwy fydd yn chwarae ym Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a’r cyffuniau eleni.  Yr uchafbwynt fydd gig olaf Dafydd Iwan a’r Band a gynhelir ar y nos Sadwrn olaf.  Meddai Guto Brychan, Trefnydd Maes B: “Mae hwn yn ddiwedd cyfnod i ni yng Nghymru a’r teimlad oedd y dylid nodi hyn trwy gynnig y slot olaf ym Maes B eleni i Dafydd a’r Band.  Bu Dafydd yn gefnogwr brwd o Faes B ers blynyddoedd, ac mae’i ddylanwad yn dal i’w weld yng ngwaith nifer o berfformwyr heddiw.”

Yn cefnogi Dafydd Iwan yn ystod y dathliad arbennig a’I noson fawreddog fydd Y Bandana, Al Lewis a’r Bromas.  Ymateb gymysg a gafodd y penderfyniad I gyflwyno prif noson ieuenctid yr ŵyl I Ddafydd Iwan ar wefan Twitter.  Wrth gwrs, mae’n hawdd  deall hynny wrth ystyried na fyddai dilynwyr y sîn heddiw o bosib  yn ei gatagoreiddio fel rhan o artistiaid cynhyrchiol Sin Roc Gymraeg y presennol.  Ond, ni ellir gwadu cefnogaeth Dafydd Iwan I Faes B dros y blynyddoedd, a pharhau mae ei apêl I gynulleidfaoedd hen ac ifanc Cymru. Yn sicr, fel y dywed ei hun; “Yma o Hyd” y mae Dafydd Iwan ac edrychaf ymlaen I weld sawl cenhedlaeth yn mentro I Faes B ar Sadwrn olaf yr Eisteddfod i’w glywed yn canu rhai o’I eiriau chwedlonol am y tro olaf.

Dathlu artistiaid hen a newydd fydd Maes B eleni felly a disgwyliwn I fwynhau amrywiaeth o fandiau ifanc ac amrywiol yn ôl eu genres.  Mwynhau noson o fandiau byw amlycaf y sîn a wnawn ar y nos Wener.  Yn arwain y noson fydd Yr Ods ac yn cefnogi fydd y Candelas, Gwenno, Gwyllt ac Y ffug – cyfuniad o’r hen stejars a bandiau  fydd yn profi gwefr llwyfan Maes B am y tro cyntaf.  Noson llawer mwy gwerinol ac ymlaciol fydd y nos    Iau gyda  Cowbois Rhos Botwnnog yn arwain a Colorama, Sen segur, plant duw a’r triawd gwerinol Plu yn cefnogi.  Mynd nôl at ei gwreiddiau y mae Maes B ar ei noson agoriadol sef y nos Fercher trwy eto gyflwyno rhai o fandiau byw gorau Cymru gan gynnwys Hud, Swnami, r.seiliog, violas a Y Reu.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Maes B wedi profi beirniadaeth chwyrn am yr arlwy gerddorol a gynigir ganddi, trefniant y gigiau ac yn bennaf oll y gynulleidfa a dargedir gan yr ŵyl.  Yn sicr, mae Maes B yn denu ystod oedran eang o ieuenctid Cymru gyda’r oedran o bosib yn ymestyn o 14-24 ar gyfartaledd.  Tasg anodd yw plesio pawb felly ac anochel bron yw’r cwynion a’r hollt rhwng ieuenctid dan ddeunaw a dros ddeunaw sy’n honni nad oes darpariaeth ddigonol ar eu cyfer.  Mewn gwirionedd, ymddengys nad yw’r broblem yma’n deillio o Faes B a’r gigiau ei hun, ond yn hytrach o’r maes ieuenctid sef safle campio maes B lle gwelir yr ystod oedran eang hwnnw’n campio yn yr un cae.

Yn sgil cwynion syrffedus cynulleidfa Maes B flwyddyn ar ôl blwyddyn, eleni cynhaliwyd adolygiad gan drefnydd yr ŵyl Guto Brychan er mwyn gwella’r ddarpariaeth.  Gofynwyd I ieueunctid Cymru o bob oed I lenwi holiadur ar sail eu barn hwy am un o ddigwyddiadau cerddorol mwyaf y Sîn.  Meddai Guto Brychan: ““Ond nid da lle gellir gwell, ac fe gododd nifer o bobl rai pethau yr hoffent eu gweld yn cael eu datblygu neu’u gwella, ac rydan ni wedi gwrando ac wedi mynd ati i geisio gwella’r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc o 16 oed i fyny.  Gobeithio y bydd y newidiadau hyn yn cael croeso eleni yn Sir Ddinbych, ac fe fydd rhagor i ddod y flwyddyn nesaf pan gynhelir yr Eisteddfod yn Sir Gâr.”

Beth yw’r newidiadau felly?

  • Creu gofod arbennig ar gyfer pobl ifanc ar y Maes dan y teitl Caffi Maes B, gyda rhaglen o weithgareddau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys sesiynau cerddorol, sgyrsiau a gweithgareddau anffurfiol. Bydd hefyd yn lle i bobl ifanc ddod i ymlacio a chymdeithasu;
  • Ystyried cynnig mynediad rhatach i Maes B ar gyfer unrhyw un gyda thocyn Maes dilys am y diwrnod hwnnw;
  • Defnyddio fflagiau, baneri a ‘bunting’ er mwyn addurno’r ardal a chreu rhagor o ymdeimlad o ŵyl;
  • Parhau i gynnal Maes B ar y Maes ddechrau’r wythnos gyda’r ŵyl yn symud i Faes Pebyll Maes B o’r nos Fercher ymlaen;
  • Defnyddio pabell ‘Big Top’ heb ochrau ym Maes B yn 2013.

 

Heb os y mae addurno’r ŵyl â fflagiau a defnyddio phabell “Big Top” yn swnio’n addawol.  Y gobaith yw y bydd yn creu mwy o deimlad eich bod yn rhan o ŵyl safonol.  Er hynny, yn bersonol a tybiaf y bydd llawer ohonoch yn cytuno â mi, byddai gwella’r ddarpariaeth hylendid gan gynnwys y toiledau a’r cawodydd yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i fwynhad ieuenctid Cymry o Faes B ac arlwy gerddorol y Sîn!  Ond am rŵan, edrychaf ymlaen am gyfuniad o gerddoriaeth gyffrous sy’n amrywio o don y Swnami I’r gŵr chwedlonol hwnnw, Dafydd Iwan.

 

Tafod

Adolygiad: Y Bont

Anna George

“Roeddem ni am greu stwr a herio”.  Dyna a ddywedwyd gan un o brotestwyr pont Trefechan ynglŷn ag amcanion protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith.  Cynhaliwyd y brotest ar Bont Trefechan a leolir ar gyrion Aberystwyth ar yr 2il o Chwefror 1963, bron flwyddyn wedi darlith arloesol Saunders Lewis, Tynged yr Iaith.

Felly, ar yr 2il o Chwefror 2013 roedd hi’n hanner can mlwyddiant ers i 30 o fyfyrwyr ymgynnull ar Bont Trefechan i gynnal protest eistedd a fyddai’n cau’r brif ffordd i’r dre o gyfeiriad y de.  Y bwriad oedd dangos dyhead angerddol.  Dyhead i’r  Gymraeg, iaith etifeddiaeth y Cymry fyw ac i ddangos yr angen am statws swyddogol i’r Gymraeg, statws a fyddai’n sicrhau ei pharhad.  Ym mhlith y protestwyr oedd rhai o fawrion y genedl heddiw gan gynnwys y newyddiadurwr Meic Stephens a’r bardd Aled Gwynn.   Yn sicr, er mai protest dawel oedd hi i raddau nid oes amheuaeth dros ei harwyddocad.  Llwyddodd i arddangos mai trwy ddulliau heddychlon y byddai’r gymdeithas yn ymgyrchu ond yn bennaf oll, llwyddodd i droi tudalen newydd yn hanes y genedl trwy ddangos parodrwydd pobl ifanc i frwydro ac ymgyrchu am hawliau i’r Gymraeg.

I ddathlu 50 mlynedd ers protest Pont Trefechan, ar y 3ydd o Chwefror llwyfannodd Theatr Genedlaethol Cymru ddrama unigryw yn y fan a’r lle y cynhaliwyd y brotest.  Cafodd y brotest ei hailgreu trwy berfformiad gan fyfrwyr drama colegau Cymru gan gynnwys Morgannwg, Aberystwyth a’r Drindod a feddiannodd strydoedd Aberystwyth, ac wrth gwrs y man arwyddocaol hwnnw, y bont.  Cyfoesedd y cynhyrchiad oedd plethu theatr byw gyda ffilm, technoleg ddigidol a chyfryngau cymdeithasol. Mwynhaodd y gynulleidfa brofiad unigryw wrth iddynt gael eu hebrwng o fan cychwyn y sioe sef y Ganolfan Gelfeddydol i fflyd o fysiau hen ffasiwn a’u cludodd ar hyd strydoedd y dref i wylio’r perfformwyr yn ail greu’r brotest.  Ail greu’r brotest  drwy osod posteri slogan “defnyddiwch y Gymraeg” ar y waliu a chlywed atgofion y protestwyr gwreiddiol drwy’r clust-ffonau.  Diwedd y daith i’r gynulleidfa oedd cyrraedd y bont lle gwelwyd yr actorion yn dynwred gwrthsafiad y protestwyr gwreiddiol.  Mae’n deg dweud mai ymateb gymysg a gafodd y cynhyrchiad gan y gynulleidfa.  Yn ôl adolygiad yr awdur Jon Gower ohono roedd yn gynhyrchiad teimladwy, rhyfeddol  ac uchelgeisiol gyda hanes y brotest yn holl bresennol. Er hynny, nid oedd pawb am groesawu cynhyrchiad o’r fath â dwylo agored.  Dywedodd Robat Gruffudd, awdur a ggymerodd ran ym mhrotest 1963 ei fod yn amau a fydd  “gwibio pobol rownd Aberystwyth mewn hen Morris Minors er mwyn cael paneidiau mewn caffis” yn gwneud i bobol ddeall mwy am yr hyn ddigwyddodd ar Chwefror 2 1963.  Yn sicr mae cynhyrchiad aml haenog y theatr wedi codi proffil protest pont Trefechan ac ni ellid wedi amseru’r cynhyrchiad yn well.  Yn dilyn canlyniadau siomedig cyfrifiad 2011, gellid dadlau fod cynhyrchiad y theatr o’r brotest bron mor arwyddocaol a’r brotest ei hun.  Carfan o fyfyrwyr yn ymgynnull i actio dyhead myfyrwyr y gorffennol i fyw yn y Gymraeg.  Mae’n bosib iawn nad oedd rhaid iddynt hwythau actio’r emosiynau dwfn hynny fel y cyfryw – cynhaliwyd rali Cymdeithas yr Iaith “Byw yn Gymraeg” y diwrnod cynt fel ymateb i ganlyniadau’r cyfrifiad a byddai’r myfyrwyr hynny a gymerodd ran yn y cynhyrchiad yn siŵr o fod yn bresennol gan fynegi eu dyhead hwythau i ddefnyddio’r Gymraeg.

Ymlaen â mi felly at ddrama-ddogfen Y Bont a ddarlledwyd ar s4c ar y 7fed o Ebrill.  Yn lwcus iawn i rai fel fi na fuodd ddigon lwcus i fwynhau’r perfformiad byw, cydweithiodd S4C a’r Theatr Genedlaethol gyda’i gilydd am y tro cyntaf.  Mae drama-ddogfen Y Bont a ddarlledwyd ar s4cwedi ei seilio ar ddigwyddiadau diwrnod arddangos y perfformiad.  Y prif gymeriadau yw Dwynwen, cyflwynydd a chynhyrchydd teledu a’i hangerdd dros yr iaith yn holl bresennol, a’i chyn gariad Kye sy’n Gymro o Ferthyr Tydfil a fagwyd ar aelwyd ddi-gymraeg. Mae yntau’n teimlo ei fod wedi ei alltudio o fyd y Cymry Cymraeg.  Drwy gyplysu stori garu gyda olhrain hanes protest pont Trefechan llwyddir i bortreadu’r anhawsterau sy’n wynebu’r Gymraeg heddiw.  Darlunir y tensiynau rhwng y Cymry di-gymraeg a’r Cymry Cymraeg yn effeithiol yn yr olygfa lle gwelir Kae yn cyfarfod â Chymro di-Gymraeg o’r Rhondda yn y dafarn.  Yr eironi yw fod y gŵr yma wedi eistedd ar bont Trefechan yn 1963 ond hanner can mlynedd yn ddiweddarach mae’n parhau’n Gymro di-Gymraeg.   Awduron y sgript yw Catrin Dafydd, Ceri Elen, Angharad Tomos ac Arwel Gruffydd .  Er nad yw’r ddeialog yn sylweddol, cyfleir y tyndra rhwng y Gymraeg a’r di Gymraeg drwy gynildeb y dweud, newid golygfeydd yn sydyn,  saethiadau camera trawiadol o’r môr a’r defnydd o sain.  Ar yr un pryd, llwyddir i gofnodi hanes y brotest drwy ddarluniau o’r brotest gwreiddiol a phrotest ffug y theatre genedlaethol.  Yn aml iawn mae lleisiau’r protestwyr gwreiddiol yn gefndirol i’r lluniau sy’n ychwanegu at y profiad.

Torri cwys newydd  mae cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol ac S4C o “Y Bont”.  Os mai “herio” oedd bwriad y protestwyr gwreiddiol, “herio” hefyd wnaeth y cynhyrchiad aml-gyfrwng yma. Rhydd neges glir i Gymry heddiw-defnyddiwch y Gymraeg.

Comments

No comments.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *