Kubos Semiconductors: goleuo’r ffordd drwy arloesi ym maes microLEDs
24 Hydref 2024Boed yn ffonau clyfar, yn llechenni, yn lloerennau neu GPS, mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn pweru’r dyfeisiau a’r technolegau rydyn ni’n eu defnyddio heddiw. Mae ymchwil Kubos Semiconductors yn arloesi o ran datblygiadau newydd yn y maes hollbwysig hwn.
Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn chwarae rhan hanfodol mewn technoleg fodern gan eu bod yn allyrru ac yn derbyn golau, yn gweithio mewn dyfeisiau pŵer uchel ac yn rhan annatod o dechnolegau cwantwm, a bydd y rhain yn mynd yn bwysicach byth ym maes deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol a roboteg yn y dyfodol.
Mae Kubos Semiconductors yn arwain ym maes arloesi lled-ddargludyddion ac yn canolbwyntio ar dechnoleg LED uwch. Maen nhw’n arbenigo mewn deunyddiau ciwbig Galiwm Nitrad (GaN), sy’n hybu effeithlonrwydd a pherfformiad LEDs, yn enwedig microLEDs coch. Mae’r dechnoleg hon yn datrys problemau o bwys fel effeithlonrwydd isel microLEDs coch sy’n bwysig ar gyfer dyfeisiau realiti estynedig (AR) a realiti rhithwir (VR) gan eu bod yn hollbwysig yn y gwaith o greu sgriniau arddangos hyfyw a throchol.
Ymunodd Kubos Semiconductors â chymuned Arloesedd Caerdydd yn sbarc|spark yn gynharach eleni. Buon ni’n siarad â’r Prif Swyddog Gweithredol Caroline O’Brien, arbenigwraig ym maes lled-ddargludyddion, am y gwaith y mae Kubos Semiconductors yn ei wneud, a beth mae bod yng nghanol campws Prifysgol Caerdydd yn ei olygu iddyn nhw.
Yr hyn a wnawn
“Mae Kubos Semiconductors yn datblygu Cubic GaN, sef deunydd cyfansawdd newydd a ddefnyddir mewn lled-ddargludyddion. Mae gan y deunydd hwn, a warchodir gan batent, nodweddion ffisegol unigryw sydd â manteision cost a pherfformiad sylweddol sy’n well na’r dechnoleg sy’n bodoli eisoes ym maes microLEDs gwyrdd a choch.
Gellid defnyddio’r dechnoleg, a fwriedir ar gyfer dyfeisiau a sgriniau arddangos LED golau gweladwy, i wella dyfeisiau a sgriniau arddangos microLED coch mwy effeithlon ym maes AR/VR, yn ogystal ag ym maes cyfathrebu, electroneg pŵer ac amledd radio yn y dyfodol. Mae’r deunydd yn cael ei dyfu’n epitacsiaidd gan ddefnyddio cyfarpar safonol y diwydiant a’i brosesu ar swbstradau silicon diamedr waffer 150mm, ond mae modd ehangu hyn i 200mm a mwy.”
Ein cartref newydd
“Mae dod â Kubos Semiconductors yn nes at ein partneriaid a bod yn rhan o Glwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd De Cymru yn gam nesaf pwysig yn ein datblygiad, yn enwedig gan ein bod yn gwmni lled-ddargludyddion nad yw’n ffabrigo.
Mae lleoliad y swyddfa hon yn sbarc|spark yn golygu ein bod yn agos iawn at ble rydyn ni’n tyfu ein deunydd epitacsiaidd ac yn prosesu ein LEDs yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn y Ganolfan Ymchwil Drosi. Mae’n rhoi inni beth wmbreth o arbenigedd academaidd a chyfleusterau ymchwil uwch a fydd yn ddi-os yn arwain at ragor o ddatblygiadau arloesol ym maes technolegau GaN, gan wthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl o ran perfformiad ac effeithlonrwydd lled-ddargludyddion.
Mae hefyd yn rhoi’r potensial inni gydweithio â chwmnïau blaenllaw eraill sy’n arloesi yn y DU a bydd yn sicr yn ein helpu i gyflymu ein cynlluniau datblygu.”
Beth fydd nesaf
“Mae Kubos yn canolbwyntio ar baratoi arddangoswr microLED coch cyntaf y byd gan ddefnyddio GaN ciwbig i’w lansio yn ystod Wythnos Arddangos 2025. Ar ben hynny, byddwn ni’n rhoi’r newyddion diweddaraf am ein prosiectau cydweithio â’n partneriaid diwydiannol a’r ymrwymiadau masnachol drwy gydol 2025 wrth inni wella effeithlonrwydd y deunydd a datblygu’r cynnyrch.”
Rhagor o wybodaeth
Dewch i ddysgu rhagor am y gwaith y mae Kubos Semiconductors yn ei wneud drwy ymweld â’u gwefan, neu eu dilyn ar LinkedIn.
Dyma ragor am y cyfleoedd sydd ar gael yn labordai, swyddfeydd a lleoedd cydweithio Arloesedd Caerdydd.