Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Sbarduno darpar strategaeth arloesi Cymru

21 Mawrth 2022
Cardiff University Spark Building

WALES NEWS SERVICE
Cardiff University Spark Building WALES NEWS SERVICE

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n trefnu rhaglen o weithgareddau i helpu i lywio a gwella polisïau ac arferion arloesi yng Nghymru. Mae rôl parciau gwyddor yn y gwaith o gyflawni strategaethau arloesi’n cael ei hystyried yn rhan o’r rhaglen hon ac yn cyd-fynd ag agor sbarc|spark a Pharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) ar Gampws Arloesedd Prifysgol Caerdydd. Yma, mae’r Athro Rick Delbridge, cynghorydd arbennig i Lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar arloesi, yn esbonio’r canfyddiadau diweddar i ni.

“Mae’r rhaglen hon gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru’n amserol am nifer o resymau. Yn y DU, rydym wedi gweld cyhoeddiad strategaeth arloesi’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, y cynnydd ym mhwysigrwydd agenda sy’n seiliedig ar leoedd (yn enwedig drwy’r Papur Gwyn ar Godi’r Gwastad) ac ymrwymiad Llywodraeth y DU yn yr Adolygiad o Wariant i gynyddu gwariant ar ymchwil a datblygu 35% i £20 biliwn dros y tair blynedd nesaf.

Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru’n adolygu ei pholisïau arloesi ac wrthi’n datblygu strategaeth arloesi drawslywodraethol integredig newydd. Bydd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) hefyd yn newid y dirwedd ar gyfer ymchwil ac arloesi ym maes addysg uwch.

Yn ystod ein cyfarfod gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru ym mis Ionawr, ailbwysleisiwyd bod arloesi’n dibynnu ar leoliad a bod parciau gwyddor yn gallu chwarae rôl hollbwysig yn y gwaith o annog a hwyluso arloesi, gan gynnwys ysgogi datblygiad economaidd yn rhanbarthol. Clywsom gan enghreifftiau yng ngogledd, gorllewin a de Cymru, ac roedd gan bob un ohonynt rywbeth gwahanol i’w gynnig. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ardaloedd sy’n awyddus i annog arloesi drwy barciau gwyddor allu denu talent, cyfalaf a busnesau arloesol.

Y barn gyffredinol oedd bod angen lleoliad penodol i allu arloesi ar raddfa fawr. Wrth ystyried yr hyn a allai fod yn wahanol am gynigion gwahanol fannau arloesi yng Nghymru, tynnodd y cyfranogwyr sylw at y potensial i gynnig ansawdd bywyd gwell a chydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith na rhai o’r parciau gwyddor mwyaf a mwyaf llwyddiannus mewn rhannau eraill o’r DU.

Yn ogystal â hyn, dywedwyd bod cyfleusterau fel adeilad modern pwrpasol â swyddfeydd a labordai, technolegau priodol a mannau cymdeithasol fel caffis da, ynghyd ag unigolion ymroddedig a rhaglen drosfwaol dda sy’n gwneud i bethau ddigwydd, yn cynnig yr amodau gorau posibl i sicrhau canlyniadau llwyddiannus.”

Mae’r canfyddiadau hyn yn cyd-fynd ag agoriad adeilad sbarc|spark yng nghanol Campws Arloesedd Prifysgol Caerdydd.

Mae’r adeilad o’r radd flaenaf yn dod ag ymchwilwyr, entrepreneuriaid, busnesau newydd gan fyfyrwyr a chwmnïau deillio ynghyd. Mae’n gartref i Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK), y parc ymchwil cyntaf o’i fath yn y byd. Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddwyd mai’r adeilad hwn oedd adeilad Cyflog Byw cyntaf Cymru. Mae’n rhaid i bob tenant – y mae lle i 800 ohonynt yn yr adeilad – dalu o leiaf y cyflog byw gwirioneddol i’w gweithwyr a chontractwyr ar y safle.

Meddai’r Athro Delbridge: “Rydym wedi cynllunio’r adeilad yn ôl gweithgarwch yn hytrach nag adran, drwy ddefnyddio’r arwyddair ‘gweithio ar sail gweithgarwch’. Bydd y mannau mwy preifat a diogel ymhellach i ffwrdd o’r grisiau Oculus, sy’n goron ar y cyfan, a bydd y cynllun agored / parthau trafod mewn grwpiau llai o bob tu i’r grisiau.

Mae hyblygrwydd wrth galon y weledigaeth. Mae angen mannau gwahanol iawn ar gyfer yr holl weithgarwch yn yr adeilad – o fannau tawel ar gyfer y labordy ymddygiad i lawr gwaelod sy’n llawn bwrlwm. Mae angen i’r adeilad ymateb i’r galwadau a chynnig cynlluniau llawr hyblyg y gellir eu newid.

O ystyried rôl hanfodol parciau gwyddor yn y gwaith o gyflawni strategaeth arloesi economïau rhanbarthol a chenedlaethol Cymru, gwnaethom gytuno yn ystod ein cyfarfod y gellid gwneud mwy i drefnu’r parciau gwyddor yn ecosystem arloesi Cymru a chydweithio ar eu traws, gan gynnwys trafod pwysigrwydd posibl rhwydwaith a llais Cymreig i’r parciau gwyddor yma.

Rydym eisoes wedi pwysleisio ei bod yn bwysig bod Cymru’n datblygu ‘naratif arloesi’, a daeth arwyddocâd naratif o’r fath i’r amlwg yn ystod y cyfarfod unwaith eto. Mae angen i’r naratif hwn fod yn seiliedig ar wirioneddau presennol ond cyfleu dyheadau ac uchelgeisiau ein cenedl arloesol. Mae angen dangos a gweld bod y cyfle i arloesi’n gynhwysol ac yn rhywbeth sy’n berthnasol i bobl, cymdeithas a’r economi.

Ein cenhadaeth ar gyfer sbarc|spark yw gwneud hynny’n union: arwain drwy esiampl â phrosiect cyntaf o’i fath yn y DU; rhannu, hyrwyddo ac ymhelaethu ar straeon; tynnu sylw at achosion gwych o lwyddiant; sicrhau ymwybyddiaeth o arloesi a gwneud arloesi’n rhan fawr o fywyd bob dydd.”

Yr Athro Rick Delbridge yw Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter blaenorol Prifysgol Caerdydd (2012-2019). Arweiniodd y gwaith o ddatblygu Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK). Ef yw cyd-awdur y papur ‘Social Science Parks: society’s new super-labs’ ar wefan Nesta, cyd-gynullydd y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd (CIPR) a chyd-awdur papur ‘Scoping the Future of Innovation Policy in Wales’ CIPR.

Agorodd sbarc|spark ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth). I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, ebostiwch SPARK@caerdydd.ac.uk