Skip to main content

PartneriaethauPobl

Bancio teyrngarwch

12 Ebrill 2021

Mae Zeet yn fusnes FinTech newydd a chyffrous sy’n tyfu’n gyflym lle gall cwsmeriaid gasglu pwyntiau teyrngarwch wrth ddefnyddio eu cardiau banc – gan roi diwedd ar gasglu llwyth o gardiau siopau. Un o raddedigion Prifysgol Caerdydd, Steve McCormick (BSc 2020) sefydlodd y busnes, ar y cyd â Josh Sparkes, Rheolwr Ymgynghori Technoleg yn un o’r Pedwar Cwmni Mawr. Mae Zeet yn gadael i gwsmeriaid ddewis pa wobrau yr hoffent eu defnyddio. Maent wedi lansio gwefan newydd ar gyfer defnyddwyr newydd – www.tryzeet.com – ac mae’r cwmni ar fin chwyldroi’r ffordd rydym yn siopa, fel yr eglura Steve McCormick.

‘Mae’r ffordd y sefydlwyd Zeet yn eithaf gwahanol i sut mae busnesau newydd fel arfer yn ffurfio. Ar ôl graddio mewn Rheoli Busnes o Ysgol Busnes Caerdydd, fe ges i gynnig swydd ymgynghorydd mentora technoleg gydag un o’r Pedwar Cwmni Mawr. Fodd bynnag, cafodd ei wthio yn ôl i ddiwedd 2021 oherwydd pandemig Covid-19, felly cefais fy rhoi mewn cysylltiad ag uwch-ymgynghorydd i ddatblygu sgiliau proffesiynol yn y cyfamser. Yn ystod un o’n cyfarfodydd, dywedais wrtho am fy syniad i gysylltu busnesau â chwsmeriaid trwy eu cardiau banc. Fe wnaethon ni sylweddoli’r potensial yn gyflym, ac felly fe ddechreuon ni Zeet.

Y ffocws gwreiddiol ar gyfer Zeet oedd cynnig derbynebau digidol ar unwaith gyda’ch cerdyn banc. Dyluniais dechnoleg lle gallai cwsmeriaid gysylltu eu cyfrif banc i dderbyn derbynneb digidol yn syth wrth dalu â cherdyn, yn lle cael derbynneb papur neu ebost. Fel ymgynghorydd sy’n treulio oriau yn sganio lluniau o dderbynebau papur ar gyfer adroddiadau treuliau, sylweddolodd fy nghyd-sylfaenydd Josh y byddai manteision ariannol i fusnesau wrth dderbyn derbyniadau digidol yn uniongyrchol.

Roedd y dechnoleg hefyd yn caniatáu i gynlluniau teyrngarwch weithio trwy gardiau banc a oedd, yn fy nhyb i, yn nodwedd eilaidd dda, ond wnes i erioed feddwl gormod am y peth. Ond ar ôl siarad â busnesau a chwsmeriaid, buan iawn y daeth i’r amlwg mai effaith y dechnoleg hon oedd y gallu i gysylltu cynlluniau teyrngarwch â chardiau banc. Dychmygwch petasech chi’n gallu casglu pwyntiau teyrngarwch a gwobrau ar unwaith wrth dalu yn lle gorfod sganio neu stampio cerdyn teyrngarwch?

Nawr mae’n hollol amlwg – sawl gwaith ydych chi wedi colli cerdyn teyrngarwch neu heb drafferthu ei ddefnyddio gan eich bod chi wedi ei anghofio neu ar frys? Byddai bywydau’r rhan fwyaf o bobl sy’n siopa gymaint yn haws pe byddent yn gallu casglu pwyntiau teyrngarwch yn awtomatig wrth dalu â cherdyn yn hytrach na chael dwsinau o gardiau teyrngarwch.

Ond perchnogion busnesau annibynnol fydd yn manteisio ar y dechnoleg hon yn bennaf. Bydd Zeet yn caniatáu i berchnogion busnes greu eu rhaglenni teyrngarwch eu hunain sy’n eu gosod ar wahân ac yn rhoi rheswm i gwsmeriaid ddod yn ôl.

Nid yw cynnig coffi am ddim bob 6 stamp yn mynd i gynyddu teyrngarwch cwsmeriaid os yw pob siop goffi arall yn gwneud yr un peth. Ond beth petaech yn gallu cynnig rhaglen ffyddlondeb ar sail pwyntiau i gwsmeriaid sy’n cysylltu â’u banc ac yn rhoi rhyddid iddynt ddewis pa wobrau maen nhw am eu defnyddio? Nid yw’r brandiau mwyaf yn gallu gwneud hynny hyd yn oed!

Trwy gysylltu â chardiau banc, ni fydd busnesau yn methu ag adnabod eu prif gwsmeriaid, a gallant gynnig gwasanaeth gwirioneddol bersonol i’w cwsmeriaid gydag ymgyrchoedd hyrwyddo awtomataidd.  Gall busnesau anfon gwobrau pen-blwydd yn awtomatig a chyflwyno cynigion sydd wedi’u teilwra i bob cwsmer. Os yw cwsmer yn dangos ei fod yn well ganddo brynu math penodol o goffi, gall busnesau anfon cynigion penodol yn awtomatig i sicrhau eu teyrngarwch.

Rydym newydd ddechrau adeiladu ein cynnig cyntaf ac rydym yn gobeithio ei ryddhau dros y misoedd nesaf wrth i’r cyfyngiadau clo ddechrau llacio. Er bod pandemig Covid-19 wedi cael effaith ar fusnesau brics a morter, rydym yn hyderus y bydd Zeet yn helpu busnesau annibynnol i adfer a dod yn fwy llwyddiannus nag erioed o’r blaen.

Lansio yn Llundain yw’r nod ond ein bwriadu yw tyfu’n gyflym yn y DU ac yna’r UE a’r UD. Rydym yn cynnal trafodaethau gyda darparwyr EPOS blaenllaw’r DU a fydd yn ein helpu i gyrraedd degau o filoedd o fusnesau annibynnol yn y DU. Ar ôl lansio, byddwn yn paratoi i godi cyllid sbarduno i’n helpu i gyflwyno ein cynlluniau ar raddfa gyflym.

Yn ddiweddar rydym wedi dechrau casglu cofrestriadau beta cyfyngedig gan gwsmeriaid a busnesau, felly ewch i  www.tryzeet.com i gadw eich lle!’

Steve McCormick

Cyd-sylfaenydd, Zeet