Skip to main content

Adeiladau'r campws

Dathliadau ar ddechrau pennod newydd i WISERD

26 Chwefror 2020

Celebrating Civil Society Research event - group shot of all attendees at the Senedd

Yr wythnos diwethaf cynhaliodd WISERD ddigwyddiad i randdeiliaid yn y Senedd i lansio eu cynllun pum mlynedd ar gyfer ymchwil i’r gymdeithas sifil gyda chyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Daeth dros 70 o bobl i’r digwyddiad gan gynnwys y siaradwyr gwadd Mark Drakeford, AC, Prif Weinidog Cymru a’r Athro Alison Park, Cyfarwyddwr Ymchwil yn ESRC.

, First Minister of Wales speaking at the event
Mark Drakeford AM

Yn y digwyddiad, meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Mae llwyddiant WISERD yn dyst i’r ffordd mae’n cydweithio â phrifysgolion ac elusennau ledled Cymru, Ewrop, a’r byd. Ni fu ffeithiau erioed mor bwysig, a bydd cael canolfan wybodaeth o’r radd flaenaf sy’n ein helpu ni yn y Llywodraeth i wneud y penderfyniadau cywir, yn ein helpu i adeiladu Cymru well i ni, ac i genedlaethau’r dyfodol.”

Bydd y cyllid newydd o £6.3m a ddarperir gan ESRC yn galluogi ymchwil fydd yn edrych ar anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, mudo ac amlddiwylliannaeth, yr economi sylfaenol, deinameg newidiol gwaith, a hawliau anifeiliaid a deallusrwydd artiffisial.

WISERD Newyddion – Dathlu Ymchwil I’r Gymdeithas Sifil: Pennod Newydd