Skip to main content

Adeiladau'r campws

HOK – Dylunio’r Cyfleuster Ymchwil Drosiadol

28 Medi 2018

Mae prifysgolion gwych yn fwy na chanolfannau dysgu ac ymchwil.

Peiriannau arloesi ydyn nhw sy’n sbarduno datblygu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd y tu hwnt i fusnes.

Maen nhw’n awyddus iawn i gydweithio ag elusennau, sefydliadau dielw, sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r llywodraeth i drawsnewid ein cymunedau lleol a’r byd.

Mae arloesedd Prifysgol Caerdydd yn tynnu sylw’r byd ac yn denu buddsoddiadau a swyddi.

Bydd Cyfleuster Ymchwil Drosiadol newydd y Brifysgol yn atgyfnerthu’r duedd hon drwy ddarparu labordy a gweithle blaengar lle gall gwyddonwyr a’r sector preifat gydweithio ar syniadau fydd yn arwain at ddarganfyddiadau arloesol yn y dyfodol.

Mae’r Cyfleuster Ymchwil Drosiadol ar y gweill.

 

Sefydliadau Ymchwil Blaengar

Y datblygiad diweddaraf sy’n creu tonnau ar y Campws Arloesedd ar Heol Maendy yw bod y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol yn uno dau sefydliad ymchwil blaengar y Brifysgol o dan yr un to.

Sefydliad Catalysis Caerdydd yw un o gyfleusterau catalysis gorau’r DU.

Mae ei ymchwilwyr yn cydweithio â gwyddonwyr rhyngwladol a pheirianwyr cemegol wrth ymchwilio i ddatblygiadau newydd mewn meysydd fel cynhyrchu tanwyddau a’r defnydd o ddŵr. Mae catalyddion yn cyflymu adweithiau cemegol, sy’n gwneud prosesau allweddol yn bosibl, yn economaidd-ddichonadwy ac yn bosibl i’w cyflwyno’n fwy eang. Maen nhw wrth wraidd bron pob proses a chynnyrch diwydiannol.

Mae’r Sefydliad ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn gyfleuster pwrpasol ar gyfer ymchwilio i dechnolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd, a’u profi a’u datblygu’n fasnachol. Bydd hyn yn sail i’n bywydau yn yr unfed Ganrif ar hugain, gan hybu technolegau fel Rhyngrwyd y Pethau, roboteg, cerbydau awtonomaidd, 5G a gofal iechyd.

Dyma ofod hyblyg a allai fod yn agored i bartneriaid mewnol ac allanol yn y dyfodol.

 

Herio Dylunio

Yn ogystal â galw am gyfleuster blaengar o ran technoleg a chydweithio ar gyfer y sefydliadau hyn, heriodd y Brifysgol dîm dylunio HOK i greu amgylchedd fyddai’n ysbrydoli’r dychymyg, magu iechyd a lles y gweithlu ynddo a denu myfyrwyr ac ymchwilwyr o’r radd flaenaf. Roedd siâp y safle, oedd yn hir ac yn gul ar ymyl rheilffordd weithredol, yn herio’r dylunwyr.

Mae dyluniad HOK yn llunio adeilad sy’n ymgorffori ysbryd a hunaniaeth pob sefydliad gan gynnig mannau cyffredin i gydweithio a rhyngweithio. Mae gan yr adeilad 11,275m2 o arwynebedd llawr ac yn cynnwys tair prif ran, sef cyfleuster microsgopeg, ystafelloedd glân a labordy chwe-lawr. Mae gan bob un o’r rhannau hyn lawer o le ar gyfer swyddfeydd ac ymchwil sy’n benodol i bob sefydliad. Ar ben hynny, mae mannau cyffredin a mannau cydweithio ar gael.

Mae atriwm canolog yn cysylltu’r tair prif ran ac yn darparu man disglair i groesawu ymwelwyr a chynnal digwyddiadau ynddo. Bydd ymwelwyr yn gallu edrych i mewn i’r labordai a gweld yr ymchwilwyr wrth eu gwaith. Mae mannau eraill yn cynnig lleoedd y tu allan i’r adeilad i gwrdd mewn awyrgylch dymunol neu fyfyrio’n dawel. Mae’r rhain yn cynnwys sgwâr y fynedfa â chanopi drosti, gardd law a tho gwyrdd dros yr atriwm.

Er mwyn lleihau effaith y dirgryniadau o’r rheilffordd gyfagos, mae labordai sy’n sensitif i ddirgryniadau (fel y rheini sy’n cadw microsgop electron uwch CCI a all weld mater ar lefel is-angstrom) yn bell i ffwrdd ohoni. Yn yr un modd, bydd mannau llwytho a gweithgareddau eraill fydd yn achosi dirgryniadau ar bwys y rheilffordd ac yn bell o fannau ymchwil yr adeilad a thai gerllaw.

 

Diogelu’r Dyfodol

Ychydig iawn o feysydd sy’n esblygu’n gynt na gwyddoniaeth a thechnoleg. Dylunnir y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol yn ôl y safonau cyfredol uchaf yn ogystal ag ystyried datblygiadau degawdau yn y dyfodol.

Er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn parhau i ddefnyddio ynni’n effeithlon yn y dyfodol, bydd yr adeilad yn ceisio am radd ragorol yn unol â safonau cynaliadwyedd llym BREEAM.

Yn yr un modd, mae strwythur modiwlaidd a dyluniad hyblyg y cyfleuster yn golygu y gellir addasu mannau ar gyfer swyddfeydd a labordai er mwyn diwallu anghenion a newidiadau’r dyfodol.

Dyma ddyluniad addas ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

 

Shem Sacewicz, Dyluniwr Labordai, HOK